Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 4 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Portffolio lleoliad gwaith Sylwebaeth adlewyrchol, gyda therfyn gair uchaf o 2000 o eiriau, ond heb derfyn ar gynnwys deunyddiau eraill (e.e. llawlyfrau hyfforddi, canllawiau asiantaeth ayyb.) | 25% |
Asesiad Semester | Adolygiad y lleoliad gwaith gan asiantaeth allanol Adolygiad ac asesiad gan y sefydliad lle gwneir y lleoliad | 20% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad ar ôl y lleoliad gwaith Cyflwyniad o 10-15 munund | 25% |
Asesiad Semester | Adrodiad adfyfyriol 1500 gair | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Adrodiad adfyfyriol estynedig lleoliad gwaith 5000 gair | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Cyflawni lleoliad gwaith am gyfnod gofynnol.
Gweithio i amserlen benodol mewn asiantaeth cyfiawnder troseddol, amgylchedd llywodraeth neu academaidd.
Gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
Defnyddio gwybodaeth o’r astudiaethau academaidd mewn sefyllfa waith
Ystyried sut gallant ddefnyddio eu sgiliau cyflogadwyedd i wella eu dysgu academaidd.
Asesu a myfyrio ar wybodaeth a phrofiad a gafwyd o’r lleoliad a’u cynnwys mewn darn o waith academaidd.
Asesu cyfraniad eu hyfforddiant sgiliau a’u profiad gwaith at ddatblygiad eu gyrfa.
Disgrifiad cryno
oriau o leiaf. Yna, byddent yn dychwelyd ac yn cwblhau traethawd estynedig fel rhan o’r asesiad. Rhan fechan o’r asesiad fyddai asesiad o’u perfformiad yn ystod y lleoliad a fyddai’n cael ei asesu gan y sefydliad lle gwneir y lleoliad.
Cynnwys
Adrannau rhagarweiniol i’w dysgu gan Staff y Brifysgol
1.Cyflwyniad i waith asiantaethau cyfiawnder troseddol
2.Cyflwyniad i waith maes a’i beryglon
3.Ymarfer Myfyriol
4.Ymddygiad Proffesiynol yn y Gweithle
Hyfforddiant Sgiliau Rhagarweiniol a gynigir gan Sefydliadau
Lleoliad
Ôl-drafodaeth a myfyrdod
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Anogir a datblygu cyfathrebu llafar yn ystod trafodaethau seminar rhyngweithiol ac wrth ymwneud â chyd-weithwyr a/neu gleientiaid yn y lleoliad gwaith. Datblygir sgiliau ysgrifenedig drwy’r cynllun a’r traethawd estynedig byr. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae’r modiwl yn dda ar gyfer gwella dysgu myfyrwyr yn y meysydd hyn; yn wir dyma’r ethos y seiliwyd y modiwl arno. |
Datrys Problemau | Yn ystod y lleoliad bydd yn rhaid datrys llawer o broblemau ymarferol a fydd yn datblygu ac yn gwella sgiliau datrys problemau beirniadol ac ymarferol myfyrwyr. |
Gwaith Tim | Mae pob asiantaeth cyfiawnder troseddol yn dibynnu ar waith tîm felly bydd y modiwl o anghenraid yn gwella sgiliau gwaith tîm. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd trafodaethau seminar ac adborth ar waith yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio ar eu dysgu eu hunain. Yn fwy gwerthfawr, efallai, fydd y posibilrwydd o fyfyrio ar weithrediad eu disgyblaeth mewn amgylchedd ymarferol ac ymwneud y ddisgyblaeth â pholisi ac ymarfer. |
Rhifedd | Mae llawer o asiantaethau cyfiawnder troseddol yn defnyddio gwaith ymchwil meintiol i bennu polisi ac mae llawer hefyd yn defnyddio materion meintiol i fesur effeithiolrwydd ymyrraethau yn gyffredinol ac ar unigolion penodol. |
Sgiliau pwnc penodol | Agwedd ar gyfer pob myfyriwr yn unigol fydd datblygu sgiliau pwnc-benodol ond bydd hyd a lled y sgiliau hyn yn amrywio yn ôl y lleoliad. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir sgiliau ymchwil drwy fynediad at lenyddiaeth ar agweddau ar eu lleoliad. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd chwilio drwy gronfeydd data a chyfnodolion ar-lein yn ymarfer sgiliau TG. Yn amodol ar eu lleoliadau, bydd y myfyrwyr hefyd yn debyg o ddod ar draws systemau coladu cronfeydd data newydd ar gyfer gwybodaeth am gleientiaid. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6