Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Prosiect ymchwil 2,500 gair | 50% |
Asesiad Semester | Portffolio 2,500 gair | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Prosiect ymchwil 2,500 gair | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio 2,500 gair | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Integreiddio persbectifau damcaniaethol yn feirniadol wrth ddarparu ymarfer proffesiynol
2. Bodloni’r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n cael sylw yn y modiwl hwn, a dangos tystiolaeth eu bod yn eu bodloni
3. Ystyried yn feirniadol oblygiadau canfyddiadau ymchwil ar gyfer datblygu personol yn y dyfodol, a’u cloriannu
Disgrifiad cryno
-Cefnogi plentyn ag anghenion cymorth ychwanegol SCDCCLD 0209
-Cefnogi dysgu iaith newydd drwy ddulliau trochi ymhlith plant mewn lleoliad blynyddoedd cynnar SCDCCLD 0247
-Hyrwyddo dysgu iaith newydd drwy ddulliau trochi ymhlith plant mewn lleoliad blynyddoedd cynnar SCDCCLD 0347
-Hyrwyddo gofal, dysgu a datblygiad plant ag anghenion cymorth ychwanegol mewn lleoliadau addysg gynnar SCDCCLD 0339
-Hybu lles a gwytnwch plant SCDCCLD 0308
- Paratoi amgylcheddau i ddiwallu anghenion plant SCDCCLD 0205
-Cynllunio a threfnu amgylcheddau i blant a theuluoedd SCDCCLD 0306
-Creu amgylcheddau cadarnhaol ar gyfer babanod a phlant SCDCCLD 0312
-Gweithio gyda phlant a phobl ifanc i greu lleoedd chwarae a chefnogi gweithgareddau chwarae hunan-gyfeiriedig SKAPW34
-Datblygu eich ymarfer drwy fyfyrio a dysgu SCDCHSC 0023
-Datblygu eich gwybodaeth a’ch ymarfer eich hun SCDHSC 0023
Ymgymryd â phrosiect ymchwil SCDCCLD 0420
Cyfrannu at effeithiolrwydd timau SCDCHSC 0241
Meithrin perthynas waith gynhyrchiol ag eraill SCDCCLD 0338
Cynnwys
Y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a datblygiad proffesiynol (darlith 2 awr)
Yn ogystal â hyn, byd gan bob myfyriwr goruchwyliwr dynodedig a mentor lleoliad gwaith a fydd yn monitro cynnydd y myfyriwr. Bydd disgwyl i’r myfyriwr anfon e-bost at y goruchwyliwr bob pythefnos i roi diweddariad ar eu cynnydd.
Trwy gydol semester 1 ym mlwyddyn 2, cynhelir gweithdai gyda’r myfyrwyr i ddarparu manylion ynglŷn â threfnu lleoliadau gwaith, ymddygiad proffesiynol a’r portffolios asesu. Bydd yn rhaid mynychu pob un o’r gweithdai.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Bydd angen i fyfyrwyr ddangos effeithlonrwydd wrth drefnu llawer iawn o wybodaeth gymhleth a’r gallu i nodi, disgrifio a dadansoddi nodweddion allweddol y wybodaeth. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd angen i fyfyrwyr ddangos bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i weithio mewn practis proffesiynol. |
Sgiliau ymchwil | |
Technoleg Gwybodaeth |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5