Module Information

Cod y Modiwl
HYM7520
Teitl y Modiwl
Gorwelion Coll yr Unol Daleithiau ac her Gogledd America Prydeinig, 1760-1871
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd  3000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  3000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd  3000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd  3000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dealltwriaeth o hanes yr Unol Daleithiau a Chanada rhwng 1760 a 1871.

Cydnabyddiaeth o sut mae ein dealltwriaeth o orffennol America wedi cael ei fowldio gan ddisgwrs gwleidyddol, cymdeithasol, a diwylliannol.

Dealltwriaeth amlwg o’r prif themau gwleidyddol, cymdeithasol a diwyllianol sydd wedi nodweddu esblygiad yr Unol Daleithiau a Chanada rhwng 1607 a 1867.

Dadansoddiad beirniadol o ysgoloriaeth hanesyddol.

Sgiliau cyfathrebu wrth gyflwyno a dadansoddi hanes yr Unol Daleithiau a Chanada, 1760-1871.

Disgrifiad cryno

Yn wahanol i’r hyn mae llawer o Americaniaid yn ei feddwl, ni wthiwyd Prydain mas o Ogledd America ar ddiwedd eu Rhyfel Annibyniaeth. Goroesodd a ffynnodd Gogledd America Prydeinig a thyfodd i fod yn Ganada, gwlad sy’n cael ei chydnabod fel un o’r democratiaethau brenhiniaethol mwyaf rhyddfrydol ac amlddiwylliannol yn y byd. Mae’r modiwl hyn yn archwilio sut yr effiethiodd presenoldeb parhaus Prydain i’r gogledd ar esblygiad y genedl Americanaidd, a’i hunaniaethau rhanbarthol ac adrannol. Mae’n gwneud hyn trwy ganolbwyntio ar rol Gogledd America Prydeinig mewn disgwrs cyhoeddus Americanaidd, ar lawr y Gyngres, mewn papurau newydd, cylchgronau, cyfnodolion, a chanllawiau teithio. Bydd myfyrwyr yn dysgu am effeithiau gwahanol y taleithiau Prydeinig ar Americanwyr y De a’r Gogledd, du a gwyn. Archwiliwn integreiddiad Canada Ffrengig i mewn i Ogledd America Prydeinig y 1760au. Edrychwn ar effaith Deddf Quebec 1774 ar nid yn unig Americanwyr chwyldroadol ond hefyd Prydeinwyr Americanaidd, a sut y dylanwadodd ar esblygiad eu hymrwymiad i integreiddio ethnig. Gwelwn sut y gwnaeth asesiadau gwahanol o bresenoldeb Prydain ddylanwadu ar wahaniaethau adrannol cynyddol o’r 1820au ymlaen. Mae lleisiau caethweision ffo du Americanaidd yn datgelu sut y gwnaeth America Prydeinig eu helpu i feithrin hunaniaethau cymdeithasol, gwleidyddol, teuluol, a rhywedd a wrthodwyd iddynt yn yr UD. A gwelwn sut y gwnaeth y llwybr i hegemoni cyfandirol fagu’r gred ymhlith Americaniaid mai tynged y taleithiau Prydeinig yn y pen draw oedd i ymuno â’r UD. Dyma stori y genedl Americanaidd sydd wedi’i anghofio. Dyma ein Gorwelion Coll.

Cynnwys

1. Cyflwyniad - Pam Gorwelion Coll?
2. Quebec yng Ngogledd America Prydeinig, 1760 – 1775
3. Gwrthdaro ac Anheddiad - Americaniaid yng Nghanada
4. Y Daith Ffasiynol
5. Gwrthryfeloedd Canada
6. Lloches i Dduon Rhydd A Chaethwesiion
7. Llywodraeth Gyfrifol
8. Gogledd America Prydeinig a’r Rhyfel Cartref
9. Twymyn Cyfeddiannaeth
10. Cytundeb Washington

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Trwy waith seminar
Cyfathrebu Dangos a datblygu'r gallu i gyfathrebu syniadau trwy'r seminarau a'r traethodau. Asesir yr olaf yn unig.
Datrys Problemau Creadigol Arddangos sut mae haneswyr wedi defnyddio amrywiaeth o ddulliau methodolegol i ddeall y problemau yn y maes.
Gallu digidol Defnyddio amrywiaeth o declynnau chwilio ac ymchwil er mwyn archwilio'r ffynonellau a'r llenyddiaeth sy'n bodoli. Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin i baratoi gwaith ysgrifenedig i'w asesu.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dysgu sut i ddod o hyd i ffynonellau eilradd addas ac wedyn defnyddio'r ffynonellau hyn yn eu gwaith.
Myfyrdod Gwella'u dysgu a'u perfformiad yn ystod seminarau a thrwy adborth y traethodau.
Synnwyr byd go iawn Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymgymryd a gwaith ymchwil hanesyddol, paratoi a chynllunio ar gyfer y cwrs a'r yrfa

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7