Module Information
			 Cod y Modiwl
		
DA25420
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2026/2027
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhestr Ddarllen
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Gwaith cwrs: Adnabod Bwlch yn yr Ymchwil 1200 o eiriau | 30% | 
| Asesiad Ailsefyll | Asesiad Diwedd Modiwl: Cynnig Prosiect Myfyrwyr i gwblhau ffurflen Cynnig Prosiect i adnabod prosiect traethawd estynedig posib. Mae'r aseiniad hwn yn adeiladu ar y cynnwys dylunio ymchwil a sgiliau gwaith maes a ddysgwyd trwy gydol Semestr 2. 800 o eiriau | 20% | 
| Asesiad Ailsefyll | Gwaith cwrs: Adroddiad gwaith maes (asesiad unigol) 2000 o eiriau | 50% | 
| Asesiad Semester | Gwaith cwrs: Adnabod Bwlch yn yr Ymchwil 1200 o eiriau | 30% | 
| Asesiad Semester | Asesiad Diwedd Modiwl: Cynnig Prosiect Myfyrwyr i gwblhau ffurflen Cynnig Prosiect i adnabod prosiect traethawd estynedig posib. Mae'r aseiniad hwn yn adeiladu ar y cynnwys dylunio ymchwil a sgiliau gwaith maes a ddysgwyd trwy gydol Semestr 2. 800 o eiriau | 20% | 
| Asesiad Semester | Gwaith cwrs: Adroddiad gwaith maes (asesiad unigol) 2000 o eiriau | 50% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Nodi problemau ymchwil amserol a pherthnasol ym maes Daearyddiaeth.
Dylunio strategaethau ymchwil ar gyfer casglu a dadansoddi data sy'n berthnasol i gwestiynau ymchwil penodol.
Dangos hyfedredd mewn amrywiaeth o dechnegau casglu/dadansoddi data.
Cyfleu canfyddiadau ymchwil.
Disgrifiad cryno
 
 Trwy ddadansoddi themâu perthnasol ac amserol mewn daearyddiaeth ddynol, cymdeithaseg, daearyddiaeth ffisegol, gwyddor yr amgylchedd ac ar y rhyngwyneb dynol/ffisegol, bydd y modiwl yn mynd i’r afael â’r amcanion canlynol: 
- Ysgogi gallu myfyrwyr i nodi problem neu gwestiwn ymchwil, a datblygu dulliau o ddatrys neu ateb hyn trwy brofi rhagdybiaethau, dylunio ymchwil a chasglu data.
- Rhoi cyfle i gymhwyso dulliau damcaniaethol, technegol a/neu ddulliau labordy gwyddonol i'r amgylchedd maes mwy cymhleth, sydd heb ei reoli, a gwerthfawrogi sut mae prosesau y gellir eu hystyried yn 'gyffredinol' yn cael eu cyfryngu gan gymeriad cymdeithasol ac amgylcheddol lle penodol.
- Ystyried agweddau moesegol prosesau ymchwil
- Ystyried diogelwch gwaith maes
- Datblygu ymdeimlad o le, ymwybyddiaeth o wahaniaeth, a goddefgarwch tuag at eraill.
- Hyrwyddo rhai sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen mewn gwaith ymarferol a seminarau, gan gynnwys gwaith tîm, arsylwi, adnabod problemau
 
 
- Ysgogi gallu myfyrwyr i nodi problem neu gwestiwn ymchwil, a datblygu dulliau o ddatrys neu ateb hyn trwy brofi rhagdybiaethau, dylunio ymchwil a chasglu data.
- Rhoi cyfle i gymhwyso dulliau damcaniaethol, technegol a/neu ddulliau labordy gwyddonol i'r amgylchedd maes mwy cymhleth, sydd heb ei reoli, a gwerthfawrogi sut mae prosesau y gellir eu hystyried yn 'gyffredinol' yn cael eu cyfryngu gan gymeriad cymdeithasol ac amgylcheddol lle penodol.
- Ystyried agweddau moesegol prosesau ymchwil
- Ystyried diogelwch gwaith maes
- Datblygu ymdeimlad o le, ymwybyddiaeth o wahaniaeth, a goddefgarwch tuag at eraill.
- Hyrwyddo rhai sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen mewn gwaith ymarferol a seminarau, gan gynnwys gwaith tîm, arsylwi, adnabod problemau
Cynnwys
 
 Bydd amcanion y modiwl yn cael eu cyflwyno trwy gyfres o ddarlithoedd, seminarau, a gweithdai ymarferol/ymweliadau maes. Bydd y rhain yn arwain at gyfnod estynedig o waith maes. Bydd y pynciau a drafodir a’r technegau a ddatblygir yn amrywio yn ôl carfan y myfyrwyr, gan gynnwys y canlynol: 
- Effeithiau pobl ar yr amgylchedd
- Peryglon naturiol
- Dehongli'r dirwedd ddynol a ffisegol, a rhyngweithiad y ddau
- Agweddau ar newid diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd o fewn cymunedau ac sy'n amlwg mewn bywyd o ddydd i ddydd
- Newid a rheoleiddio amgylcheddol
 
 
- Effeithiau pobl ar yr amgylchedd
- Peryglon naturiol
- Dehongli'r dirwedd ddynol a ffisegol, a rhyngweithiad y ddau
- Agweddau ar newid diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd o fewn cymunedau ac sy'n amlwg mewn bywyd o ddydd i ddydd
- Newid a rheoleiddio amgylcheddol
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Ymateb i heriau annisgwyl sy'n ymwneud â dylunio ymchwil a gwaith maes; gweithio mewn amgylcheddau amrywiol ac anrhagweladwy; cydweithio â gwahanol dimau. | 
| Cyfathrebu proffesiynol | Mae gwaith maes yn rhyngweithiol yn ei hanfod gyda nifer uchel o oriau cyswllt rhwng staff a myfyrwyr. Mae hyn yn sicrhau bod sgiliau cyfathrebu cryf yn cael eu datblygu, gyda digonedd o gyfleoedd am drafodaethau un-i-un a thrafodaethau mewn grŵp. | 
| Datrys Problemau Creadigol | Mae datrys problemau yn faen prawf allweddol ar gyfer y cwrs hwn. Mae hyn yn cynnwys adeiladu sail resymegol ar gyfer ymchwil a chynllunio ymchwil gan gyfeirio at lenyddiaeth/dadleuon/ffynonellau data sydd eisoes yn bod | 
| Gallu digidol | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio technoleg gwybodaeth i gynorthwyo â gwaith darllen pellach wrth gwblhau aseiniadau, gan gynnwys chwilio am destunau ar-lein a’u syntheseiddio, technoleg prosesu geiriau, a pharatoi ffotograffau a mapiau digidol | 
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau maes arsylwi a dehongli. Bydd sgiliau meddwl beirniadol yn cael eu datblygu drwy seminarau rhyngweithiol ac ymarferion maes. | 
| Myfyrdod | Bydd myfyrwyr yn datblygu cyfle i fyfyrio ar ddyluniad ymchwil a gwaith maes a wnaed yn rhan gyntaf y modiwl yn sail ar gyfer casglu a dadansoddi data yn ail ran/elfen gwaith maes estynedig y modiwl | 
| Sgiliau Pwnc-benodol | Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno sgiliau sy’n ymwneud â phynciau penodol gyda’r nod o wneud ein graddedigion yn gyflogadwy ar draws amrywiaeth o sectorau | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
