Trosedd a Chosb o Safbwynt Hanesyddol
- Module Identifier
- CT33020
- Module Title
- Trosedd a Chosb o Safbwynt Hanesyddol
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Miss Demi John
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
CT12220 or CT22220 or CT32220 or LC12220 or LC22220 or LC32220
- Exclusive (Any Acad Year)
-
CT23020 or LC23020
- Exclusive (Any Acad Year)
-
LC33020
- Other Staff
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Asesiad Naratif Myfyriol: 2000 o eiriau | 50% |
| Semester Exam | Arholiad a gwelir ymlaen llaw: 2 Hours 2 Awr | 50% |
| Supplementary Assessment | Asesiad Naratif Myfyriol: Ailsefyll yr elfen a fethwyd 2000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Exam | Arholiad a gwelir ymlaen llaw: 2 Hours Ailsefyll yr elfen a fethwyd 2 Awr | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth feirniadol gadarn o effaith newid cymdeithasol ar faterion sy’n ymwneud a throsedd, rheoli trosedd a chosb.
- Dangos adnabyddiaeth a dealltwriaeth am faterion hanesyddol a chymharol yn natblygiad polisïau, prosesau a sefydliadau cyfiawnder troseddol.
- Asesu gwerth ymagweddau hanesyddiaethol wrth ddatblygu dealltwriaeth o faterion cyfoes sy’n ymwneud â throsedd a chyfiawnder troseddol.
- Adnabod ac egluro gwahanol ffyrdd y trawsnewidiwyd systemau a phrosesau cyfiawnder troseddol yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn gyfreithiol; dehongli’r effaith a gafodd y trawsnewidiadau hyn ar bolisïau, arferion a dadleuon cyfoes.
- Adnabod ac ystyried yn feirniadol gyfyngiadau’r ffynonellau cynradd sydd ar gael ac sy’n ymwneud â’r gwahanol gyfnodau hanesyddol a drafodir yn ystod y modiwl.
- Dangos gwybodaeth gadarn o’r egwyddorion sy’n sail i ymagweddau cyfiawnder troseddol yn ystod pob un o’r cyfnod hanesyddol a drafodir yn ystod y modiwl.
Brief description
Nid yw’r modiwl hwn yn ceisio darparu disgrifiad cynhwysfawr o ddatblygiadau yn y drefn cyfraith trosedd neu’r drefn gosbi. Mae’n ceisio yn hytrach fynd i’r afael ag ystod o gwestiynau sy’n parhau’n berthnasol ar draws amrywiaeth o gyfnodau hanesyddol: Pa fathau o ymddygiad sy’n cael eu hystyried yn droseddol, a pham? Pa ddulliau cosb a ystyrir yn briodol, a pham? Pa ffactorau sy’n achosi newid i’r dulliau cosb? Sut mae buddiannau dioddefwr y drosedd a buddiannau’r gymuned ehangach yn cael eu cysoni? Bydd cwestiynau eraill yn codi a fydd yn hysbysu ein gallu i ateb y cwestiynau hyn: Sut y gwyddwn faint o droseddu a gafwyd yn y gorffennol? Sut y gwyddwn beth oedd barn pobl amdano? Ymhle gallwn chwilio am wybodaeth a beth yw cyfyngiadau’r wybodaeth honno?
Caiff myfyrwyr gyfle i astudio amrywiaeth o safbwyntiau hanesyddol ar drosedd a chosb. Anogir myfyrwyr i ddatblygu gwell ymwybyddiaeth o barhad ac amrywiadau systemau cyfiawnder troseddol, yn ogystal ag ymatebion eraill y gymdeithas i droseddu a newidiadau cymdeithasol.
Content
Bydd cyfres y darlithoedd a’r seminarau yn ymchwilio i amrywiaeth o themâu a phynciau troseddegol, cyfiawnder troseddol a hanesyddiaethol drwy lygaid cyfres o gyfnodau hanesyddol:
Trosedd a Chosb yn yr Henfyd
Trosedd a Chosb yn yr Oesoedd Canol
Trosedd a Chosb yn y Cyfnod Modern Cynnar
Trosedd a Chosb yn Oes Fictoria
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Trwy ddadansoddi canfyddiadau ymchwil yn feirniadol bydd myfyrwyr yn datblygu gwerthfawrogiad o sut mae theori ac ymarfer yn uno mewn sefyllfa hanesyddol. |
| Communication | Anogir cyfathrebu llafar mewn trafodaethau seminar, gwaith grwp a wneir yn y gyfres seminarau, ac yn ystod yr ymarfer gwaith maes. Datblygir ac asesu cyfathrebu ysgrifenedig yn y gwaith cwrs |
| Improving own Learning and Performance | Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog meddwl beirniadol ac ochrol myfyrwyr. Bydd y tasgau a’r ymarferion a osodir yn y seminarau yn hwyluso dysgu cysyniadau haniaethol a’r defnydd ohonynt mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Bydd aseiniad y traethawd yn datblygu sgiliau trefniadol ac yn annog myfyrwyr i fyfyrio ar ddysgu ac addysgu cynnwys y modiwl fesul cam. |
| Information Technology | Bydd chwilio drwy gronfeydd data a chyfnodolion electronig ar-lein yn ymarfer sgiliau TG. Bydd cynnwys craidd y modiwl a thaflenni’r darlithoedd ar gael ar Blackboard. |
| Personal Development and Career planning | Bydd astudio’n annibynnol wrth baratoi ar gyfer darlithoedd a seminarau yn datblygu annibyniaeth yn nysgu’r myfyriwr. Bydd gwaith grwp yn arfogi’r myfyrwyr a sgiliau cyfathrebu i ymgysylltu ag eraill yn y gweithle. Bydd y gwaith paratoi a’r ymgysylltu angenrheidiol a’r cwrs ar gyfer yr aseiniad myfyriol yn annog myfyrwyr i fynychu pob darlith a seminar ac i gymryd rhan weithredol yn y tasgau. |
| Problem solving | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ystyried ystod eang o bynciau hanesyddol sy’n ymwneud a throsedd, cosb a phrosesau cyfiawnder troseddol. |
| Research skills | Datblygir sgiliau ymchwil drwy gael mynediad at, a dadansoddi llenyddiaeth ar drosedd a chosb er mwyn paratoi a chwblhau’r gwaith a asesir. |
| Subject Specific Skills | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau myfyriol a hefyd yn cael eu hannog yn weithredol i feddwl yn feirniadol am berthnasedd tueddiadau hanesyddol mewn trosedd a chosb i’r gymdeithas fodern a phrosesau cyfiawnder troseddol. |
| Team work | Bydd gwaith mewn grwpiau bychain yn y seminarau yn meithrin gwaith tim ac yn datblygu cyfnewid gwybodaeth rhwng myfyrwyr a thiwtoriaid. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
