Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad atodol 2 Awr | 60% |
| Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 Awr | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2000 o eiriau | 40% |
| Asesiad Semester | Traethawd 2000 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Trafod yn feirniadol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, weithiau llenyddol o'r cyfnod dan sylw, gan ystyried elfennau megis eu syniadaeth/ideoleg, eu crefft a'u strwythur, a'u perthynas a'r traddodiad llenyddol Cymraeg ac a mudiadau llenyddol rhyngwladol lle bo'r rheiny'n berthnasol.
Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r gweithiau llenyddol a astudir yng nghyd-destun hanesyddol a chymdeithasol y cyfnod diweddar.
Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r gweithiau llenyddol a astudir mewn perthynas a safonau beirniadaeth lenyddol berthnasol.
Disgrifiad cryno
Modiwl yw hwn a fydd yn archwilio datblygiad barddoniaeth Gymraeg o'r flwyddyn 1979 (blwyddyn y Refferendwm cyntaf ar Ddatganoli) ymlaen. Bydd y cwrs yn asesu cyfraniad beirdd diweddar i'r llen ac yn dadansoddi adlewyrchiad digwyddiadau hanesyddol yn eu gwaith. Ymhlith y beirdd yr edrychir ar eu gwaith bydd Alan Llwyd, Gerallt Lloyd Owen, Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafydd, Twm Morys, Emyr Lewis, a Gwyneth Lewis; edrychir hefyd ar ambell gerdd hir eisteddfodol nodedig. Ystyrir yr elfennau ceidwadol yn ogystal a'r rhai blaengar yn ein barddoniaeth ddiweddar.
Cynnwys
.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Bydd cyfle i fyfyrwyr gyd-drafod a rhannu syniadau wrth drafod testunau penodol. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Dadansoddi testunau o safbwynt generig ac adnabod confensiynau llenyddol penodol. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Dadansoddir testunau Cymraeg o safbwynt ieithyddol, diwylliannol a llenyddol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
