Module Information
Cod y Modiwl
AD20320
Teitl y Modiwl
Dulliau Ymchwil
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Atodol 2 Datganiad o fethodoleg ar gyfer traethawd hir trydydd blwyddyn y myfyrwyr 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Aseinaid Atodol 1 Amlinelliad pwnc ac adolygiad llenyddiaeth ar bwnc o ddewis y myfyriwr a fydd yn sail i'w traethawd hir trydedd flwyddyn 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Semester | Aseiniad 1 Amlinelliad pwnc ac adolygiad llenyddiaeth ar bwnc o ddewis y myfyriwr a fydd yn sail i'w traethawd hir trydedd flwyddyn 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Semester | Aseiniad 2 Datganiad o fethodoleg ar gyfer traethawd hir trydydd blwyddyn y myfyrwyr 2000 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Gwerthuso'r feirniadol wahanol fathau o gynllunio ymchwil.
Trafod yn feirniadol y gwahaniaethau rhwng cynlluniau ymchwil ansoddol a meintiol.
Archwilio'r feirniadol y llenyddiaeth berthnasol yn eu dewis faes ymchwil.
Arddangos ymgysylltu beirniadol a ffynonellau perthnasol.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i ystod o ddulliau ymchwil sy'r gyffredin mewn ymchwil addysgol. Bydd hefyd yn anelu at ddatblygu ymwybyddiaeth y myfyrwyr o'r pynciau sy'r gysylltiedig a gwahanol ddewisiadau methodolegol ac yn arwain y myfyrwyr wrth gynllunio prosiect ymchwil ar raddfa fechan.
Cynnwys
Bydd darlithoedd a seminarau yn seiliedig ar y canlynol:
Darlith a seminar 1: Mathau o ymchwil
Darlith a seminar 2: Dulliau ymchwil ansoddol
Darlith a seminar 3: Dulliau ymchwil meintiol
Darlith a seminar 4: Cynllunio methodoleg a dadansoddi data
Darlith a seminar 5: Moeseg ymchwil
Darlith a seminar 6: Darllen yn feirniadol a llunio cwestiynau/damcaniaethau ymchwil
Darlith a seminar 7: Strwythuro arolwg o'r llenyddiaeth
Darlith a seminar 8: Llunio cynnig ar gyfer traethawd estynedig
Darlith a seminar 9: Sesiynau cyfarwyddyd unigol ar gynigion traethawd estynedig
Darlith a seminar 10: Sesiynau cyfarwyddyd unigol ar gynigion traethawd estynedig
Darlith a seminar 1: Mathau o ymchwil
Darlith a seminar 2: Dulliau ymchwil ansoddol
Darlith a seminar 3: Dulliau ymchwil meintiol
Darlith a seminar 4: Cynllunio methodoleg a dadansoddi data
Darlith a seminar 5: Moeseg ymchwil
Darlith a seminar 6: Darllen yn feirniadol a llunio cwestiynau/damcaniaethau ymchwil
Darlith a seminar 7: Strwythuro arolwg o'r llenyddiaeth
Darlith a seminar 8: Llunio cynnig ar gyfer traethawd estynedig
Darlith a seminar 9: Sesiynau cyfarwyddyd unigol ar gynigion traethawd estynedig
Darlith a seminar 10: Sesiynau cyfarwyddyd unigol ar gynigion traethawd estynedig
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol aseiniadau ysgrifenedig. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Rhoddir cyfle i'r myfyrwyr archwilio meysydd ymchwil addysgol. |
| Datrys Problemau | Elfen hanfodol o'r broses o asesu'n feirniadol. |
| Gwaith Tim | Mae gweithgareddau seminar yn darparu nifer o gyfleoedd ar gyfer gwaith tim, gan gynnwys cyflwyniadau grwp a thrafodaethau. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar yn annog gwella perfformiad. |
| Rhifedd | Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. |
| Sgiliau pwnc penodol | |
| Sgiliau ymchwil | Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau. |
| Technoleg Gwybodaeth | Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
