Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Sgript ar gyfer cyflwyniad | 10% | 
| Asesiad Ailsefyll | Poster academaidd A0 | 45% | 
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad 1 1500 gair | 45% | 
| Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar grwp (10 munud) | 10% | 
| Asesiad Semester | Adroddiad 1 1500 gair | 45% | 
| Asesiad Semester | Poster academaidd A0 | 45% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Trafod cyfaddasrwydd yr amryw dduliau a thechnegau sy'n allweddol i waith maes daearyddiaeth, yr amgylchedd a defnydd tir.
2. Defnyddio technegau penodol er mwyn casglu gwybodaeth yn y maes.
3. Dadansoddi a chyflwyno canlyniadau gwaith maes.
4. Deall, dehongli a gwerthuso data maes.
5. Cyflwyno canlyniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn cyflwyno egwyddorion ac arferion technegau allweddol a ddefnyddir mewn gwaith maes yn nisgyblaethau daearyddiaeth, astudiaethau amgylcheddol ac astudiaethau defnydd tir. Mae'n cynnig profiad o ddefnyddio amryw ddulliau a thechnegau gwaith maes er mwyn casglu a dadansoddi gwybodaeth mewn perthynas a daearyddiaeth, yr amgylchedd a defnydd tir.
Cynnwys
Amcan y modiwl hwn yw:
1.Cyflwyno egwyddorion technegau sy'n berthnasol i astudiaethau maes ar gyfer daearyddiaeth, astudiaethau'r amgylchedd a defnydd tir.
2. Cynnig profiad o ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau i gasglu gwybodaeth ddaearyddol, amgylcheddol ac o systemau defnydd tir.
3. Rhoi hyfforddiant mewn dadansoddi a chrynhoi canlyniadau o astudiaethau maes.
4. Meithrin dealltwriaeth o arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng nghyd-destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol)
5. Rhoi profiad o gyflwyno data ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu data maes yn ysgrifenedig ac ar lafar drwy drafodaethau grwp, gwaith cwrs a chyflwyniad llafar. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae’r themau a drafodir yn berthnasol i broblemau rheoli’r amgylchedd, ac felly bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau perthnasol iawn i gyflogaeth. Bydd gofyn i fyfyrwyr adlewyrchu ar lwyddiant y technegau gwaith maes a ddefnyddiwyd a’u perfformiad fel grwpiau gwaith maes. | 
| Datrys Problemau | Wedi'i ddatblygu drwy gyflawni'r gwaith maes. | 
| Gwaith Tim | Bydd gofyn i fyfyrwyr weithio’n llwyddiannus fel rhan o grwp er mwyn casglu, dadansoddi a chyflwyno data. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd gofyn i fyfyrwyr addasu er mwyn gweithio fel rhan o grwp, weithiau mewn lleoliadau a/neu dywydd heriol, gan ddatblygu gwytnwch. | 
| Rhifedd | |
| Sgiliau pwnc penodol | Bydd sgiliau maes a dadansoddi data gan ddefnyddio meddalwedd mapio ac ystadegol yn angenrheidiol. | 
| Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i fyfyrwyr werthuso dulliau maes yn gritigol. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio amrywiaeth o fathau o feddalwedd cyfrifiadurol er mwyn casglu, dadansoddi a chyflwyno data. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
