Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol

Module Identifier
CB38000
Module Title
Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 1 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Mr Jonathan Fry
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
MM38020 or MM38020
Other Staff
Dr Olaoluwa Olusanya
Mr Jonathan Fry

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Assessment length

Proportion

Semester Assessment Adroddiad terfynol 2000 o eiriau 70%
Semester Assessment Cyflwyniad Pwerbwynt wedi ei drosleisio 10 Munud 30%
Supplementary Assessment Cyflwyniad Pwerbwynt wedi ei drosleisio 10 Munud 30%
Supplementary Assessment Adroddiad terfynol 2000 o eiriau 70%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. 1. Gweithredu gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth o Fusnes a Rheolaeth yn ymarferol.
  2. 2. Adnabod tasgau ac anawsterau sy’n berthnasol i’r sefydliad a hwyluso canlyniadau pwrpasol.
  3. 3. Gwerthuso eu perfformiad eu hunain a chynyddu eu hymwybyddiaeth o’u sgiliau eu hunain.
  4. 4. Gweithredu ynghyd ag unigolion a grwpiau o fewn y sefydliad.
  5. 5. Datblygu’r gallu i fyfyrio ar wybodaeth a phrofiadau a gawsant yn ystod y profiad gwaith.
  6. 6. Cyflwyno syniadau yn effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  7. 7. Cyfathrebu a chyd-weithio yn effeithiol gyda chyfoedion a gyda ystod eang o unigolion o fewn y lleoliad profiad gwaith.
  8. 8. Datbygu eu gallu mewn ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy sy’n cynnwys darllen, cymathu, archwilio a beirniadu systemau cymleth cyfundrefnol neu sefydliadol.
  9. 9. Datblygu’r gallu i cyfathrebu gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol gan ddefnyddio dulliau addas i’r lleoliad gan gynnwys cyfathrebu ar lafar, trwy ysgrifen neu ddulliau electroneg.

Brief description

Mae’r modiwl yma yn darparu profiad penodol ac ymarferol yn y gweithle a fydd yn ychwanegu at ragolygon myfyrwyr ar gyfer eu cyflogadwyedd yn y dyfodol mewn meysydd dewisiol. Mae’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr weithio o fewn sefydliadau masnachol, llywodraeth, awdurdod lleol neu mewn sefydliad elusennol. Gall myfyrwyr weithredu yn ystyrlon i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd tra’n cyfrannu yn arwyddocaol at waith y sefydliad. Mae’n ofynnol i fyfyrwyr adlewyrchu’n feirniadol ar eu datbygiad proffesiynol a’u datblygiad personol. Ni ellir sicrhau lle ar y modiwl ar gyfer unrhyw fyfyriwr a gellir cynnal cyfweliadau er mwyn cynnig llefydd.

Aims

-

Content

Dysgir y modiwlau tros ddau semestr. Dysgir y modiwl trwy brofiad gwaith ac yn ystod 8 seminar o 1 awr yr un. Disgwylir i’r profiad gwaith gymeryd lle yn rheolaidd e.e. dydd Mercher am 7 awr. Cyd-lynydd y modiwl fydd yn trefnu’r profiad gwaith gan amlaf ond gall myfyrwyr ddod o hyd i’w profiad gwaith ei hunain yn ystod gwyliau’r haf cyn iddynt ddechrau eu trydydd flwyddyn, cyn belled eu bod wedi llwyddo yn yr ail flwyddyn, neu gallant gwblhau’r profiad gwaith yn ystod gwyliau’r Nadolig wedi iddynt ddechrau’r modiwl. Mae’n angenrheidiol fod Cyd-lynydd y modiwl yn cymeradwyo’r profiad gwaith ymlaen llaw. Er mwyn i’r profiad gwaith gael ei gymeradwyo mae’n rhaid i’r myfyrwyr gwblhau o leiaf 112 awr o waith. Ni chaiff myfyrwyr dreulio mwy na mwyafrif o 126 awr ar brofiad gwaith. Ni chaniateir gwyriad o’r nifer o oriau heblaw fod y Cyd-lynydd wedi caniatau hynny. Disgwylir i’r myfyrwyr ymgymeryd mewn gwaith ymchwil ar gyfer paratoi ac ysgrifennu adroddiad o 3,000 o eiriau. Dylai’r adroddiad am y profiad gwaith asesu dealltwriaeth myfyrwyr o’r projectau maent wedi bod yn ran ohonynt ac asesu eu gallu i fyfyrio ar y canlyniadau o’r profiad gwaith. Gall yr adroddiad fod ar ffurf traethawd academaidd am y profiad gwaith, h.y. nid yn unig yn cymeryd i ystyriaeth y tasgau a gwblhawyd ond adlewyrchiad academaidd beirniadol cryf sy’n pwysleisio’r cysylltiad rhwng y profiad gwaith a’r meysydd perthnasol a astudir.

Module skills

Skills type

Skills details

Communication Defnydd effeithiol o wahanol fathau o gyfathrebu, sy’n cynnwys yr adroddiad terfynol a’r cyflwyniad llafar. Yn ogystal a hyn, caiff cyfathrebu ar lafar ei annog a’i ddatblygu yn ystod trafodaethau rhyngweithiol mewn seminarau ac yn ystod rhyngweithio gyda chyd-weithwyr a chleientiaid/neu gleientiaid yn y lleoliad profiad gwaith.
Improving own Learning and Performance Bydd derbyn asesiad fel canlyniad i’r adroddiad terfynol a’r cyflwyniad llafar yn cynyddu hunan-ymwybyddiaeth a’r gallu i hunan-fyfyrio yn feirniadaol.
Information Technology Ceir trwy weithgareddau yn ystod y profiad gwaith.
Personal Development and Career planning Bydd dysgu trwy gydol y modiwl yn arfogi’r myfyrwyr gyda’r gwybodaeth angenrheidiol, y sgiliau trosglwyddiadwy a’r hyder i lwyddo mewn ystod eang o yrfaoedd. Saif y modiwl yn gadarn ar gyfer ehangu dysgu’r myfyrwyr yn y meysydd hyn. Yn wir, dyna’r ethos sy’n sail i’r modiwl yma.
Problem solving Yn ystod y Profiad Gwaith bydd yn rhaid i’r myfyrwyr ddatrus llawer o broblemau ymarferol a all godi a fydd yn cynyddu eu sgiliau datrus problemau ymarferol a beirniadol
Research skills Bydd sgiliau ymchwil myfyrwyr yn cael eu datblygu trwy eu defnydd o lenyddiaeth ymchwil.
Subject Specific Skills Bydd datblygu sgiliau pynciol penodol yn agwedd ar gyfer pob myfyriwr ond bydd cynnwys ac ehangder y sgiliau yma’n dibynu ar y lleoliad profiad gwaith.
Team work Fel rheol, dibyna sefydliadau ar weithio fel tim felly bydd y modiwl, wrth reswm, yn cynyddu sgiliau gweithio mewn tim.

Notes

This module is at CQFW Level 6