Module Information
			 Cod y Modiwl
		
DA10020
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Byw mewn Byd Peryglus
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2026/2027
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhestr Ddarllen
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Sgript ar gyfer Cyflwyniad grŵp 15 Munud | 50% | 
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad 1500 o eiriau | 50% | 
| Asesiad Semester | Cyflwyniad grŵp 15 Munud | 50% | 
| Asesiad Semester | Adroddiad 1500 o eiriau | 50% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos ymwybyddiaeth o safonau, disgwyliadau ac arferion ar lefel prifysgol.
Nodi ffynonellau data ac adnoddau priodol ar gyfer gwaith academaidd, gan gynnwys llyfrau, cyfnodolion a gwefannau, a dangos gwerthfawrogiad o'r materion sy'n ymwneud â'u defnyddio.
Dadansoddi tueddiadau hanesyddol mewn digwyddiadau peryglus, a dangos dealltwriaeth o senarios y dyfodol.
Asesu risg yn feirniadol mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau perygl.
Cynnig strategaethau lliniaru effeithiol ar gyfer amrywiaeth eang o fygythiadau cymdeithasol.
Disgrifiad cryno
 
 Mae’r modiwl hwn yn eich cyflwyno i’r prif beryglon sy’n wynebu cymdeithas a’r ffyrdd yr eir i’r afael â hwy a’u rheoli trwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Byddwch yn archwilio’r prosesau ffisegol, effeithiau cymdeithasol a strategaethau lliniaru ar gyfer peryglon o’r fath ac yn ystyried tueddiadau hanesyddol ac amcanestyniadau ar gyfer y dyfodol mewn hinsawdd sy’n newid. 
 
Mae’r modiwl yn cynnig cyfle i chi ymwneud yn uniongyrchol â’ch dysgu, i gyfrannu at drafodaeth a rhoi cyflwyniadau ar eich gwaith mewn lleoliad grŵp bach.
 
 
Mae’r modiwl yn cynnig cyfle i chi ymwneud yn uniongyrchol â’ch dysgu, i gyfrannu at drafodaeth a rhoi cyflwyniadau ar eich gwaith mewn lleoliad grŵp bach.
Cynnwys
 
 Bydd y darlithoedd yn trafod amrywiaeth o themâu, a all gynnwys tywydd eithafol, llifogydd afonol, peryglon seismig a folcanig, a diogelwch bwyd a dŵr. 
 
Bydd seminarau cynllun-benodol yn eich annog i archwilio themâu darlithoedd yn fwy manwl a datblygu sgiliau astudio craidd sy'n ganolog i lwyddiant mewn Addysg Uwch.
 
 
Bydd seminarau cynllun-benodol yn eich annog i archwilio themâu darlithoedd yn fwy manwl a datblygu sgiliau astudio craidd sy'n ganolog i lwyddiant mewn Addysg Uwch.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Anogir myfyrwyr i ymateb i adborth. | 
| Cydlynu ag erail | Myfyrwyr i weithio fel tîm i gyflwyno'r cyflwyniad grŵp. | 
| Cyfathrebu proffesiynol | Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig mewn cywair academaidd priodol, a chyflwyno ar lafar mewn modd clir a phroffesiynol. | 
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd myfyrwyr yn nodi ffactorau a allai ddylanwadu ar atebion lliniaru posibl, ac yn gwerthuso manteision ac anfanteision datrysiadau o'r fath. | 
| Gallu digidol | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio technoleg prosesu geiriau ar gyfer yr adroddiad, a meddalwedd cyflwyno ar gyfer y cyflwyniad. | 
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd gofyn i fyfyrwyr ymchwilio, gwerthuso a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer y cyflwyniad. Bydd myfyrwyr yn cynnal dadansoddiad o ffynonellau academaidd ac anacademaidd ac yn cynhyrchu adroddiad academaidd briodol. | 
| Sgiliau Pwnc-benodol | Mae’r darlithoedd, seminarau ac aseiniadau yn mynd i’r afael â dadleuon a themâu allweddol ym maes pwnc y myfyriwr. Bydd myfyrwyr yn mynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â rhif, gan gynnwys dadansoddiad ystadegol o dueddiadau. | 
| Synnwyr byd go iawn | Bydd myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o'u sgiliau, credoau a rhinweddau personol. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
