Module Information

Cod y Modiwl
ADM2720
Teitl y Modiwl
Tegwch ac Amrywiaeth
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd  4000 Words  100%
Asesiad Semester Traethawd  4000 Words  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Archwilio a dadansoddi’r diffiniadau a wrthwynebir ar gyfer anghydraddoldeb, annhegwch ac amrywiaeth.

Archwilio’n feirniadol sut y caiff anghydraddoldeb cymdeithasol ei (at)gynhyrchu mewn cymdeithas a swyddogaeth addysg yn yr atgynhyrchu hwnnw.

Dadansoddi damcaniaethau rhagfarn a gwahaniaethu ac archwilio cymhwysiad y damcaniaethau hyn mewn lleoliadau addysg.

Archwilio’n feirniadol heriau rhagfarn a gwahaniaethu mewn amryw o leoliadau addysg ac atebion posibl iddynt.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o degwch, amrywiaeth ac effaith anghydraddoldeb ar ddeilliannau a phrofiadau addysgol. Bydd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr feithrin dealltwriaeth uwch yn seiliedig ar dystiolaeth o ddimensiynau amrywiaeth yng nghymdeithas gyfoes Cymru ac ar draws cyd-destunau a lleoliadau rhyngwladol. Bydd y modiwl yn gofyn i fyfyrwyr feddwl yn feirniadol am y mathau o anghydraddoldeb sydd o fewn addysg gyfoes a chymryd rhan mewn dadleuon a wrthwynebir ynghylch sut y mae systemau addysg yn nodi anghydraddoldeb ac yn defnyddio strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Bydd y modiwl yn caniatáu i fyfyrwyr fyfyrio’n feirniadol ar ddadleuon ynglŷn â swyddogaeth y system addysg wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac annhegwch.

Nod

1. Datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o degwch, amrywiaeth ac effaith anghydraddoldeb ar ddeilliannau a phrofiadau addysgol.

2. Datblygu dealltwriaeth feirniadol o’r dulliau sy’n tanategu anghydraddoldeb, ystrydebu, rhagfarn a gwahaniaethu.

3. Gwella dealltwriaeth o sut i nodi anghydraddoldeb, rhagfarn a gwahaniaethu mewn lleoliadau addysgol ac ystyried strategaethau i’w lleihau neu eu lliniaru.

4. Ystyried y sylfaen dystiolaeth ryngwladol sy’n ymwneud ag anghydraddoldeb ac annhegwch mewn addysg.

Cynnwys

  • Damcaniaethau Amrywiaeth a Chydraddoldeb.
  • Fframweithiau damcaniaethol Cymdeithasegol a Seicolegol mewn cysylltiad ag Amrywiaeth a Chydraddoldeb.
  • Dimensiynau Cydraddoldeb ac Anghydraddoldeb Addysgol mewn Addysg Gyfoes.
  • Tlodi, Amddifadedd a Chydraddoldeb Addysgol.
  • Rhywedd, Cydraddoldeb, Tegwch ac Addysg.
  • Cydraddoldeb, Iaith, Hawliau ac Addysg – ymgysylltu’n feirniadol â thystiolaeth, polisi ac arfer mewn addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, a datblygiad y Gymraeg mewn cyd-destunau cyfrwng Saesneg, yn ogystal ag ystyried Cymraeg a Saesneg fel Ieithoedd Ychwanegol (EWAL).
  • Teuluoedd, Addysg a Chydraddoldeb.
  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Cwricwlwm.
  • Deddfwriaeth a Pholisi Cydraddoldeb yng Nghymru.
  • Cymhwysedd Rhyngddiwylliannol a Goddefgarwch.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Cyfathrebu proffesiynol Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Datrys Problemau Creadigol Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Sgiliau Pwnc-benodol Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.
Synnwyr byd go iawn Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7