Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) | 100% | 
| Arholiad Semester | 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) | 100% | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
 fod yn gallu,
 1.	pennu cyfresi Fourier mewn ffwythiannau integradwy a chyfnod mympwyol;
 2.	cymhwyso technegau cyfres Fourier, i symiant cyfresi anfeidrol;
 3.	disgrifio syniadau dilyniant a differadwyedd ar gyfer ffwythiannau sydd a mwy nag un newidyn;
 4.	penderfynnu os yw ffwythiannau sydd a dau neu fwy o newidynau yn barhaol a differadwy 
 5.	canfod os yw cyfresi anfeidrol yn gydgyfeiriol drwy ddefnyddio profion cydgyfeiriant amrywiol;
 6.	disgrifio'r syniad o gydgyfeiriant unffurf mewn cyfres o ffythiannau;
 7.	defnyddio Weierstrass M-test i brofi cydgyfeiriant unffurf cyfresi anfeidrol mewn ffwythiannau;
 8.	penderfynu radiws cydgyfeiriant cyfresi pwer;
 9.	defnyddio theorem cydgyfeiriant safonol yngl'n a chyfresi pwer.
 
 
Disgrifiad cryno
Mae astudiaeth real o bwysigrwydd hanfodol i unryw fyfyriwr sy'n gobeithio mynd ymhellach na'r driniaeth arferol o fformwlau i ddatrys problemau safonol. Mae'r gallu i feddwl yn ddiddwythol ac i astudio enghreifftiau cymhleth yn angenrheidiol i addasu ac ymestyn cysyniadau i gyd-destynau newydd. Mae'r modiwl wedi'i anelu i ateb y gofynion yma.
Nod
Yn y modiwl yma, mae'r technegau dadansoddol, a'u datblygwyd yn MT11110, yn cael eu ymestyn i sefyllfa fwy cyffredin. Fe fydd y modiwl yn darparu'r sylfaen i ddadansoddiad glasurol mewn gosodiad cadarn, gyda phwyslais ar gymhwyso.
Cynnwys
2. CALCWLWS AML NEWIDYN: Dilyniadau, differadwyedd, deilliadau rhannol, graddau uwch a deilliadau rhannol cymysg.
3. THEORI CYFRES ANFEIDROL: Profi cydgyfeiriant, yn cynnwys prawf cymharol, prawf ratio, prawf integral. Cyfresi P'er, radiws cydgyfeiriant, cydgyfeiriant absoliwt. Egwyddor Cauchy o gydgyfeiriant ar gyfer cyfresi.
4. CYDGYFEIRIANT UNFFURF CYFRES O FFWYTHIANNAU: Cydgyfeiriant unffurf o gyfresi, Weierstrass M-test, Egwyddor Cauchy ar gyfer cydgyfeiriant unffurf.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu ffordd eu hunain o reoli amser ac i ddefnyddio'r adborth ar waith sy'n cael ei farcio er mwyn cefnogi eu dysgu. | 
| Cydlynu ag erail | Anogir myfyrwyr i weithio mewn grwpiau er mwyn datrys problemau. | 
| Cyfathrebu proffesiynol | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir. | 
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau. | 
| Gallu digidol | Bydd defnydd o'r rhyngrwyd, Blackboard, a phecynnau mathemategol yn cael ei argymell er mwyn hybu dealltwriaeth o gynnwys y modiwl ac o'r enghreifftiau o gymwysiadau. | 
| Sgiliau Pwnc-benodol | Mae'r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg yn ogystal â chymwysiadau nad ydynt wedi dod ar eu traws o’r blaen. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
