Module Information

Cod y Modiwl
BG20720
Teitl y Modiwl
Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  40%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  40%
Asesiad Ailsefyll Arholiad ffurfianol (MCQ)  20%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad labordy  3500 Words  40%
Asesiad Semester Adroddiad labordy  3500 Words  40%
Asesiad Semester Arholiad ffurfianol (MCQ)  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Gwerthuso priodweddau maethol bwydydd a thrafod rhinweddau cymharol pob un ar gyfer da byw, ceffylau neu anifeiliaid anwes.

Trafod llunio dognau ar gyfer da byw, ceffylau neu anifeiliaid anwes.

Trafod prosesau treulio da byw, ceffylau neu anifeiliaid anwes.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn trafod dadansoddi bwydydd, ffisioleg treulio bwyd, dogni egni a phrotein, y mathau o fwydydd a ddefnyddir ar gyfer anifeiliaid fferm, rheoli faint o fwyd sy'n cael ei fwyta, a swyddogaeth fitaminau a mwynau ar gyfer anifeiliaid fferm, ceffylau ac anifeiliaid anwes. Bydd strwythur triphlyg i'r modiwl: cyfres gychwynnol o ddarlithoedd fydd yn disgrifio egwyddorion sylfaenol maeth anifeiliaid a bydd disgwyl i bob myfyriwr fynychu'r rhain; dilynir y rhain gan dair cyfres gyfochrog o ddarlithoedd, dosbarthiadau ymarferol a gweithdai fydd yn trafod maeth anifeiliaid fferm, maeth ceffylau a maeth anifeiliaid anwes, a bydd y myfyrwyr yn dewis un o'r rhain.

Cynnwys

Cynnwys sy'n gyffredin i'r holl fyfyrwyr (15 darlith)

Trafodir egwyddorion cyffredinol sy'n ymwneud a bwydydd anifeiliaid, dadansoddi bwydydd, anatomeg dreulio, rheoli chwant bwyd, a maeth egni, protein, mwynau a fitaminau.

Cynnwys sy'n benodol ar gyfer anifeiliaid fferm, ceffylau neu anifeiliaid anwes (10 darlith)
Trafodir y gofynion o ran egni, protein, fitaminau a mwynau, dogni bwydydd, ac anhwylderau maeth a'u perthynas a'r dosbarthiadau hyn o anifeiliaid.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn yr arholiad a'r aseiniad, a bydd y rhain yn cael eu hasesu. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn meithrin hyder yn eu gallu i werthuso bwydydd a dognau drwy'r modiwl. Bydd strwythur y diwydiant bwydydd anifeiliaid a'i isadeiledd ymchwil cynorthwyol yn rhan hanfodol o'r modiwl, gan ddatgelu ambell gyrchfan posibl i'r myfyrwyr o ran eu gyrfa.
Datrys Problemau Mae dogni yn gofyn am gydbwyso'n ofalus ystod o ddiddordebau sy'n cystadlu â'i gilydd am wahanol faethynnau. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu a'i asesu yn yr aseiniad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau i asesu porthiant yn y labordy
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyflawni gwaith erbyn y dyddiadau cau ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad.
Rhifedd Bydd yr aseiniad ar ddogni yn gofyn i fyfyrwyr drafod rhifau, a chaiff hyn ei asesu yn yr aseiniad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad.
Sgiliau pwnc penodol Datblygir cysyniadau penodol i'r pwnc yn ymwneud â maeth anifeiliaid a dogni anifeiliaid.
Sgiliau ymchwil Yn yr aseiniad a'r arholiad, bydd gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau sydd y tu hwnt i gwmpas y deunydd a drafodir yn y darlithoedd. Defnyddir gwybodaeth o amryw ffynonellau. Asesir sgiliau ymchwil yn yr arholiad a'r aseiniad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio'r we wrth chwilio ffynonellau gwybodaeth dibynadwy a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i lyfrau wrth baratoi ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. Bydd y paratoi a wneir ar gyfer yr aseiniad yn cael ei asesu, a dylid paratoi hyn ar gyfrifiadur. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5