Module Information

Cod y Modiwl
RG11610
Teitl y Modiwl
Datblygu a Rheoli Cynefinoedd ym Mhrydain
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Prawf aml-ateb canol tymor  50%
Asesiad Ailsefyll Prawf aml-ateb diwedd tymor  50%
Asesiad Semester Prawf aml-ateb canol tymor  50%
Asesiad Semester Prawf aml-ateb diwedd tymor  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Amlinellu dosbarthiad cynefinoedd allweddol mewn ystod o systemau priodol

2. Disgrifio'r ffactorau naturiol sy'n dylanwadu ar ddatblygiad cynefinoedd allweddol;

3. Egluro rôl dynolryw yn natblygiad hanesyddol cynefinoedd allweddol;

4. Disgrifio'r rheolaeth a'r defnydd cyfredol o gynefinoedd cyfredol a phynciau sy'n codi o ganlyniad;

5. Adnabod gwerth, statws a photensial o ran cadwraeth cynefinoedd allweddol.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r rhyngberthynas rhwng ffactorau naturiol a gweithrediadau gan ddyn sy'n arwain at ddatblygu'r prif grwpiau o gynefinoedd daearol a geir ym Mhrydain: coetiroedd; glaswelltiroedd; cymunedau arfordirol, ucheldirol a mynyddig; rhostiroedd a mignenni; corsydd a ffeniau; cynefinoedd ymylol a thros dro; a thiroedd âr. Ystyrir y defnydd o'r cynefinoedd hyn at ddibenion masnachol amrywiol ochr yn ochr â'u gwerth i fywyd gwyllt a'r tirwedd. Bydd y modiwl yn ystyried i ba raddau y gall gwahanol fathau o gynefin wasanaethau fel elfennau allweddol o dirwedd amlswyddogaethol; y pwysau ar y cynefinoedd hyn gan gystadleuwyr; a'r gorchmynion, y polisau; a'r cynlluniau sydd mewn lle er mwyn dylanwadu ar reolaeth y cynefinoedd hyn.

Cynnwys

Yn achos coetiroedd; glaswelltiroedd; cymunedau arfordirol, ucheldirol a mynyddig; rhostiroedd a mignenni; corsydd a ffeniau; cynefinoedd ymylol a thros dro; a thiroedd âr, fe ystyrir y canlynol:

Dosbarthu cynefinoedd, y prif fathau o gynefin a'r ffactorau sy'n dylanwadu ar eu datblygiad.
Systemau hanesyddol a modern rheoli a'u heffaith ar y cynefin.
Defnydd masnachol a defnyddiau eraill.
Statws ac amodau cadwraeth.
Rhywogaethau a chymunedau allweddol o ddiddordeb cadwraethol.
Polisïau, cynlluniau a mecanweithiau eraill ar gyfer cadw a rheoli'r cynefin.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Paratoi nodiadau ar gyfer adolygu i'r profion aml-ateb
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau
Gwaith Tim Bydd casglu data yn cael ei wneud mewn tîmoedd bychain.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun
Rhifedd Gwneir peth dadansoddi cyfyngedig o ddata fel elfen o asesiad
Sgiliau pwnc penodol Adnabod planhigion mewn maes.
Sgiliau ymchwil Gall ymweliadau maes gynnwys peth casglu data.
Technoleg Gwybodaeth Paratoi graffiau ar gyfer adolygu i'r profion aml-ateb

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4