Module Information
			 Cod y Modiwl
		
MT39910
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Prosiect Mewn Mathemateg neu Ystadegaeth
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2026/2027
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 2
				 Hefyd ar gael yn
			 
Pre-Requisite
Rhestr Ddarllen
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad ysgrifenedig. | 100% | 
| Asesiad Semester | Adroddiad ysgrifenedig. | 100% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
 
 1.	y gallu i gasglu gwybodaeth yn annibynnol, gan ddefnyddio'r llyfrgell, rhwydwaith cyfrifiadura ac adnoddau'r rhyngrwyd; 
 2.	y gallu i ddechrau ymchwiliadau bychain, llunio problemau addas a'u datrys;
 3.	y gallu i gyflwyno adroddiad manwl ar y gwaith a wnaed wedi ei baratoi gan ddefnyddio prosesydd geiriau.
 
 
Disgrifiad cryno
 
 Bwriad y modiwl hwn yw cynorthwyo myfyriwr i ddilyn ymchwiliadau mathemategol neu ystadegol gan weithio mor annibynnol a phosibl o gyfarwyddyd uniongyrchol, ac i baratoi adroddiad cydlynol o'r ymchwiliadau. Gall y myfyriwr ddewis y maes mathemategol a ymchwilir. Dewisir y testun neilltuol mewn ymgynghoriad a goruchwylydd, a bydd y myfyriwr yn cyfarfod a'r goruchwylydd am awr yr wythnos ar y mwyaf. Prif bwrpas y tiwtorialau yma yw i sicrhau nad yw datblygiad y prosiect yn cael ei amharu gan anawsterau neu gamddealltwriaeth ac i wneud awgrymiadau fel bo'n briodol.
 
Nid yw'r modiwl ar gael i fyfyrwyr MMath, gan y bydd yn rhaid iddynt wneud gwaith prosiect sylweddol yn eu pedwaredd blwyddyn.
 
Dylai myfyrwyr sy'n bwriadau dilyn y modiwl ymgynghori â chyd-gysylltydd y modiwl cyn cofrestru er mwyn penderfynu a fedrir trefnu astudiaeth a goruchwylydd addas.
 
 
Nid yw'r modiwl ar gael i fyfyrwyr MMath, gan y bydd yn rhaid iddynt wneud gwaith prosiect sylweddol yn eu pedwaredd blwyddyn.
Dylai myfyrwyr sy'n bwriadau dilyn y modiwl ymgynghori â chyd-gysylltydd y modiwl cyn cofrestru er mwyn penderfynu a fedrir trefnu astudiaeth a goruchwylydd addas.
Nod
Darparu cyfle ar gyfer astudiaeth annibynnol o destun mewn Mathemateg neu Ystadegaeth nad sy'n cael ei gynnwys, neu ei gynnwys yn y manylder angenrheidiol, mewn modiwlau eraill.
Cynnwys
Caiff y testun a'r deunydd dysgu cysylltiedig manwl eu trefnu mewn ymgynghoriad gyda'r goruchwylydd.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
