Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol

Module Identifier
CT36600
Module Title
Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 1 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Mr Jonathan Fry
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
LC36600 or LC36620
Other Staff
Mr Jonathan Fry

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Assessment length

Proportion

Semester Assessment Adroddiad terfynol: 2000 o eiriau 70%
Semester Assessment Cyflwyniad llafar ar y Profiad Gwaith: 10 Munud 30%
Supplementary Assessment Cyflwyniad llafar ar y Profiad Gwaith: 10 Munud 30%
Supplementary Assessment Adroddiad terfynol: 2000 o eiriau 70%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. 1. Gweithredu gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth o Fusnes a Rheolaeth yn ymarferol.
  2. 2. Adnabod tasgau ac anawsterau sy’n berthnasol i’r sefydliad a hwyluso canlyniadau pwrpasol.
  3. 3. Gwerthuso eu perfformiad eu hunain a chynyddu eu hymwybyddiaeth o’u sgiliau eu hunain.
  4. 4. Gweithredu ynghyd ag unigolion a grwpiau o fewn y sefydliad.
  5. 5. Datblygu’r gallu i fyfyrio ar wybodaeth a phrofiadau a gawsant yn ystod y profiad gwaith.
  6. 6. Cyflwyno syniadau yn effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  7. 7. Cyfathrebu a chyd-weithio yn effeithiol gyda chyfoedion ac ystod eang o unigolion o fewn y lleoliad profiad gwaith.
  8. 8. Datblygu eu gallu mewn ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy sy’n cynnwys darllen, cymathu, archwilio a beirniadu systemau cymhleth cyfundrefnol neu sefydliadol.
  9. 9. Datblygu’r gallu i gyfathrebu gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol gan ddefnyddio dulliau addas i’r lleoliad gan gynnwys cyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig neu trwy ddulliau electronig.

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn darparu profiad penodol ac ymarferol yn y gweithle a fydd yn gwella rhagolygon myfyrwyr i gael eu cyflogi yn eu dewis feysydd yn y dyfodol. Mae’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr weithio mewn sefydliadau masnachol, elusennol, llywodraethol ac awdurdodau lleol i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd wrth wneud cyfraniad arwyddocaol i waith y sefydliad. Bydd gofyn i fyfyrwyr fyfyrio’n feirniadol ar eu datblygiad proffesiynol a phersonol. Ni ellir sicrhau lle ar y modiwl ar gyfer unrhyw fyfyriwr ac mae’n bosib y cynhelir cyfweliadau er mwyn cynnig lleoedd.

Content

Dysgir y modiwlau dros ddau semester. Dysgir y modiwl trwy brofiad gwaith ac 8 seminar 1 awr yr un.

Disgwylir i’r profiad gwaith gymryd lle yn rheolaidd e.e. dydd Mercher am 7 awr. Cydlynydd y modiwl fydd yn trefnu’r profiad gwaith gan amlaf ond gall myfyrwyr ddod o hyd i’w profiad gwaith eu hunain yn ystod gwyliau’r haf cyn iddynt ddechrau eu trydydd flwyddyn, cyn belled â’u bod wedi llwyddo yn yr ail flwyddyn, neu gallant gwblhau’r profiad gwaith yn ystod gwyliau’r Nadolig wedi iddynt ddechrau’r modiwl. Mae’n angenrheidiol fod Cydlynydd y modiwl yn cymeradwyo’r profiad gwaith ymlaen llaw.

Er mwyn i’r profiad gwaith gael ei gymeradwyo mae’n rhaid i’r myfyrwyr gwblhau o leiaf 112 awr o waith. Ni chaiff myfyrwyr dreulio mwy nag uchafswm o 126 awr ar brofiad gwaith. Ni chaniateir gwyriad o’r nifer o oriau heblaw fod y Cydlynydd wedi caniatáu hynny.

Disgwylir i’r myfyrwyr ymgymryd a gwaith ymchwil er mwyn paratoi ac ysgrifennu adroddiad 3,000 o eiriau. Dylai’r adroddiad am y profiad gwaith asesu dealltwriaeth myfyrwyr o’r prosiectau maent wedi bod yn rhan ohonynt ac asesu eu gallu i fyfyrio ar y canlyniadau sy’n deillio o’r profiad gwaith. Gall yr adroddiad fod ar ffurf traethawd academaidd am y profiad gwaith, h.y. nid disgrifiad o’r tasgau a gwblhawyd yn unig ond yn hytrach myfyrdod beirniadol deallusol drylwyr yn amlygu’r cysylltiad rhwng y lleoliad gwaith a’r meysydd astudio perthnasol.

Module skills

Skills type

Skills details

Communication Defnydd effeithiol o wahanol fathau o gyfathrebu, sy’n cynnwys yr adroddiad terfynol a’r cyflwyniad llafar. Yn ogystal â hyn, caiff cyfathrebu ar lafar ei annog a’i ddatblygu yn ystod trafodaethau rhyngweithiol mewn seminarau ac yn ystod rhyngweithio gyda chyd- weithwyr a chleientiaid/neu gleientiaid yn y lleoliad profiad gwaith.
Improving own Learning and Performance Bydd derbyn asesiad fel canlyniad i’r adroddiad terfynol a’r cyflwyniad llafar yn cynyddu hunan- ymwybyddiaeth a’r gallu i hunan- fyfyrio yn feirniadaol.
Information Technology Ceir trwy weithgareddau yn ystod y profiad gwaith.
Personal Development and Career planning Bydd dysgu trwy gydol y modiwl yn arfogi’r myfyrwyr a’r wybodaeth angenrheidiol, y sgiliau trosglwyddadwy a’r hyder i lwyddo mewn ystod eang o yrfaoedd. Saif y modiwl yn gadarn ar gyfer ehangu dysgu’r myfyrwyr yn y meysydd hyn. Yn wir, dyna’r ethos sy’n sail i’r modiwl hwn.
Problem solving Yn ystod y Profiad Gwaith bydd yn rhaid i’r myfyrwyr ddatrys llawer o broblemau ymarferol a all godi a fydd yn cynyddu eu sgiliau datrys problemau ymarferol a beirniadol.
Research skills Bydd sgiliau ymchwil myfyrwyr yn cael eu datblygu trwy eu defnydd o lenyddiaeth ymchwil ar agweddau o’r profiad gwaith.
Subject Specific Skills Bydd datblygu sgiliau pwnc-benodol yn agwedd ar gyfer pob myfyriwr ond bydd cynnwys ac ehangder y sgiliau yma’n dibynnu ar y lleoliad profiad gwaith.
Team work Fel rheol, mae sefydliadau’n dibynnu ar weithio fel tîm felly bydd y modiwl, wrth reswm, yn cynyddu sgiliau gweithio mewn tim.

Notes

This module is at CQFW Level 6