Yr Heddlu, Plismona a'r Gymdeithas

Module Identifier
CT31020
Module Title
Yr Heddlu, Plismona a'r Gymdeithas
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Miss Demi John
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
CT12220 or CT22220 or CT32220 or LC12220 or LC22220 or LC32220
Exclusive (Any Acad Year)
LC31020
Exclusive (Any Acad Year)
CT21020 or LC21020
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Vlog mewn Grwp: 20 Munud 50%
Semester Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Traethawd: Traethawd yn lle'r Vlog 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. ​Dangos ymwybyddiaeth feirniadol a dealltwriaeth gadarn o’r prif ddamcaniaethau, persbectifau a chysyniadau’n ymwneud â phlismona.
  2. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o lywodraethu ac atebolrwydd yr heddlu, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  3. Cymhwyso damcaniaethau troseddegol, seicolegol a chymdeithasegol i arferion plismona cyfredol.
  4. Nodi ac egluro’r gwahanol ffyrdd y mae plismona wedi cael ei drawsffurfio yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn gyfreithiol; dehongli sut y mae’r newidiadau hyn wedi effeithio ar bolisïau, arferion a thrafodaethau.
  5. Esbonio a dadansoddi’n feirniadol sut y mae prosesau ‘lluosoli’ a ‘globaleiddio’ wedi effeithio ar wahanol randdeiliaid a rhannau penodol o’r cyhoedd.
  6. Dangos gwybodaeth drylwyr am gysyniadau plismona lluosol a llywodraethu diogelwch o safbwynt cyfreithiol-gymdeithasol.

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn rhoi i fyfyrwyr wybodaeth a dealltwriaeth o rôl a swyddogaethau’r heddlu a ffurfiau eraill o blismona. Mae’n cyflwyno’r myfyrwyr i gysyniadau ehangach ‘llywodraethu diogelwch’ a ‘plismona lluosol’ o safbwyntiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Trwy archwilio’r berthynas rhwng yr Heddlu a phlismona, mae’r modiwl yn egluro newidiadau hanesyddol allweddol a weddnewidiodd blismona, ac effaith a chanlyniadau’r newidiadau hynny i’r gymdeithas gyfoes. Mae ffocws rhyngddisgyblaethol y modiwl yn ystyried y themâu hyn o safbwyntiau troseddegol, cyfreithiol, seicolegol, a chymdeithasegol.

Content

1. ​Llywodraethu’r Heddlu yn y Deyrnas Unedig

Modelau a Swyddogaethau
Llywodraethu/ Atebolrwydd
Dilysrwydd
Plismona Democrataidd

2. Cymdeithaseg yr Heddlu

Diwylliant yr Heddlu
Disgresiwn
Allgau Cymdeithasol

3. Plismona Lluosol

Plismona Cymunedol
Partneriaethau
Plismona Preifat
Plismona wedi’i ymgorffori

4. Plismona mewn Cyd-destun Byd-eang

Plismona Cymharol
Plismona Trawswladol

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Trwy ddadansoddi’n feirniadol ganfyddiadau ymchwil bydd y myfyrwyr yn datblygu gwerthfawrogiad o’r ffordd y mae damcaniaethau ac ymarfer yn cyfuno yng nghyd-destun yr heddlu.
Communication Anogir cyfathrebu ar lafar yn ystod trafodaethau mewn seminarau rhyngweithiol ac mewn gwaith grŵp a wneir yn y gyfres o seminarau. Bydd cyfathrebu ysgrifenedig yn cael ei ddatblygu a’i asesu yn y gwaith cwrs.
Improving own Learning and Performance Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn ochrol. Bydd tasgau ac ymarferion a bennir yn y seminarau yn hwyluso dysgu cysyniadau haniaethol a’u cymhwyso i sefyllfaoedd go iawn. Bydd aseiniad y traethawd yn datblygu sgiliau trefniadol ac yn annog myfyrwyr i fyfyrio ynghylch dysgu ac addysgu cynnwys y modiwl mewn modd blaengar.
Information Technology ydd chwilio cronfeydd data electronig a chyfnodolion ar-lein yn gyfle i ymarfer sgiliau TG. Bydd cynnwys craidd y modiwl a thaflenni’r darlithoedd ar gael ar Blackboard.
Personal Development and Career planning Bydd astudio annibynnol wrth baratoi ar gyfer darlithoedd a seminarau yn datblygu gallu’r myfyrwyr i reoli eu dysgu eu hunain. Bydd gwaith grŵp yn arfogi myfyrwyr â’r sgiliau cyfathrebu i gydweithio ag eraill yn y gweithle. Bydd y gwaith paratoi sydd ei angen ar gyfer aseiniad y traethawd yn annog myfyrwyr i fynychu pob darlith a seminar a chymryd rhan weithredol yn y tasgau.
Problem solving Bydd gofyn i fyfyrwyr ystyried amrywiaeth eang o faterion sy’n codi mewn perthynas â’r heddlu, plismona, llywodraethu a rheolaeth gymdeithasol. Bydd hyn yn gwella ac yn datblygu sgiliau datrys problemau a dadansoddi beirniadol.
Research skills Datblygir sgiliau ymchwil trwy ddefnyddio a dadansoddi testunau ar themâu’n ymwneud â phlismona er mwyn paratoi a chwblhau’r gwaith a asesir.
Subject Specific Skills Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau adfyfyriol a byddant hefyd yn cael eu hannog i feddwl yn feirniadol ynglŷn â’r modd y cymhwysir polisïau’r heddlu i ymarfer yr heddlu.
Team work Bydd gwaith mewn grwpiau bach yn y seminarau yn meithrin gwaith tîm ac yn datblygu cyfnewid gwybodaeth rhwng y myfyrwyr a’r tiwtoriaid.

Notes

This module is at CQFW Level 6