Module Information
			 Cod y Modiwl
		
CY10920
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Trafod y Byd Cyfoes drwy'r Gymraeg
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2026/2027
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhestr Ddarllen
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad llafar 10 Munud | 40% | 
| Arholiad Semester | Arholiad llafar 10 Munud | 40% | 
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad llafar 5 Munud | 20% | 
| Asesiad Ailsefyll | Asesiad gwrando a deall 20 Munud | 20% | 
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad llafar ar bwnc arall 5 Munud | 20% | 
| Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar 5 Munud | 20% | 
| Asesiad Semester | Asesiad gwrando a deall 20 Munud | 20% | 
| Asesiad Semester | Arwain trafodaeth mewn seminar (un pwnc seminar fesul myfyriwr) | 10% | 
| Asesiad Semester | Asesu parhaus Cyfrannu at ddosbarthiadau llafar ac ymarferol | 10% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Trafod newyddion, materion cyfoes a diwylliannol yn ymwneud â Chymru a’r byd yn hyderus yn y Gymraeg.
Deall a defnyddio ystod eang o eirfa briodol ac addas ar gyfer gwahanol feysydd cyfoes a diwylliannol, wrth siarad ac wrth wrando.
Dangos dealltwriaeth o gyweiriau’r Gymraeg a’r modd y mae’r iaith yn gweithio mewn gwahanol gyfryngau print a digidol.
Defnyddio cywair iaith priodol wrth gyfathrebu ar lafar.
Disgrifiad cryno
 
 Modiwl ymarferol yw hwn a fydd yn cadarnhau ac yn atgyfnerthu sgiliau llafar myfyrwyr Ail Iaith er mwyn eu paratoi ar gyfer trafod ystod eang o bynciau ffurfiol ac anffurfiol yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. Dysgir y derminoleg a’r eirfa gysyniadol sy’n angenrheidiol wrth astudio’r Dyniaethau yn y Brifysgol ac yn y gweithle Cymraeg ei iaith. 
Rhoddir sylw i’r iaith lafar safonol a chanolbwyntir ar faterion cyfoes sy’n ymwneud â Chymru a’r byd cyfoes yn gyffredinol.
 
 
Rhoddir sylw i’r iaith lafar safonol a chanolbwyntir ar faterion cyfoes sy’n ymwneud â Chymru a’r byd cyfoes yn gyffredinol.
Cynnwys
 
 Trafodir pynciau amrywiol ac iddynt ffocws ar ddiwylliant a’r dyniaethau mewn gweithdy wythnosol, e.e. tafodieithoedd Cymru; cyweiriau’r Gymraeg; nodweddion yr iaith lafar a’r iaith lenyddol; yr Eisteddfod; diwylliant poblogaidd a cherddorol Cymru; Llywodraeth Cymru a datganoli; byd natur a bywyd gwyllt; beirniadu llenyddiaeth. 
Bydd Seminar wythnosol yn gyfle i ganolbwyntio ar drafod pynciau llosg a newyddion y dydd. Defnyddir adnoddau print ac electronig, e.e. erthyglau ar Golwg, Golwg360, Barn, Cymru Fyw, ac ati.
Cynhelir dau Weithdy wythnosol ychwanegol i ganolbwyntio ar sgiliau gwrando a chyflwyno.
 
 
Bydd Seminar wythnosol yn gyfle i ganolbwyntio ar drafod pynciau llosg a newyddion y dydd. Defnyddir adnoddau print ac electronig, e.e. erthyglau ar Golwg, Golwg360, Barn, Cymru Fyw, ac ati.
Cynhelir dau Weithdy wythnosol ychwanegol i ganolbwyntio ar sgiliau gwrando a chyflwyno.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Rhesymeg y modiwl yw galluogi myfyrwyr i’w mynegi eu hunain yn hyderus ar lafar mewn Cymraeg cyfoes. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Trwy ymgyfarwyddo â materion cyfoes a newyddion, a dysgu sut i addasu deunydd i’w gyflwyno i eraill ar lafar. Trwy fagu hyder i gyfathrebu ar lafar yn y Gymraeg. | 
| Datrys Problemau | Rhesymeg y modiwl yw trin a thrafod nodweddion llafar Cymraeg cyfoes. Bydd myfyrwyr yn wynebu heriau o safbwynt geirfa, cystrawen a mynegiant. | 
| Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn cydweithio ag eraill yn y gweithdai a’r seminiarau, wrth baratoi cyflwyniad llafar, ac wrth arwain trafodaeth. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy dderbyn ac ymateb i adborth gan staff dysgu mewn gweithdai a seminarau. | 
| Sgiliau pwnc penodol | Dysgir am gyweiriau’r Gymraeg a chanolbwyntir yn y modiwl hwn ar deithi Cymraeg llafar safonol a’r modd y defnyddir hi. | 
| Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell ac adnoddau arlein wrth fynd i’r afael â’r modiwl hwn. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio geirfa a straeon am ddigwyddiadau cyfoes ar-lein, e.e. Golwg360, Cymru Fyw, Twitter. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
