Module Information

Cod y Modiwl
AD30320
Teitl y Modiwl
Datblygiad Mathemategol yn y Blynyddoedd Cynnar
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Aseiniad atodol 1  Gosodir teitlau aseiniad newydd. 2000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad atodol 2  Cynllun gwers a cyfiawnhad 1200 o eiriau  50%
Asesiad Semester Aseiniad 2  Cynllun gwers a cyfiawnhad 1200 o eiriau  50%
Asesiad Semester Aseiniad 1  2000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth effeithiol o ddatblygiad mathemategol cynnar plant ifainc.

Adolygu a thrafod yn feirniadol y cysyniadau, y dadleuon a'r egwyddorion ynghylch datblygiad mathemategol.

Archwilio'r feirniadol y ffyrdd y mae plant ifainc yn dysgu mathemateg.

Gwerthuso'r feirniadol effeithiau rhieni, athrawon a pholisiau'r llywodraeth ar ddatblygiad mathemategol cynnar.

Arddangos ymgysylltu beirniadol a'r ffynonellau perthnasol.

Disgrifiad cryno

Cynlluniwyd y modiwl hwn er mwyn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o ddatblygiad mathemategol plant ifainc a'r fframwaith damcaniaethol a'r goblygiadau ymarferol ar gyfer addysg fathemategol plant ifainc.

Cynnwys

1. Trosolwg Datblygiad Mathemategol
2. Polisi ac Ymarfer ar ddatblygiad mathemategol
3. Rôl oedolion
4. Archwilio
5. Datrys problemau
6. Datblygiad mathemategol a phartneriaethau
7. Asesu a chefnogi
8. Yr amgylchedd
9. Anawsterau
10. Monitro a gwerthuso datblygiad mathemategol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol aseiniadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni ddatblygir y rhain yn y modiwl hwn.
Datrys Problemau Elfen hanfodol o'r broses o asesu'n feirniadol.
Gwaith Tim Mae gweithgareddau seminar yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer gwaith tim, gan gynnwys cyflwyniadau grwp a thrafodaethau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar yn annog gwella perfformiad.
Rhifedd Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar.
Technoleg Gwybodaeth Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig a bydd un o'r tasgau seminar yn gofyn am lunio cyflwyniad PowerPoint.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6