Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad | 60% | 
| Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad | 60% | 
| Asesiad Ailsefyll | Ymarferion 2000 o eiriau | 40% | 
| Asesiad Semester | Ymaerferion rheolaidd 2000 o eiriau | 40% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Byddwch yn gallu adnabod a defnyddio'r rhan fwyaf o bwyntiau gramadegol a chystrawennol Gaeleg yr Alban.
Byddwch yn gallu darllen gyda chymorth geiriadur amryw ddarnau rhyddiaith yng Ngaeleg yr Alban.
Byddwch yn gyfarwydd â rhai agweddau ar draddodiadau llafar Gaeleg yr Alban.
Byddwch yn gallu cyfieithu brawddegau i'r Gaeleg.
Byddwch yn gallu cynnal sgwrs syml yng Ngaeleg yr Alban.
Disgrifiad cryno
Cyflwyniad i brif nodweddion yr iaith fodern ynghyd ag astudiaeth o rai gweithiau llenyddol, megis storiau byrion a cherddi cyfoes.
Cynnwys
Cynhelir 40 gweithdy 1 awr. Cyflwynir y pynciau, isod, gan ddarlithydd a gosodir ymarferion a thasgau i fyfyrwyr er mwyn iddynt ymarfer a datblygu’r sgiliau perthnasol. Disgwylir i fyfyrwyr gael gafael ar Wyddeleg Modern sylfaenol er mwyn dilyn y modiwl hwn.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Trafod materion gramadegol yn y gweithdai ; medru egluro gwallau gramadegol yn yr aseiniadau ac yn yr arholiad. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol. | 
| Datrys Problemau | lYmateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol | 
| Gwaith Tim | Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol. | 
| Rhifedd | |
| Sgiliau pwnc penodol | Mae’r sgiliau gramadegol a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle. | 
| Sgiliau ymchwil | Ymchwilio er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Prosesu geiriau, cyrchu a defnyddio adnoddau electronig; defnyddio’r BwrddDu. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
