Module Information
			 Cod y Modiwl
		
FG15510
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Technegau Labordy ar gyfer Ffiseg Arbrofol (10 Credyd)
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2026/2027
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 1
Pre-Requisite
 Wedi cofrestru ar gynllun gradd: Ffiseg Anrhydedd Cyfun, Prif-bwnc(Ffiseg)/Is-bwnc, Gwyddor y Gofod a Roboteg neu Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol
 
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol | 100% | 
| Asesiad Semester | Dyddiaduron Labordy Ysgrifenedig Caiff myfyrwyr eu hasesu ar ansawdd eu nodiadau yn ystod arbrofion. Mae pob arbrawf yn unigryw ac yn gofyn am nifer gwahanol o eiriau. Bydd dyddiadur nodweddiadol oddeutu 200 gair yr arbrawf. | 70% | 
| Asesiad Semester | Adroddiad Labordy 1000 o eiriau | 30% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos cymhwysedd ymarferol a chywirdeb wrth gynnal gweithdrefnau arbrofol, gan gynnwys mesur, defnyddio offer gwyddonol a chofnodi canlyniadau.
Cynhyrchu adroddiad gwyddonol wedi ei ysgrifennu’n glir gan gynnwys y cefndir damcaniaethol, disgrifiad arbrofol, cyflwyniad a dadansoddiad o ganlyniadau, a dehongli a gwerthuso.
Adnabod mathau o ansicrwydd mewn arbrawf a phenderfynu ar ledaeniad y cyfeiliornadau.
Dangos y gallu i weithio gydag eraill mewn modd ystyriol a chydweithredol.
Parchu a chydnabod eiddo deallusol eraill.
Disgrifiad cryno
 
 Mae arbrofi yn ran sylfaenol o'r gwyddorau ffisegol. Mae'n ein galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas, i ddatblygu damcaniaethau a phrofi'r damcaniaethau hynny. Yn y modiwl yma byddwch yn dysgu technegau sylfaenol cynnal arbrofion, gwneud mesuriadau, rhoi ystyriaeth i ansicrwydd yn eich mesuriadau, dadansoddi canlyniadau a'u cymharu gyda theori.
 
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion ffiseg i feysydd allweddol mewn ffiseg arbrofol sy'n cael eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i'r israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal a'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i'r myfyrwyr ysgrifennu am un o'r arbofion mewn adroddiad ffurfiol gan gynnwys ymchwilio i gefndir y testun.
 
 
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion ffiseg i feysydd allweddol mewn ffiseg arbrofol sy'n cael eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i'r israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal a'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i'r myfyrwyr ysgrifennu am un o'r arbofion mewn adroddiad ffurfiol gan gynnwys ymchwilio i gefndir y testun.
Cynnwys
 
 • Dadansoddi cyfeiliornadau sylfaenol.
• Cadw dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiad.
 
Mae'r gyfres o'r arbrofion yn seiliedig ar gysyniadau craidd mewn ffiseg. Mae'r arbofion yn cwmpasu meysydd rhagarweiniol allweddol mewn ffiseg.
 
 
• Cadw dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiad.
Mae'r gyfres o'r arbrofion yn seiliedig ar gysyniadau craidd mewn ffiseg. Mae'r arbofion yn cwmpasu meysydd rhagarweiniol allweddol mewn ffiseg.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiaduron labordy ac yn ysgrifennu adroddiad ar arbrawf. | 
| Datrys Problemau | Bydd y myfyrwyr yn defnyddio technegau datrys problemau yn ystod yr arbrofi ac wrth drin data o'r arbrofion. | 
| Gwaith Tim | Yn gyffredinol bydd y myfyrwyr yn gwneud yr arbrofion mewn grwpiau o ddau a byddwn yn annog cydweithio wrth ddatrys problemau modelu. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bob wythnos bydd yr adborth a roddir ar y dyddiaduron labordy yn annog y myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau o ysgrifennu nodiadau. | 
| Rhifedd | Yn ei hanfod, mae ffiseg yn seiliedig ar ddefnyddio mathemateg ac mae ffiseg arbrofol yn seiliedig ar drin rhif. Mae defnyddio rhifau yn ganolog yn y modiwl. | 
| Sgiliau pwnc penodol | Defnyddio offer gwyddonol. Cynnal arbrofion. Ysgrifennu mewn dull gwyddonol. Dadansoddi cyfeiliornadau arbrofol. | 
| Sgiliau ymchwil | Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Mae dadansoddi data modern yn ddibynnol ar ddefnyddio cyfrifiaduron. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadurol i ddadansoddi data mewn rhai o'r arbrofion, a disgwylir iddynt ddefnyddio prosesydd geiriau ar gyfer eu hadroddiad labordy. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
