Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura
- Module Identifier
- CC38220
- Module Title
- Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Dr James Finnis
- Reading List
- View on Aspire
- Exclusive (Any Acad Year)
-
CS38220
- Other Staff
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Asesiad Cyflogadwyedd: 2000 o eiriau | 30% |
| Semester Exam | Arholiad: 2 Hours 2 Awr | 70% |
| Supplementary Assessment | Asesiad Cyflogadwyedd: 2000 o eiriau | 30% |
| Supplementary Exam | Arholiad: 2 Hours 2 Awr | 70% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Asesu yn feirniadol berfformiad economaidd a chynlluniau cwmni cyfrifiadurol bach, a photensial economaidd syniad cychwynnol.
- Cymhwyso deddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â chyfrifiadura a chodau ymddygiad proffesiynol i sefyllfaoedd ddydd i ddydd sy'n codi mewn busnes, a gwerthuso risgiau sy'n gysylltiedig â'r sefyllfaoedd hynny.
- Datblygu cynllun gyrfa strategol a gwybod pa gamau sydd angen eu cymryd i'w gyflawni.
- Asesu'r math o waith a wneir gan gwmni cyfrifiadurol ac i resymu mathau o gyfleoedd a heriau gyrfa sydd ar gael o fewn y cwmni hwnnw.
- Gwerthuso'r goblygiadau rheoli i gwmni o ran materion amrywiaeth a chydraddoldeb, iechyd a diogelwch, TG gwyrdd, rheoli diogelwch ac adnoddau dynol.
Brief description
Mae’r modiwl hwn yn mynd i’r afael â llawer o’r materion annhechnegol sy’n hanfodol i fyfyrwyr sy’n bwriadu dilyn gyrfa broffesiynol yn y diwydiant meddalwedd. Bydd y pynciau a drafodir yn y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddeall llawer o'r materion a fydd yn codi wrth iddynt ddilyn gyrfa mewn cyfrifiadureg. Yn benodol, mae ein graddau wedi'u hachredu gan y BCS, ac mae'r BCS yn ystyried y mathau o bynciau sy'n cael sylw yn y modiwl hwn fel rhan angenrheidiol o addysg unrhyw weithiwr TG proffesiynol siartredig.
Aims
Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno deunydd ym meysydd allweddol proffesiynoldeb a gyrfaoedd, cyllid, iechyd a diogelwch, pryderon amgylcheddol, y gyfraith ac eiddo deallusol mewn modd unedig, yng nghyd-destun y diwydiant meddalwedd. Dysgir peth deunydd rhagarweiniol o'r math hwn ar adegau priodol mewn modiwlau eraill ar lefelau is. Mae'r modiwl hwn yn dod â'r holl ddeunydd hwnnw ynghyd ar lefel briodol ar gyfer myfyriwr graddedig sy'n ymuno â'r diwydiant meddalwedd.
Content
Cyflwyniad i'r cwrs [1]
Materion cyfreithiol: Troseddol v cyfraith sifil. Camddefnyddio Cyfrifiaduron, RIPA, Diogelu data a phreifatrwydd data. IPR. Contractau meddalwedd a thrwyddedu. [5]
Materion rheoli: Strwythur sefydliadau, Rheoli Diogelwch, Rheoli Cynaliadwyedd, Rheoli risg, Adnoddau Dynol, rheolaeth 360 gradd, proffesiynoldeb, y BCS, Cydraddoldeb ac amrywiaeth. [8]
Busnes: Busnesau Newydd. Cynllunio. Costio a phrisio. Elw a cholled. Marchnata. [6]
Gyrfaoedd: Penderfynu ar yrfa. Dod o hyd i'r swydd iawn ar gyfer eich gyrfa. Paru eich sgiliau â hysbysebion swyddi. Cyfweliadau - beth i'w ddisgwyl, sut i ateb cwestiynau anodd, beth i'w ofyn. Sgyrsiau gan gwmnïau cynrychioliadol yn y diwydiant meddalwedd. [9]
Crynodeb o'r modiwl [1]
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Dealltwriaeth o sefydliadau sy'n bwysig ar gyfer gyrfa; Datblygu sgiliau cyflogadwyedd |
| Co-ordinating with others | Amherthnasol |
| Creative Problem Solving | Ym mhob aseiniad ymarferol |
| Critical and analytical thinking | Trwy ddeunydd ariannol, a asesir yn yr arholiad |
| Digital capability | Yn gynhenid i'r pwnc. |
| Professional communication | Ym mhob aseiniad ymarferol |
| Real world sense | Yn yr aseiniad cyflogadwyedd |
| Reflection | Yn yr aseiniad cyflogadwyedd |
| Subject Specific Skills | Amherthnasol |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Computer Science,Aberystwyth University, Llandinam Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622424 : +44 : +44 (0)1970 622021
cs-office@aber.ac.uk: cs-office@aber.ac.uk
