Pynciau llosg yn y Biowyddorau

Module Identifier
BG21720
Module Title
Pynciau llosg yn y Biowyddorau
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Dr Dylan Gwynn Jones
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Ruth Wonfor
Dr Ifat Shah

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Sgiliau trafod yn y dosbarth: Awr 30%
Semester Assessment Arholiad llafar unigol ar bwnc ymchwil: 30 Munud 70%
Supplementary Assessment Sgiliau trafod yn y dosbarth: Awr 30%
Supplementary Assessment Arholiad llafar unigol ar bwnc ymchwil: 30 Munud 70%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Disgrifio, trafod a deall ystod eang o bynciau llosg yn y biowyddorau.
  2. Ymchwilio pwnc llosg yn drylwyr o fewn maes sydd yn berthnasol i'w gradd.
  3. Trafod a chyfathrebu pwnc eu hunain ar sail eu hymchwil.
  4. Dangos hyder i drafod y biowyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Brief description

Bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth a thrafod ystod eang o Bynciau llosg yn y biowyddorau yn y dosbarth, gan ddysgu beth sydd yn gyrru ymchwil a sut mae'n gweithredu. Byddant wedyn yn unigol yn arbenigo ac yn ymchwilio pwnc eu hunain sydd yn berthnasol i’w pwnc gradd. Bydd y pwnc yma yn cael ei ddefnyddio fel sail i drafodaeth a fydd yn cael ei asesu.

Aims

Bwriad yw defnyddio pynciau llosg yn y biowyddorau i ddatblygu sgiliau trafod a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw fyfyriwr gydag unrhyw lefel gallu yn y Gymraeg (o ddysgwyr i rai sydd yn llai hyderus i fyfyrwyr rhugl).

Content

Gydag wyth biliwn o bobol yn y byd rydym yn wynebu gymaint o heriau yn y dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys: bwydo pobol y byd; rheoli afiechydon dynol ac anifeiliaid; ymateb i newid hinsawdd; amddiffyn bioamrywiaeth, ayyb. Nid oes erioed wedi bod amser lle mae ymchwil biowyddorau wedi bod mor bwysig i’n dyfodol, o ran darganfod a datrys problemau a cheisio darganfod ffordd ymlaen tuag at ddyfodol cynaliadwy.
Mae'r modiwl yma yn archwilio amrywiaeth o bynciau yn y Biowyddorau wedi ei ffocysu ar ymchwil actif yn yr adran. Bydd y llwyfan yma yn cael ei ddefnyddio i gataleiddio trafodaethau dwyieithog a fydd yn agored i unrhyw fyfyriwr ar unrhyw lefel gallu yn y Gymraeg (o ddysgwyr i rai sydd yn llai hyderus i fyfyrwyr rhugl).
Bydd y myfyrwyr wedyn yn ymchwil pwnc eu hunain sydd yn berthnasol i’w pwnc gradd gan greu traethawd arno. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio fel sylfaen i drafodaeth a fydd yn cael ei asesu gan staff. Bydd y drafodaeth yn cysidro'r broses o ymchwil, eu gwybodaeth am y pwnc a hefyd sut y dylai’r pwnc ddatblygu yn y dyfodol. Er na fydd y traethawd yn cael ei asesu yn ffurfiol bydd adborth trylwyr yn cael ei gyflwyno i’r myfyrwyr ar y cynnwys a’r strwythur. Bydd yr asesiadau ar lafar yn ffocysu ar lefel gwybodaeth y myfyrwyr yn y biowyddorau a’i gallu i gyfathrebu hyn. Bydd pob trafodaeth yn cael ei wneud ar lefel sydd yn gyfforddus i fyfyrwyr unigol, gan gymryd i ystyriaeth eu sgiliau cyfrwng Cymraeg.

Module skills

Skills type

Skills details

Co-ordinating with others Class discussions and cooperation
Creative Problem Solving Research skills tested via oral examination
Professional communication Tested via class discussion and oral examination
Real world sense Consideration of their scheme subject against other Bioscience subjects
Subject Specific Skills Via essay as a foundation for oral examination

Notes

This module is at CQFW Level 5