Prosiect Byr

Module Identifier
CC39620
Module Title
Prosiect Byr
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Mr Neil Taylor
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite

Cyd-Anrhydedd neu Is-Bwnc
Exclusive (Any Acad Year)
CC39440 or CS39440
Exclusive (Any Acad Year)
CS39620
Exclusive (Any Acad Year)

Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Adroddiad ysgrifenedig: a gwaith technegol cysylltiedig, arddangosiadau, a cham cyntaf. 6000 o eiriau 100%
Supplementary Assessment Adroddiad ysgrifenedig: a gwaith technegol cysylltiedig, arddangosiadau, a cham cyntaf. 6000 o eiriau 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Arddangos gallu i ddadansoddi problem, datblygu modd o ymchwilio i’r broblem neu ei datrys, a chwblhau darn o waith dan gyfarwyddyd goruchwyliwr, ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefniadaeth a menter.
  2. Arddangos gallu i ennill profiad mewn maes penodol, trwy astudio hunangyfeiriedig yn bennaf.
  3. Arddangos gallu i ddefnyddio’r prif bethau a gyflawnwyd ganddynt yn ystod eu hastudiaethau gradd yn annibynnol.
  4. Llunio arfarniad beirniadol ysgrifenedig a llafar o’u gwaith, gan werthuso pob agwedd ar eu dull o weithredu

Brief description

Rhaid i'r myfyrwyr gwblhau darn o waith technegol ac ysgrifenedig sylweddol, dan gyfarwyddyd goruchwyliwr, ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefniadaeth a menter. Fel arfer, bydd y prosiectau yn cynnwys datblygu darn o feddalwedd o'r datganiad cychwynnol drwy'r camau manylu a chynllunio, i weithredu a phrofi'r gwaith yn llwyddiannus. Bydd myfyrwyr a'r cefndir priodol yn gallu cyflawni prosiect sy'n cynnwys elfen o galedwedd. Gall prosiectau eraill ymchwilio i feysydd technegol a datblygu meddalwedd a phrosesau i asesu'r meysydd hynny.

Trwy weithio ar y prosiect hwn, bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gymhwyso a datblygu eu sgiliau wrth drafod problem benodol, cwblhau'r prosiect a dogfennu'r broses. Bydd y myfyrwyr yn datblygu cynnyrch gorffenedig o'r cam o fanylu ar y gofynion hyd at ddangos bod y cynnyrch yn bodloni'r gofynion hynny. Mae'r broses hon yn cynnwys llunio dogfennau priodol, gan gynnwys dogfennau sy’n trafod y penderfyniadau cynllunio a wnaethpwyd. Bydd prosiectau ymchwil hefyd yn pwysleisio'r broses ymchwil ac yn gwerthuso'r canlyniadau.

Content

Bydd hyd at 10 darlith yn gysylltiedig a'r posiect.

Darperir amryw ddeunyddiau ysgrifenedig, gan roi cyfarwyddyd ynghylch cyflawni'r prosiect, materion asesu, a chyflwyno'r prosiect. Disgwylir i fyfyrwyr drefnu eu hamser ar y prosiect bob wythnos a chyfarfod a’u goruchwyliwr yn rheolaidd. Asesir y cwrs hwn ar sail cyflawni technegol, yn ol tystiolaeth a gyflwynir drwy arddangosiadau, y gwaith technegol a'r canlyniadau, ynghyd ag adroddiad ysgrifenedig sylweddol.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Mae defnyddio gwybodaeth rifyddol yn elfen gynhenid o astudio Cyfrifadura.
Communication Dylai'r modiwl hwn fod o fudd i'w sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig (traethawd estynedig) a llafar (arddangosiad).
Improving own Learning and Performance Gofynnir i'r myfyriwr ystyried ei ddysgu a'i berfformiad ei hun.
Information Technology Mae technoleg gwybodaeth yn elfen gynhenid o astudio Cyfrifiadura.
Personal Development and Career planning Dylai'r modiwl hwn helpu myfyriwr i ddeall potensial eu gradd benodol ar gyfer sicrhau swydd, a darparu deunydd sylweddol ar gyfer eu portfolio.
Problem solving Mae datrys problemau yn elfen gynhenid o weithredu systemau Cyfrifiadura.
Research skills Bydd angen iddynt archwilio ac ysgrifennu ynghylch parth defnyddio systemau cyfrifiadura.
Subject Specific Skills Datblygir mwy o wybodaeth fanwl mewn rhai sgiliau sy'n benodol i'r pwnc o ganlyniad i weithio ar y prosiect. Bydd sgiliau yn wahanol ar gyfer pob myfyriwr.
Team work Amherthnasol

Notes

This module is at CQFW Level 6