Cyflwyniad i Droseddeg

Module Identifier
CT12220
Module Title
Cyflwyniad i Droseddeg
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Miss Demi John
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
CT12220 or LC12220
Exclusive (Any Acad Year)
CT22220 or LC22220
Exclusive (Any Acad Year)
LC32220
Other Staff
Miss Demi John

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd: 1500 o eiriau 40%
Semester Assessment Perfformiad seminar: 20%
Semester Exam Arholiad Ar Lein: 1.5 Hours 40%
Supplementary Assessment Adolygiad yn lle perfformiad seminar: 1000 o eiriau 20%
Supplementary Assessment Traethawd: 1500 o eiriau 40%
Supplementary Exam Arholiad ar lein: 1.5 Hours Arholiad na welir ymlaen llaw 1.5 Awr 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth ddatblygedig o ddamcaniaethau troseddegol craidd;
  2. Nodi sail ontolegol ac epistemolegol ystod eang o ddamcaniaethau ym maes troseddeg
  3. Deall sut mae datblygiadau mewn theori yn esblygu;
  4. Deall sut mae troseddeg ddamcaniaethol wedi helpu i siapio’r system a’r prosesau cyfiawnder troseddol cyfoes;
  5. Nodi’r cryfderau a’r cyfyngiadau o ran potensial esboniadol theori

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn ystyried safbwyntiau damcaniaethol allweddol sy’n helpu i esbonio troseddu ac anrhefn gymdeithasol mewn cymdeithas. Mae’n lleoli safbwyntiau troseddegol yn eu cyd-destunau cymdeithasol a gwleidyddol gan ystyried eu perthnasedd a’u cymhwysiad yn y gymdeithas gyfoes a sut maent wedi llywio systemau a phrosesau cyfiawnder troseddol

Content

Bydd y prif themâu a ystyrir yn cynnwys:

Cyflwyniad i Droseddeg
Troseddeg Glasurol a Dewis Rhesymegol
Troseddeg Fiolegol a’r Ysgol Bositifaidd
Troseddeg Gymdeithasegol
Durkheim a Ffwythiannaeth Strwythurol
Damcaniaethau Straen Cymdeithasol
Ecoleg Gymdeithasol ac Anhrefn Gymdeithasol
Troseddeg Is-ddiwylliannol
Damcaniaeth Rheolaeth Gymdeithasol
Labelu
Troseddeg Feirniadol

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Bydd deall a chloriannu data ymchwil meintiol perthnasol yn elfen bwysig o’r modiwl
Communication Llafar: Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy gymryd rhan mewn trafodaethau seminar. Byddant yn dysgu i fod yn glir ac yn uniongyrchol wrth drafod. (Dim asesiad) Ysgrifenedig: Bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu ac asesir eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ar sail eu gallu i fynegi syniadau’n effeithiol, sgiliau iaith da a dadl resymegol
Improving own Learning and Performance Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn ochrol, gydag ymarferion a gynlluniwyd i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu cysyniadau haniaethol, a chaniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ynghylch eu dysgu eu hunain
Information Technology Bydd paratoi ar gyfer seminarau, yr aseiniadau a’r arholiad oll yn golygu bod angen defnyddio cronfeydd data’r llyfrgell a chronfeydd data electronig eraill
Personal Development and Career planning Gwell gallu i feddwl yn annibynnol ac yn feirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon
Problem solving Bydd cymathu ystod o ddamcaniaethau cymhleth yn datblygu gallu myfyrwyr i ddatrys problemau, a bydd ystod o ymarferion rhyngweithiol yn y darlithoedd, seminarau a'r aseiniad yn annog meddwl ochrol
Research skills Bydd sgiliau ymchwil yn cael eu datblygu trwy ddod o hyd i lenyddiaeth ar wahanol ddamcaniaethau troseddegol a’u dadansoddi’n feirniadol er mwyn llunio a chyflwyno trafodaeth wybodus ar gyfer yr asesiadau. Bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer y seminarau, fel unigolion ac fel grŵp
Subject Specific Skills Mae’r modiwl hwn yn darparu cyfle i’r myfyrwyr nodi, dadansoddi, cloriannu ac ymarfer cyfres o sgiliau yn ymwneud â deall theori troseddegol.
Team work Bydd gweithio mewn grwpiau bach a seminarau grŵp o fewn y seminarau yn meithrin sgiliau gweithio mewn tîm.

Notes

This module is at CQFW Level 4