Module Information

Cod y Modiwl
ADM0300
Teitl y Modiwl
Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch (Rhan A)
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Co-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Nid oes asesiadau ffurfiol yn semester 1  Gweler ADM3320 am fanylion asesiadau semester 2 a/neu S  100%
Asesiad Semester Nid oes asesiadau ffurfiol yn semester 1  Gweler ADM3320 am fanylion asesiadau semester 2 a/neu S  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Cynllunio’u hastudiaethau ymchwil/ymholi annibynnol eu hunain yn eu cyd-destun/ysgol neu leoliad addysg eu hunain.

Ymgysylltu’n feirniadol â llenyddiaeth ymchwil ryngwladol mewn ffyrdd sy’n llywio’u hymchwil annibynnol a’u harfer proffesiynol parhaus.

Myfyrio ar y dadleuon damcaniaethol presennol yn y gwyddorau cymdeithasol ac mewn ymchwil addysgol er mwyn llywio’u penderfyniadau ynglŷn â chynlluniau ac ymholiadau ymchwil.

Gwerthuso’n feirniadol brosesau ymchwil/ymholi uwch gan gynnwys cynllunio ymchwil, dadansoddi data a chynrychioli data.

Gwerthuso’n feirniadol wahanol enghreifftiau, dulliau a safbwyntiau ymchwil a chymhwyso’r rhain i’w cyd-destun proffesiynol eu hunain.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn rhoi’r sgiliau ymholi a’r wybodaeth ymchwil uwch sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gwblhau gradd Feistr drwy roi iddynt y sgiliau ymchwil, ymholi a dadansoddi sy’n angenrheidiol i ymgymryd â darn o ymchwil annibynnol yn eu cyd-destun eu hunain. Bydd y modiwl yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau arolygu llenyddiaeth, dylunio ymchwil, dadansoddiadau data a chynrychioli data a fydd yn cefnogi eu hymchwil bersonol a’u gwaith ymholi. Bydd y modiwl hefyd yn rhoi dealltwriaeth helaeth i fyfyrwyr o ymchwil ryngwladol ar wahanol bynciau yn ogystal ag athroniaeth ymchwil a dulliau o ymchwilio, ynghyd â ffyrdd o ddadansoddi ac arddulliau cyflwyno.

Nod

1. Galluogi myfyrwyr i gynllunio a chynnal astudiaeth ymchwil/ymholi mewn ysgol/lleoliad addysg.

2. Annog myfyrwyr i ymgysylltu â llenyddiaeth ymchwil ryngwladol mewn ffyrdd sy’n llywio’u hymchwil annibynnol a’u harfer proffesiynol parhaus.

3. Archwilio’n feirniadol y safbwyntiau damcaniaethol a’r dulliau methodolegol sy’n sail i gynllunio ymchwil a phrosesau ymchwil ansoddol, meintiol ac ymholol.

4. Annog myfyrwyr i werthuso’n feirniadol brosesau ymchwil/ymholi uwch gan gynnwys datblygu sgiliau cynllunio ymchwil, dadansoddi data a chynrychioli data.

5. Rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr werthuso’n feirniadol wahanol enghreifftiau, dulliau a safbwyntiau ymchwil fel y gellir cymhwyso’r rhain i’w cyd-destun proffesiynol eu hunain.

Cynnwys

Cynllunio a chynnal astudiaeth ymchwil/ymholi annibynnol mewn ysgol/lleoliad addysg.

Cynnal adolygiad llenyddiaeth, gan ddefnyddio tystiolaeth ryngwladol, i lywio a llunio cynllun yr ymchwil.

Archwilio’r safbwyntiau damcaniaethol a’r dulliau methodolegol sy’n sail i gynllunio ymchwil mewn lleoliadau addysg.

Defnyddio dulliau ymchwil meintiol, ansoddol ac ymholol mewn lleoliadau addysg.

Dadansoddi data (data sylfaenol ac eilaidd) a chynrychioli data.

Gwerthuso gwahanol enghreifftiau, dulliau a safbwyntiau ymchwil ym maes ymchwil addysg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Cyfathrebu proffesiynol Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Datrys Problemau Creadigol Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Sgiliau Pwnc-benodol Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.
Synnwyr byd go iawn Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol Drwy gydol y modiwl caiff myfyrwyr eu hannog: a. I ddod i gasgliadau dibynadwy yn seiliedig ar eu harferion ymchwilio/ymholi er mwyn iddyn

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7