Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu a Gwyddor Da Byw

Module Identifier
BG17020
Module Title
Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu a Gwyddor Da Byw
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 2 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Manod Williams
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Scott Tompsett
Dr Ruth Wonfor
Dr Rhys Jones
Dr Ifat Shah

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Portffolio: Bydd myfyrwyr yn cwblhau 3 gweithgaredd senario wedi'u halinio â sesiynau ymarferol ar draws S1 ac S2. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno fel portffolio unigol o weithgareddau yn S2. 1500 o eiriau 60%
Semester Exam MCQ: 1.5 Hours 40%
Supplementary Assessment Portffolio: Bydd myfyrwyr yn cwblhau 3 gweithgaredd senario wedi'u halinio â sesiynau ymarferol ar draws S1 ac S2. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno fel portffolio unigol o weithgareddau yn S2. 1500 o eiriau 60%
Supplementary Exam MCQ: 1.5 Hours 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Disgrifio systemau pwysig cynhyrchu da byw ac arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth mewn cof a o anatomi a ffisioleg y da byw o'u fewn.
  2. Nodi'r cyfyngiadau biolegol ar gynhyrchiant ar gyfer pob un o'r systemau hyn ac arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth mewn cof o egwyddorion rheoli cynaliadwy.
  3. Dangos sut mae bioleg da byw a phathogenau yn sail i effeithlonrwydd systemau cynhyrchu da byw.
  4. Dangos y gallu i ddadansoddi a dehongli data fferm da byw.

Brief description

Trwy gyfres o ddarlithoedd a dosbarthiadau ymarferol ar ffermydd ac o fewn labordai mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i systemau cynhyrchu da byw yng nghyd-destun amaethyddiaeth y DU a sut mae bioleg da byw a phathogenau yn sail i effeithlonrwydd systemau da byw.

Aims

Disgrifio systemau pwysig cynhyrchu da byw fferm yng nghyd-destun amaethyddiaeth y DU.
Deall sut mae bioleg da byw a phathogenau yn sail i effeithlonrwydd systemau da byw.
Nodi cyfyngiadau ar gynhyrchu, yn enwedig cyfyngiadau biolegol, a disgrifio arferion rheoli cynaliadwy i'w goresgyn.
Dadansoddi a dehongli data fferm da byw i werthuso perfformiad y system.

Content

Bydd amser cyswllt y modiwl yn cynnwys tua hanner darlithoedd a hanner gweithgareddau maes neu labordy.

Bydd y darlithoedd yn cynnwys cyflwyniad i systemau cynhyrchu da byw a gwyddoniaeth gan gynnwys systemau defaid, gwartheg eidion, gwartheg godro a dofednod; systemau cynhyrchu wyau a chig dofednod; bioleg da byw gyffredinol; iechyd da byw gan ganolbwyntio ar imiwnedd, parasitoleg, bacteria, protosoa a firysau; systemau biolegol gan gynnwys systemau atgenhedlu, endocrin a threulio; twf a datblygiad a llaetha a rheoli clefydau yn gynaliadwy.

Bydd sesiynau ymarferol yn cynnwys dyraniadau da byw cnoi cil; deall y gylchred cynhyrchu defaid a gweithgareddau rheoli allweddol; systemau magu lloi a magu anifeiliaid am gig eidion; systemau cynhyrchu llaeth gan gynnwys y cylch gynhyrchu, maeth y fuwch a rheoli mastitis; rheoli defaid au hŵyn; cyfrif wyau ysgarthol ar gyfer rheoli parasitiaid mewnol.

Module skills

Skills type

Skills details

Critical and analytical thinking Bydd yr aseiniadau yn gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau y tu hwnt i ddyfnder a chwmpas deunydd y ddarlith. Defnyddir gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Bydd sgiliau ymchwil yn cael eu hasesu yn yr aseiniadau. Rhoddir adborth yn yr aseiniad.
Digital capability Mae angen dadansoddi, dehongli a chyflwyno data gan ddefnyddio Excel yn yr aseiniadau. Bydd y rhain yn cael eu hasesu yn yr aseiniad a bydd adborth yn cael ei ddarparu.
Professional communication Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn yr aseiniadau, lle bydd y rhain yn cael eu hasesu. Rhoddir adborth yn yr aseiniadau.
Subject Specific Skills Bydd cysyniadau pwnc-benodol sy'n ymwneud â chynhyrchu da byw a bioleg yn cael eu datblygu a'u hasesu yn yr aseiniadau a'r arholiad. Rhoddir adborth yn yr aseiniadau.

Notes

This module is at CQFW Level 4