Module Information

Cod y Modiwl
CB35500
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd Hir  10000 o eiriau  90%
Asesiad Ailsefyll Poster  500 o eiriau  10%
Asesiad Semester Poster  500 o eiriau  10%
Asesiad Semester Traethawd Hir  10000 o eiriau  90%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Asesu a chloriannu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol.

2. Llunio adolygiad o destunau perthnasol.

3. Cynllunio a chynnal ymchwil yn ymwneud â busnes.

4. Dadansoddi canlyniadau a’u cyflwyno.

5. Cyflwyno trafodaeth, casgliadau ac argymhellion dilys.

6. Nodi unrhyw oblygiadau perthnasol yn ymwneud â rheolaeth neu bolisi.

Adlewyrchu ar sut y gall y sgiliau academaidd a'r sgiliau byd gwaith a ddatblygwyd yn ystod y modiwl gael eu cymhwyso tuag at cyflogaeth yn y dyfodol neu astudiaethau pellach

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn cyfuno sgiliau rheoli busnes, marchnata, economeg, cyllid busnes a rheoli twristiaeth o fewn fframwaith astudiaeth fanwl o bwnc a ddewisir gan y myfyriwr, dan arweiniad aelodau o staff academaidd. Darperir cymorth trwy ddarlithoedd ar dechnegau ymchwil, rheoli prosiectau, goblygiadau rheolaethol, gweithdai, seminarau a goruchwyliaeth.

Cynnwys

Nid oes maes llafur penodol. Mae'r darlithoedd, y seminarau a'r gweithdai yn cynnig arweiniad cyffredinol ar ddylunio a methodoleg ymchwil. Gellir dewis pwnc ar gyfer y prosiect ymchwil o unrhyw faes yn ymwneud ag economeg, cyllid, busnes a rheolaeth, marchnata neu reoli twristiaeth, ar yr amod bod digon o ddeunydd darllen addas ar gael, a bod aelod o staff ar gael i arolygu yn y maes astudio dan sylw. Dewisir y pwnc mewn ymgynghoriad â chydlynydd y modiwl ac aelodau eraill o staff ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy arolygu, datblygu’r cynnig ymchwil, monitro cynnydd, adolygu drafft
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Hunan-reolaeth, blaengaredd, gallu gweithio’n annibynnol, a hunan-ymwybyddiaeth
Datrys Problemau Trafod mewn darlithoedd paratoadol, datblygu cynnig prosiect a rhoi’r hyn a ddysgwyd ar waith mewn ymchwil ac wrth gwblhau adroddiad.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Sgiliau trefnu ac ymchwil; datblygu’r sgiliau i allu dysgu’n annibynnol
Rhifedd Cyfleoedd i ddefnyddio technegau meintiol sy’n briodol i’r pwnc a ddewiswyd
Sgiliau pwnc penodol Cymhwyso sgiliau ansoddol a meintiol i sefyllfaoedd rheoli penodol a’r amgylchedd busnes presennol
Sgiliau ymchwil Canfod, dethol a chymhathu gwybodaeth o amryw ffynonellau er mwyn paratoi adroddiad.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i ddeunydd cyfeiriol priodol; defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ddadansoddi data, ac wrth baratoi a chyflwyno’r adroddiad

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6