Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Dadansoddiad beirniadol o destun penodol 1500 o eiriau | 60% | 
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad llafar o ddadl gyfreithiol Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad syn cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl 15 Munud | 40% | 
| Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar o ddadl gyfreithiol 15 Munud | 40% | 
| Asesiad Semester | Dadansoddiad beirniadol o destun penodol 1500 o eiriau | 60% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Arddangos gwybodaeth ymarferol sylfaenol o sgiliau ysgrifennu academaidd yn gyffredinol, a sgiliau a ffurfiau penodol i astudiaeth o’r Gyfraith a pharatoad dogfennau cyfreithiol.
 
 
 Arddangos cynefindra gyda darllen, ymchwilio ac astudiaeth o ddogfennau cyfreithiol, a chronfeydd data cyfreithiol gyda sylw arbennig ar ddeddfwriaeth a chyfraith achos. 
 
 
Defnyddio sgiliau sylfaenol o ddadansoddiad beirniadol / datrys problemau gyda chyfeiriadaeth at ddeunyddiau cyfreithiol.
Arddangos sgiliau llafar/ymryson/eiriolaeth a’r gallu i ddatblygu a chyflwyno dadl gyfreithiol gadarn.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn darparu sylfaen gadarn i fyfyrwyr yn y sgiliau sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni astudiaethau cyfreithiol.
Cynnwys
Mae’r modiwl yn darparu myfyrwyr blwyddyn gyntaf gyda’r sgiliau allweddol er mwyn astudio’r Gyfraith. (Gweler y canlyniadau dysgu ar gyfer rhestr llawn o’r sgiliau hyn).
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Seminarau rhyngweithiol a datblygiad dadleuon cyfreithiol trwy eiriolaeth ar lafar gyda myfyrwyr eraill mewn ymryson. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Cynghorir myfyrwyr ynghylch y cyfleoedd amrywiol y gall gradd yn y Gyfraith ei gynnig a sut y caiff y Gyfraith ei addysgu yn y brifysgol. | 
| Datrys Problemau | Trwy ddadansoddi ac adnabod meysydd cyfreithiol amrywiol, egwyddorion cyfreithiol, datblygiad dadleuon cyfreithiol yn seiliedig ar senario damcaniaethol. | 
| Gwaith Tim | Caiff myfyrwyr eu hannog trwy waith grŵp mewn seminar a timau ymryson i weithio gyda’u cyfoedion. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Caiff myfyrwyr eu hannog a’u harwain i reoli eu amser astudio annibynnol. | 
| Rhifedd | |
| Sgiliau pwnc penodol | Paratoi dadl gyfreithiol; ysgrifennu cyfreithiol, ymchwil cyfreithiol, sgiliau eiriolaeth, dulliau cyfreithiol, darllen cyfraith achos, darllen deddfwriaeth, paratoi dadleuon ysgerbwd ar gyfer ymryson. | 
| Sgiliau ymchwil | Defnydd o gronfeydd cyfreithiol, Primo Aber, Google Scholar. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Systemau TG a chronfeydd cyfreithiol hanfodol i’w hastudiaethau ac ymchwil. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
