Module Information
			 Cod y Modiwl
		
BBM8820
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Newid Ymddygiad
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2026/2027
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Dysgu o Bell
Rhestr Ddarllen
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Gall myfyriwr ail-sefyll elfennau asesiad sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl. | 100% | 
| Asesiad Semester | Fforwm Ar-lein (O leiaf 1200 o eiriau) | 25% | 
| Asesiad Semester | Cyflwyniad (20 munud) | 35% | 
| Asesiad Semester | Astudiaeth Achos (3000 o eiriau) | 40% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Esbonio'r heriau presennol a'r dyfodol sy'n gysylltiedig ag ymddygiad yn y gadwyn gyflenwi bwyd a bioseiliedig
2. Trafod hanes a chyd-destun newid ymddygiad
3. Disgrifio'r penderfynyddion seicolegol, cymdeithasegol a chyd-destunol ymddygiad
4. Dadansoddi a gwerthuso nifer o fodelau ac dulliau newid ymddygiad
5. Trafod moeseg a'u defnydd mewn ymyriadau newid ymddygiad
6. Cynnig a chymhwyso dulliau/modelau newid ymddygiad priodol ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd
Disgrifiad cryno
 
 Mae'r modiwl hwn yn rhan o gyrsiau BioArloesedd Cymru. Bydd myfyrwyr yn dysgu am hanes a datblygiad newid ymddygiad fel disgyblaeth, gan gynnwys sut y gall esblygiad a datblygiad yr ymennydd dynol ddylanwadu ar ymddygiad a gyrwyr seicolegol ymddygiad yn ogystal a gwerthuso nifer o fodelau a dulliau o newid ymddygiad cydnabyddedig. 
 
Bydd yn archwilio sut a lle y gellid defnyddio dulliau newid ymddygiad, tynnu sylw at ymchwil berthnasol a chynnwys astudiaethau achos sy'n berthnasol i'r sectorau cynhyrchu, prosesu a manwerthu bwyd a biotechnoleg.
 
Cynnwys
 
 Bydd y modiwl yn delio a’r canlynol: 
 
1) Hanes/datblygiad dulliau newid ymddygiad - sut mae theori ac ymarfer wedi datblygu ac wedi cael eu defnyddio mewn cymdeithas a gwersi a ddysgwyd o ymarferwyr newid ymddygiad llwyddiannus
 
2) Y seicoleg a chymdeithaseg y tu ol i newid ymddygiad - sy'n cynnwys y mewnwelediadau ymddygiadol mwyaf dylanwadol neu gydnabyddedig a damcaniaethau newid ymddygiad.
 
3) Archwilio damcaniaethau sy'n ymwneud ag esblygiad a datblygiad yr ymennydd dynol - sut y gall ddylanwadu ar ymddygiad a'n helpu i ddeall sut mae dulliau newid ymddygiad yn gweithio
 
4) Cyd-destunoli a dylanwadau ymddygiad yr amgylchedd ehangach - sut y gallai ffactorau y tu allan i reolaeth unigolyn effeithio ar eu hymddygiad
 
5) Modelau sefydledig o newid ymddygiad - mae sawl model sy'n disgrifio sut y gellir rhoi damcaniaeth newid ymddygiad ar waith; bydd detholiad o fodelau sefydledig yn cael eu hesbonio'n fanwl
 
6) Moeseg newid ymddygiad - goblygiadau defnyddio dulliau newid ymddygiad i ddylanwadu ar weithredoedd pobl heb eu gwybodaeth na'u cydsyniad
 
7) Cymwysiadau newid ymddygiad - sut, pryd a ble y gellir defnyddio dulliau newid ymddygiad orau
 
8) Astudiaethau achos o ymyriadau newid ymddygiad sy'n berthnasol i sectorau bwyd-amaeth a biotechnoleg (e.e. lleihau gwastraff bwyd, ailgylchu, defnyddio ynni, plastig untro).
 
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr fynegi eu hunain yn briodol i’r aseiniad ac i drafod pynciau priodol a’u gilydd yn y fforymau. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn rhoi i’r myfyrwyr yr ymchwil diweddaraf i fewn i egwyddorau newid ymddygiad i’w helpu i rannu gwybodaeth/cyngor diweddaraf gyda’u cydweithwyr/cleientiaid yn y diwydiannau bioseiliedig a bwyd-amaeth. Mae newid ymddygiad yn broses adlewyrchol fydd yn anochel yn arwain at ddatblygiad personol a bydd yr asesiadau yn cynnwys trafodaethau adlewyrchol, ond ni fydd asesiad penodol ar ddatblygiad personol gyrfaol. | 
| Datrys Problemau | Defnyddir fforymau ar-lein i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau myfyrwyr, trwy ddefnyddio cwestiynau sy'n cyflwyno problemau damcaniaethol i'r myfyrwyr eu datrys. Mi fydd yr astudiaeth achos yn mynnu bod myfyrwyr yn cynnig ffyrdd o gymhwyso modelau newid ymddygiad i sefyllfaoedd penodol. | 
| Gwaith Tim | Bydd fforymau ar-lein yn mynnu bod myfyrwyr yn dadlau ymhlith ei gilydd i ddatblygu consensws barn. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Rhoddir adborth manwl ar gyfer gwaith aseiniad i weld ble all gwelliannau gael eu gwneud ar gyfer yr aseiniadau nesaf. Bydd aseiniad furfiannol yn rhoi cyfle di-risg i gael adborth ac mi fydd 3 fforwm a asesir ble darperir adborth mewn da bryd i wella yn fforwmau canlynol. Bydd cwisiau amlddewis ffurfiannol yn galluogi i fyfyrwyr i weld ble sydd angen ffocysu eu astudiaeth hunangyfeiriedig. | 
| Rhifedd | Bydd gofyn i fyfyrwyr archwilio a syntheseiddio data meintiol o ystod o gyhoeddiadau yn eu haseiniadau a disgwylir i egluro neu arddangos tystiolaeth i ddilysu barn a fynegir yn yr astudiaeth achos neu’r fforymau. | 
| Sgiliau pwnc penodol | Theori a chymhwyso modelau newid ymddygiad. Gwerthusiad o'r gwahanol fodelau a dulliau newid ymddygiad. | 
| Sgiliau ymchwil | Trwy'r modiwl, bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd a hunanastudiaeth gyfeiriedig, gan wella eu medrau ymchwil llenyddiaeth. Yn ogystal â derbyn adborth o aseiniadau a fydd yn cynnig cyngor ar synthesis gwybodaeth. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i fyfyrwyr gyrchu gwybodaeth o amrywiaeth o gronfaoedd cyhoeddiadau gwyddonol a defnyddio Blackboard ar gyfer pob agwedd o'r modiwl. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7