Rheolaeth Cnydau, Glaswelltir, Priddoedd a Thir Amaethyddol

Module Identifier
BG18040
Module Title
Rheolaeth Cnydau, Glaswelltir, Priddoedd a Thir Amaethyddol
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 2 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Cennydd Jones
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Irene Griffiths
Dr Ruth Wonfor
Dr Cennydd Jones
Dr Ifat Shah

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Adroddiad Cnydau: ar reolaeth plotiau o wenith a barlys mae'r myfyrwyr wedi eu gofalu yn ystod ymweliadau cnydau. 1500 o eiriau 20%
Semester Assessment Adnabod cnydau porthiant: 2 Hours O dan amodau wedi eu arsylwi, bydd myfyrwyr yn adnabod amrywiaeth o rhywogaethau porthiant (porfeydd, côdlysiau a pherlysiau). Caiff marciau rhanol eu rhoi am rhesymau dros eu penderfyniad o ddewis rhywogaeth. 2 Awr 20%
Semester Assessment Adroddiad Priddoedd: 1500 o eiriau 20%
Semester Exam Arholiad MCQ: 1.5 Hours Cwestiynau aml-ddewis diwedd semester 2 1.5 Awr 40%
Supplementary Assessment Adroddiad Cnydau: ar reolaeth plotiau o wenith a barlys mae'r myfyrwyr wedi eu gofalu yn ystod ymweliadau cnydau. 1500 o eiriau 20%
Supplementary Assessment Adroddiad Priddoedd: 1500 o eiriau 20%
Supplementary Assessment Adnabod cnydau porthiant: 2 Hours O dan amodau wedi eu arsylwi, bydd myfyrwyr yn adnabod amrywiaeth o rhywogaethau porthiant (porfeydd, côdlysiau a pherlysiau). Caiff marciau rhanol eu rhoi am rhesymau dros eu penderfyniad o ddewis rhywogaeth. 2 Awr 20%
Supplementary Exam Arholiad MCQ: 1.5 Hours Cwestiynau aml-ddewis diwedd semester 2 1.5 Awr 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Arddangos gwybodaeth mewn cof o adeiladwaith, swyddogaeth, nodweddion a phwysigrwydd glaswelltir, porthiant, grawnfwydydd a chnydau âr nad ydynt yn rawn ym myd amaeth y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.
  2. Arddangos gwybodaeth a gedwir yn feddyliol wrth adnabod amryw o rhywogaethau cnydau porthiant.
  3. Adnabod nodweddion mathau o gnydau grawn a rhywogaethau porthiant, disgrifio sut maen nhw'n bodloni gofynion y farchnad.
  4. Cynllunio, cloriannu a gweithredu gofynion tail a gwarchod cnwd grawn a phorthiant, gan roi ystyriaeth ddigonol i’w heffaith bosib ar yr amgylchedd.
  5. Arddangos gwybodaeth mewn cof o wahanol gydrannau pridd a'u prosesau, a sôn am bryderon amgylcheddol ehangach, amodau a phrosesau pridd allweddol gan gynnwys effaith lleithder a chylchdroi maetholion.
  6. Cymhwyso dealltwriaeth am nodweddion ffisegol pridd i dechnegau rheoli tir ymarferol, gan gynnwys draenio a thrin y tir.
  7. Adnabod gwerth cadwraeth, statws a sut y rheolir amrywiaeth o gynefinoedd fferm ar hyn o bryd.

Brief description

Trwy raglen integredig o ddarlithoedd, sesiynau arddangos, sesiynau ymarferol ac ymweliadau, bydd myfyrwyr yn cael gwybod am union ofynion rheoli glaswelltir amaethyddol a chnydau grawn, yn ogystal â'r ffactorau sy'n sail i ystod o strategaethau cynhyrchu cnwd. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i gyfansoddiad pridd a phrosesau pridd allweddol, gan roi pwyslais ar sut mae'r rhain yn amrywio rhwng gwahanol fathau o bridd. Ar ôl i'r pethau elfennol hyn gael eu cyflwyno, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar eu goblygiadau o ran rheoli tir a gwarchod yr amgylchedd.

Aims

1. Arddangos gwybodaeth mewn cof o adeiladwaith, swyddogaeth, nodweddion a phwysigrwydd glaswelltir, porthiant, grawnfwydydd a chnydau âr nad ydynt yn rawn ym myd amaeth y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.
2. Adnabod amryw o rhywogaethau cnydau porthiant dan amodau arholiad.
3. Adnabod nodweddion mathau o gnydau grawn a rhywogaethau porthiant, disgrifio sut maen nhw'n bodloni gofynion y farchnad.
4. Cynllunio, cloriannu a gweithredu gofynion tail a gwarchod cnwd grawn a phorthiant, gan roi ystyriaeth ddigonol i’w heffaith bosib ar yr amgylchedd.
5. Arddangos gwybodaeth mewn cof o wahanol gydrannau pridd a'u prosesau, a sôn am bryderon amgylcheddol ehangach, amodau a phrosesau pridd allweddol gan gynnwys effaith lleithder a chylchdroi maetholion.
6. Cymhwyso dealltwriaeth am nodweddion ffisegol pridd i dechnegau rheoli tir ymarferol, gan gynnwys draenio a thrin y tir.
7. Adnabod gwerth cadwraeth, statws a sut y rheolir amrywiaeth o gynefinoedd fferm ar hyn o bryd.

Content

Rhennir y modiwl hwn yn sawl adran i gwmpasu gwahanol agweddau ar reoli tir amaethyddol.
Cyflwynir gwyddor pridd, gan ganolbwyntio ar adeiladwaith, gweadedd a lleithder pridd. Mae'n archwilio cylchdroi a rheoli maetholion ar gyfer iechyd pridd.
Trafodir pwysigrwydd glaswelltiroedd y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhywogaethau porfa a mathau o lystyfiant. Bydd y gweithdai ar gymysgeddau hadau a rhaglenni maetholion yn gysylltiedig â’r adrannau am gydrannau pridd.
Bydd treialon maes yn sail i'r adran ar gnydau. Nod y darlithoedd, y gweithdai a'r dosbarthiadau ymarferol yw dilyn cylch bywyd y cnwd ac arwain penderfyniadau ar reoli cnydau. Ymhlith y pynciau dan sylw mae: cynnyrch, dewis mathau, gwarchod cnydau a chynllunio maetholion.

Module skills

Skills type

Skills details

Co-ordinating with others Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau wrth reoli eu plotiau cnydau.
Creative Problem Solving Bydd holl aseiniadau'r modiwl hwn yn cynnwys adnabod problemau wedi eu cysylltu â thyfiant planhigion neu rheolaeth priddoedd yn y maes. Yn ogystal, disgwylir i'r myfyrwyr greu strategaeth rheolaeth i ymateb i hyn.
Critical and analytical thinking Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gyfirfo amrywiaeth o gyfrifiadau er enghraifft, cyfradd hau, poblogaeth planhigion a chynnyrch y planhigyn.
Digital capability Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we yn gyson i ganfod gwybodaeth ar gyfer gwaith i'w asesu.
Professional communication Bydd yr adroddiadau cnydau a glaswelltiroedd yn gofyn I’r myfyrwyr greu adroddiad mewn dull penodol.
Real world sense Mae'r sgil o adnabod cnydau gwahanol yn drosglwyddiadwy i nifer o ddiwydiannau megis amaethyddiaeth, cadwraeth ac ymgynghori.

Notes

This module is at CQFW Level 4