Module Information
			 Cod y Modiwl
		
BG27620
			 Teitl y Modiwl
	 
			 Agronomeg a Gwelliant Cnydau
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2025/2026
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Gwarchod Cnydau 2000 o eiriau | 50% | 
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Glaswelltir 2000 o eiriau | 50% | 
| Asesiad Semester | Adroddiad Gwarchod Cnydau 2000 o eiriau | 50% | 
| Asesiad Semester | Adroddiad Glaswelltir 2000 o eiriau | 50% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Esbonio'r mecanweithiau y tu ôl i'r prif elfennau biotig sy’n cyfyngu ar gynhyrchiant cnydau yn y DU.
Disgrifio’r gofynion agronomegol sydd gan ystod o gnydau âr a phorthiant nad ydynt yn rawn.
Rhoi disgrifiad a dadansoddiad beirniadol o systemau cynhyrchu cnydau.
Adnabod a chloriannu strategaethau priodol ar gyfer gwarchod cnydau.
Deall pwysigrwydd cynhyrchu amrywiaethau cnydau/glaswelltir, o ran nodweddion agronomeg ac ansawdd.
Disgrifiad cryno
 
 Mae'r modiwl yn disgrifio agronomeg sylfaenol ystod o gnydau torri âr a’r rhai y gellir eu cynaeafu â chombein, gan gynnwys tatws, betys siwgr, rêp had olew a ffa maes. Ymhlith y nodweddion agronomegol mae cylchdroi, math o bridd, hau a sefydlu planhigion, maeth, gwarchod cnydau, cynaeafu a storio cnydau ar ôl eu cynaeafu. Bydd systemau gwrthgyferbyniol o gynhyrchu cnydau a glaswelltir yn cael eu trafod, a bydd effeithlonrwydd y systemau hyn yn cael eu cloriannu. Bydd cyfyngiadau biotig ar gynhyrchu yn canolbwyntio ar effaith clefydau, chwyn a phlâu ar gnydau âr, gan gynnwys mecanwaith a maint colledion cynnyrch, ymwrthedd cnydau, rheoli cemegol a biolegol, rheoli cnydau integredig. Yn olaf, bydd amcanion a chyflawniadau gwaith bridio cnydau âr, glaswellt a chodlysiau yn cael eu hadolygu.
 
Bydd y darlithoedd hyn yn cynnwys trafodaeth am yr amrywiaeth o weithdrefnau datblygu, cofrestru, lluosi ac ardystio, ac effaith debygol datblygiadau mewn biotechnoleg ar gynhyrchu a rheoli cnydau yn y dyfodol.
 
Nod
 
 Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus dylai'r myfyrwyr allu:
1. Esbonio'r mecanweithiau y tu ôl i'r prif elfennau biotig sy’n cyfyngu ar gynhyrchiant cnydau yn y DU.
2. Disgrifio’r gofynion agronomegol sydd gan ystod o gnydau âr a phorthiant nad ydynt yn rawn.
3. Rhoi disgrifiad a dadansoddiad beirniadol o systemau cynhyrchu cnydau.
4. Adnabod a chloriannu strategaethau priodol ar gyfer gwarchod cnydau.
5. Deall pwysigrwydd cynhyrchu amrywiaethau cnydau/glaswelltir, o ran nodweddion agronomeg ac ansawdd.
 
Cynnwys
 
 Systemau sy’n ymdrin â chnydau âr, glaswellt a phorthiant
Cylchdroi cnydau a chynllunio cylchdroi
Rheoli cnydau mewn modd integredig
 
Ar gyfer glaswelltir a phorthiant:
Systemau rheoli, cynhyrchu a gwarchod yr amgylchedd
Rheoli pori
Cadwraeth porthiant
Cnydau porthiant
 
Ar gyfer planhigion cnydau gan gynnwys rêp had olew, tatws, betys siwgr a ffa maes:
Gofynion y farchnad
Nodweddion amrywiaethau o borfeydd a sut y cânt eu defnyddio
Cylchdroi, paratoi pridd a sefydlu hadau
Maeth
Gwarchod planhigion: chwyn, afiechydon a rheoli plâu
Cynaeafu a thrin a storio ar ôl y cynhaeaf
 
Gwarchod cnydau
Sut mae clefydau’n datblygu ac epidemioleg
Strategaethau rheoli clefydau
Plâu a difrod gan blâu
Strategaethau rheoli plâu
Bioleg a chystadleuaeth chwyn
Rheoli chwyn
Gwarchod cnydau integredig
 
Bridio planhigion
 
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu proffesiynol | Bydd yr adroddiadau cnydau a glaswelltiroedd yn gofyn I’r myfyrwyr greu adroddiad mewn dull penodol. | 
| Gallu digidol | Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we yn gyson i ganfod gwybodaeth ar gyfer gwaith i'w asesu. | 
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gyfirfo amrywiaeth o gyfrifiadau er enghraifft, cyllidebau porthiant, twf glaswellt a chyfran hau maetholion | 
| Synnwyr byd go iawn | Mae'r ddau aseiniad yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr wneud gwaith sydd yn debyg i sefyllfa go iawn. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5