Cyfraith Camwedd
- Module Identifier
- CT21120
- Module Title
- Cyfraith Camwedd
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Dr Catrin Fflur Huws
- Reading List
- View on Aspire
- Exclusive (Any Acad Year)
-
CT11120 or LC11120
- Exclusive (Any Acad Year)
-
LC21120
- Other Staff
- Professor Ryszard Piotrowicz
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Perfformiad seminar: | 20% |
| Semester Assessment | Aseiniad ysgrifenedig: 2000 o eiriau | 40% |
| Semester Exam | Arholiad nas gwelir ymlaen llaw: 2 Hours | 40% |
| Supplementary Assessment | Aseiniad ysgrifenedig: 2000 o eiriau | 40% |
| Supplementary Assessment | Adolygiad yn lle perfformiad seminar: | 20% |
| Supplementary Exam | Arholiad nas gwelir ymlaen llaw: 2 Hours | 40% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Nodi ac esbonio egwyddorion sylfaenol cyfraith camwedd mewn manylder, yn ogystal â dadansoddi eu perthnasedd a’r modd y’u defnyddir.
- Nodi, dadansoddi a chloriannu’r elfennau sy’n ffurfio sail atebolrwydd mewn camwedd, sef y gweithredoedd neu’r anweithiau perthnasol a (lle bo’n berthnasol) yr elfen feddyliol.
- Dangos dealltwriaeth dda o elfennau perthnasol y prif gamweddau, a gallu eu cymhwyso i sefyllfaoedd ffeithiol i ddatrys problemau.
- Cloriannu a dadansoddi cwmpas cyfraith camwedd, nodi problemau cyfredol mewn modd rhesymegol, ac ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio.
- Gallu cymharu cyfraith camwedd Cymru a Lloegr â chyfreithiau camwedd awdurdodaethau gwahanol ond tebyg, yn bennaf yr Alban ac Awstralia, a chloriannu cryfderau a gwendidau cyfraith Cymru a Lloegr yn y cyd-destun hwnnw.
- Llunio dadleuon credadwy ac argyhoeddiadol ar sail y gyfraith a thystiolaeth berthnasol, er mwyn datblygu sgiliau mewn darllen, deall a chymhwyso’r ffynonellau cyfreithiol perthnasol (achosion a deddfwriaeth) i broblemau cyfreithiol; a dehongli a dadansoddi rheolau a thestunau cyfreithiol; a darllen a chloriannu ffynonellau eilaidd perthnasol.
Brief description
Mae’r modiwl yn mynd i’r afael ag egwyddorion sylfaenol camwedd, hynny yw, hawl unigolion i geisio rhwymedïau cyfreithiol preifat am gamweddau y maent wedi’u dioddef gan eraill, naill ai’n fwriadol neu trwy esgeuluster. Mae camweddau o’r fath yn cynnwys anaf corfforol bwriadol ac esgeulus i’r person ac i eiddo, anaf seiciatrig, ymyrryd â’r mwynhad o eiddo a difrodi enw da.
Content
Noder - mae myfyrwyr lefel 2 yn mynychu’r darlithoedd Lefel 1 yn y modiwl hwn. FODD BYNNAG, er mwyn adlewyrchu eu statws Lefel 2, bydd (i) eu harholiadau, a (ii) eu gwaith seminar yn wahanol ac wedi’u gosod ar lefel uwch.
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r egwyddorion allweddol sy’n sail i’r buddiannau a amlinellir uchod, yn ogystal ag ystyried elfennau cyfreithiol penodol yr egwyddorion hyn, yn bennaf trwy astudio’r gyfraith achosion berthnasol yn ogystal â deddfwriaeth.
Cynnwys
* Cyflwyniad i gyfraith camwedd
* Camweddau bwriadol yn erbyn y person
* Camweddau bwriadol yn erbyn tir a nwyddau
* Esgeuluster – dyletswydd gofal; safon gofal; achosiaeth a phellenigrwydd difrod; cyfrifoldeb meddianwyr; sioc seicolegol; colled economaidd bur a chamddatganiad esgeulus; atebolrwydd dirprwyol
* Amddiffyniadau i esgeuluster
* Niwsans
* Rylands v Fletcher
* Difenwad
* Diogelu preifatrwydd
* Atebolrwydd am anifeiliaid
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Communication | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr trwy gyfrwng yr arholiad. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy ymatebion unigol a grŵp i waith penodol a osodir ar sail y seminarau. |
| Improving own Learning and Performance | Mae cymryd rhan mewn seminarau a pharatoi ar gyfer arholiadau yn datblygu gwahanol agweddau ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio at ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. |
| Information Technology | Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a gwaith sy’n cael ei asesu. |
| Personal Development and Career planning | Pwnc a argymhellir ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gweithio ym maes trosedd/y system cyfiawnder troseddol. |
| Problem solving | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau y myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau er mwyn ateb cwestiynau datrys problemau yn y seminarau AC yn yr arholiad. |
| Research skills | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chyfuno ystod o ddeunyddiau ffynhonnell academaidd wrth baratoi ar gyfer eu seminarau ac ar gyfer eu harholiad. |
| Subject Specific Skills | Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion. Darllen ffynonellau gwreiddiol ar ffurf achosion a deddfwriaeth. Bydd ymarferion datrys problemau mewn seminarau yn cynorthwyo â chwestiynau datrys problemau mewn arholiadau, ac yn ehangach ym mhroffesiwn y gyfraith. |
| Team work | Bydd y seminarau yn cynnwys datrys problemau a thrafodaethau grŵp a fydd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a thrafod eu syniadau â gweddill y dosbarth. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
