Module Information
			 Cod y Modiwl
		
AD10020
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Ymarfer Proffesiynol
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2026/2027
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 2
Rhestr Ddarllen
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Cynllun Ymchwil Cynllun ymchwil (rhoddir arweiniad ar bynciau priodol sy'n gysylltiedig â'r modiwl) 2100 o eiriau | 70% | 
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Myfyriol Aseiniad myfyriol yn canolbwyntio ar ymddygiad proffesiynol 900 o eiriau | 30% | 
| Asesiad Semester | Aseiniad Myfyriol Aseiniad myfyriol yn canolbwyntio ar ymddygiad proffesiynol 900 o eiriau | 30% | 
| Asesiad Semester | Cynllun Ymchwil Cynllun ymchwil (rhoddir arweiniad ar bynciau priodol sy'n gysylltiedig â'r modiwl) 2100 o eiriau | 70% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth i weithio'n effeithiol fel ymarferydd blynyddoedd cynnar.
Trafod yn feirniadol ddulliau addysgeg a ffyrdd o weithio gyda phlant ifanc .
Deall a gwerthuso'r prif egwyddorion sy'n sail i arweinyddiaeth blynyddoedd cynnar a gweithio mewn partneriaeth.
Egluro rôl ymarfer myfyriol mewn cyd-destunau Blynyddoedd cynnar a gwerthuso modelau ymchwil priodol o ymarfer myfyriol.
Datblygu dealltwriaeth o effaith yr iaith a'r diwylliant Cymraeg ar leoliadau'r blynyddoedd cynnar a'r gweithlu.
Disgrifiad cryno
 
 Mae'r modiwl hwn yn dechrau datblygu sgiliau proffesiynol ac ymarferol myfyrwyr i weithio fel ymarferwyr effeithiol o fewn y blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn caffael gwybodaeth am y cysyniadau allweddol sy'n ganolog i weithio gyda phlant ifanc, gan gynnwys archwilio egwyddorion gweithio mewn partneriaeth, cyflwyniad i'r dulliau damcaniaethol o arwain ac ystyried gwahanol ddulliau addysgeg o weithio gyda phlant ifanc. 
 
Elfen graidd o'r modiwl fydd datblygu ymarfer myfyriol a bydd myfyrwyr yn dechrau datblygu eu sgiliau myfyrio beirniadol. Bydd myfyrwyr yn archwilio'n feirniadol ddulliau ymchwil a swyddi moesegol sy'n ymwneud â gweithio gyda phlant. Mae'r modiwl yn pwysleisio pwysigrwydd effaith yr iaith a'r diwylliant Cymraeg ar weithle'r blynyddoedd cynnar. I gynorthwyo ymarfer myfyriol, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliad 50 awr mewn lleoliad blynyddoedd cynnar fel rhan o'r modiwl hwn.
 
 
Elfen graidd o'r modiwl fydd datblygu ymarfer myfyriol a bydd myfyrwyr yn dechrau datblygu eu sgiliau myfyrio beirniadol. Bydd myfyrwyr yn archwilio'n feirniadol ddulliau ymchwil a swyddi moesegol sy'n ymwneud â gweithio gyda phlant. Mae'r modiwl yn pwysleisio pwysigrwydd effaith yr iaith a'r diwylliant Cymraeg ar weithle'r blynyddoedd cynnar. I gynorthwyo ymarfer myfyriol, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliad 50 awr mewn lleoliad blynyddoedd cynnar fel rhan o'r modiwl hwn.
Cynnwys
 
 Bydd cynnwys gweithdai a seminarau yn canolbwyntio ar y themâu canlynol: 
Swyddi, cyfrifoldebau ac atebolrwydd yn y gweithle blynyddoedd cynnar
Ymarfer myfyriol
Dulliau ymchwil a moeseg
Dulliau a moddau o weithio gyda phlant ifanc
Creu amgylchedd dysgu
Gweithio mewn partneriaeth
Iaith a diwylliant Cymraeg yn y gweithle
Dulliau damcaniaethol o arwain a rheoli
Bydd y pythefnos diwethaf yn lleoliad mewn lleoliad blynyddoedd cynnar.
 
 
Swyddi, cyfrifoldebau ac atebolrwydd yn y gweithle blynyddoedd cynnar
Ymarfer myfyriol
Dulliau ymchwil a moeseg
Dulliau a moddau o weithio gyda phlant ifanc
Creu amgylchedd dysgu
Gweithio mewn partneriaeth
Iaith a diwylliant Cymraeg yn y gweithle
Dulliau damcaniaethol o arwain a rheoli
Bydd y pythefnos diwethaf yn lleoliad mewn lleoliad blynyddoedd cynnar.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Datblygiad Personol a Chynllunio Gyrfa - Bydd myfyrwyr yn dechrau datblygu'r sgiliau i weithio fel gweithiwr proffesiynol. | 
| Cydlynu ag erail | Drwy gydol y modiwl, bydd myfyrwyr yn archwilio pwysigrwydd gweithio gydag eraill. | 
| Cyfathrebu proffesiynol | Drwy gydol y modiwl, bydd myfyrwyr yn archwilio pwysigrwydd cyfathrebu'n broffesiynol. | 
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd angen i fyfyrwyr edrych ar ffyrdd creadigol o ddelio â phroblemau neu sefyllfaoedd anodd. Bydd y cynllun ymchwil yn caniatáu i fyfyrwyr feddwl am sut y gall ymchwil helpu i ddatrys cwestiynau penodol. | 
| Gallu digidol | Bydd myfyrwyr yn edrych ar y rhan y gall technoleg ei chwarae wrth gefnogi ymarfer proffesiynol. | 
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd myfyrwyr yn dechrau archwilio pwysigrwydd ymchwil gweithredol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. | 
| Myfyrdod | Gwella Dysgu a Pherfformiad: Bydd myfyrwyr yn archwilio pwysigrwydd myfyrio ar eu sgiliau a defnyddio adborth i wella. | 
| Sgiliau Pwnc-benodol | Bydd ymarfer myfyriol yn agwedd allweddol ar y modiwl, o ystyried pwysigrwydd hyn yn ymarferol. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
