Monitro a Microbioleg Amgylcheddol

Module Identifier
BG26020
Module Title
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Professor Gareth Griffith
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
BR26020
Other Staff
Dr Ruth Wonfor
Dr Ifat Shah
Professor Gareth Griffith

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Adroddiad ymarferol a dadansoddi data: (2000 gair, gan gynnwys dadansoddiad o ddata) 40%
Semester Exam Arholiad ar bapur: 2 Hours 2 Awr 60%
Supplementary Assessment Adroddiad ail-eistedd: Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r rhai a arweiniodd at fethu’r modiwl. 2000 o eiriau 40%
Supplementary Exam Arholiad ail-eistedd: 2 Hours Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r rhai a arweiniodd at fethu’r modiwl. 2 Awr 60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Esbonio’r rhan a chwaraeir gan wahanol ficrobau yn y cylchredau bioddaeargemegol allweddol (carbon, nitrogen a ffosfforws).
  2. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth a gedwir o’r modd y mae gwahanol grwpiau o ficrobau’n rhyngweithio â’i gilydd ac ag organebau uwch eraill.
  3. Dangos gwybodaeth a gedwir ynglŷn â sut i ymchwilio i gynefinoedd naturiol a sut y mae dulliau ymchwil yn wahanol i ddulliau monitro arferol.
  4. Defnyddio sgiliau TG i ddadansoddi a chloriannu llenyddiaeth ac arbrofion.

Brief description

Bydd y darlithoedd a’r sesiynau ymarferol yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch y rhan a chwaraeir gan ficrobau mewn ecosystemau tirol a dyfrol, gan ganolbwyntio ar eu pwysigrwydd mewn cylchredau bioddaeargemegol. Bydd y modiwl hefyd yn edrych ar y methodolegau a ddefnyddir i astudio’r organebau hyn, y cylchredau y maent yn dylanwadu arnynt ac amodau ecosystem ehangach yng nghyd-destun safonau amgylcheddol.

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i ddamcaniaethau ac arferion y cylchredau maethol creiddiol sy’n seiliedig ar ficrobau mewn cynefinoedd tirol a dyfrol. Yn ogystal â disgrifio cylchredau bioddaeargemegol yn y cynefinoedd hyn, a’r microbau perthnasol, bydd y modiwl hefyd yn trafod y dulliau a ddefnyddir i ganfod/monitro gweithgarwch microbau, biomas a bioamrywiaeth. Ystyrir hefyd y dulliau a ddefnyddir i fonitro statws a lefelau llygredd ecosystemau, a’u rôl o safbwynt canfod dirywiad amgylcheddol yn gynnar. Esbonnir yr angen i sicrhau bod y dulliau a ddefnyddir i fonitro newidiadau o’r fath yn ailadroddadwy, yn gywir ac wedi’u cysylltu â rheoliadau statudol. Bydd darlithoedd ar fethodoleg yn ategu cyfres o ddosbarthiadau ymarferol.

Content

Darlithoedd
Bydd y darlithoedd cychwynnol yn trafod y cylchredau bioddaeargemegol allweddol (C,N, P), amrywiaeth biocemegol a genetig o fewn Bacteria/Archaea, rôl ffyngau mewn dirywiad ligoselwlos, cysylltiadau rhwng microbau mewn llynnoedd/nentydd, rôl ffyngau wrth brosesu malurion mewn nentydd, cynhyrchedd cynradd mewn cynefinoedd eigionol, cysylltiadau rhwng microbau ac anifeiliaid, a rhwng microbau a phlanhigion. Asesir dulliau mewn ecoleg microbau (biocemegol/molecylaidd), a fydd yn arwain at ddisgrifiad o dechnegau monitro amgylcheddol ehangach. Ystyrir y cysylltiad rhwng y technegau hyn a’r broses o osod safonau i ddiogelu’r amgylchedd. Trafodir rhinweddau cymharol cynnal profion biolegol a chemegol o amodau amgylcheddol.

Aseiniad Traethawd
Bydd cyflwyno traethawd ar astudiaethau achos penodol mewn ecoleg microbau yn rhan o asesiad y modiwl hwn. Bydd hyn yn darparu’r cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio eu hymchwil personol ar weithrediad ecosystem penodol (dilychwin neu ddiraddedig).
Dosbarthiadau Ymarferol
Bydd cyfres o ddosbarthiadau ymarferol yn trafod profion microbiolegol a chemegol a ddefnyddir wrth asesu ansawdd ecosystemau.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Gwneir hyn trwy ddadansoddi data o’r dosbarthiadau ymarferol.
Communication Cyfathrebu ysgrifenedig yn ystod ysgrifennu’r traethawd, yr adroddiad ymarferol a’r arholiad.
Improving own Learning and Performance Darperir adborth ar waith cwrs (ar-lein ac ar lafar), yn ogystal â sesiynau adolygu ar gyfer yr arholiadau.
Information Technology Gwneir hyn trwy ymchwilio ar-lein ar gyfer aseiniad y traethawd a thrwy ddadansoddi data o’r dosbarthiadau ymarferol.
Personal Development and Career planning Ni fydd yn cael ei ddatblygu’n benodol, ond ceir llu o gyfleoedd cyflogaeth ym maes monitro amgylcheddol.
Problem solving Gwneir hyn trwy ddadansoddi data o’r sesiynau ymarferol.
Research skills Gwneir hyn drwy ymchwilio ar-lein ar gyfer y traethawd.
Subject Specific Skills Mae’r modiwl yn trafod damcaniaethau ac arferion sawl dull allweddol ym maes monitro amgylcheddol.
Team work Yn ystod y dosbarthiadau ymarferol.

Notes

This module is at CQFW Level 5