Module Information

Cod y Modiwl
CT36600
Teitl y Modiwl
Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ail-sefyll trwy gyflwyno Adroddiad  Estynedig yn Myfyrio ar y Profiad Gwaith (4000 o eiriau)  100%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar ar y Profiad Gwaith  30%
Asesiad Semester Adroddiad terfynol  (3000 o eiriau)  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Gweithredu gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth o Fusnes a Rheolaeth yn ymarferol.

2. Adnabod tasgau ac anawsterau sy’n berthnasol i’r sefydliad a hwyluso canlyniadau pwrpasol.

3. Gwerthuso eu perfformiad eu hunain a chynyddu eu hymwybyddiaeth o’u sgiliau eu hunain.

4. Gweithredu ynghyd ag unigolion a grwpiau o fewn y sefydliad.

5. Datblygu’r gallu i fyfyrio ar wybodaeth a phrofiadau a gawsant yn ystod y profiad gwaith.

6. Cyflwyno syniadau yn effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar.

7. Cyfathrebu a chyd-weithio yn effeithiol gyda chyfoedion ac ystod eang o unigolion o fewn y lleoliad profiad gwaith.

8. Datblygu eu gallu mewn ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy sy’n cynnwys darllen, cymathu, archwilio a beirniadu systemau cymhleth cyfundrefnol neu sefydliadol.

9. Datblygu’r gallu i gyfathrebu gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol gan ddefnyddio dulliau addas i’r lleoliad gan gynnwys cyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig neu trwy ddulliau electronig.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn darparu profiad penodol ac ymarferol yn y gweithle a fydd yn gwella rhagolygon myfyrwyr i gael eu cyflogi yn eu dewis feysydd yn y dyfodol. Mae’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr weithio mewn sefydliadau masnachol, elusennol, llywodraethol ac awdurdodau lleol i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd wrth wneud cyfraniad arwyddocaol i waith y sefydliad. Bydd gofyn i fyfyrwyr fyfyrio’n feirniadol ar eu datblygiad proffesiynol a phersonol. Ni ellir sicrhau lle ar y modiwl ar gyfer unrhyw fyfyriwr ac mae’n bosib y cynhelir cyfweliadau er mwyn cynnig lleoedd.

Cynnwys

Dysgir y modiwlau dros ddau semester. Dysgir y modiwl trwy brofiad gwaith ac 8 seminar 1 awr yr un.

Disgwylir i’r profiad gwaith gymryd lle yn rheolaidd e.e. dydd Mercher am 7 awr. Cydlynydd y modiwl fydd yn trefnu’r profiad gwaith gan amlaf ond gall myfyrwyr ddod o hyd i’w profiad gwaith eu hunain yn ystod gwyliau’r haf cyn iddynt ddechrau eu trydydd flwyddyn, cyn belled â’u bod wedi llwyddo yn yr ail flwyddyn, neu gallant gwblhau’r profiad gwaith yn ystod gwyliau’r Nadolig wedi iddynt ddechrau’r modiwl. Mae’n angenrheidiol fod Cydlynydd y modiwl yn cymeradwyo’r profiad gwaith ymlaen llaw.

Er mwyn i’r profiad gwaith gael ei gymeradwyo mae’n rhaid i’r myfyrwyr gwblhau o leiaf 112 awr o waith. Ni chaiff myfyrwyr dreulio mwy nag uchafswm o 126 awr ar brofiad gwaith. Ni chaniateir gwyriad o’r nifer o oriau heblaw fod y Cydlynydd wedi caniatáu hynny.

Disgwylir i’r myfyrwyr ymgymryd a gwaith ymchwil er mwyn paratoi ac ysgrifennu adroddiad 3,000 o eiriau. Dylai’r adroddiad am y profiad gwaith asesu dealltwriaeth myfyrwyr o’r prosiectau maent wedi bod yn rhan ohonynt ac asesu eu gallu i fyfyrio ar y canlyniadau sy’n deillio o’r profiad gwaith. Gall yr adroddiad fod ar ffurf traethawd academaidd am y profiad gwaith, h.y. nid disgrifiad o’r tasgau a gwblhawyd yn unig ond yn hytrach myfyrdod beirniadol deallusol drylwyr yn amlygu’r cysylltiad rhwng y lleoliad gwaith a’r meysydd astudio perthnasol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Defnydd effeithiol o wahanol fathau o gyfathrebu, sy’n cynnwys yr adroddiad terfynol a’r cyflwyniad llafar. Yn ogystal â hyn, caiff cyfathrebu ar lafar ei annog a’i ddatblygu yn ystod trafodaethau rhyngweithiol mewn seminarau ac yn ystod rhyngweithio gyda chyd- weithwyr a chleientiaid/neu gleientiaid yn y lleoliad profiad gwaith.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd dysgu trwy gydol y modiwl yn arfogi’r myfyrwyr a’r wybodaeth angenrheidiol, y sgiliau trosglwyddadwy a’r hyder i lwyddo mewn ystod eang o yrfaoedd. Saif y modiwl yn gadarn ar gyfer ehangu dysgu’r myfyrwyr yn y meysydd hyn. Yn wir, dyna’r ethos sy’n sail i’r modiwl hwn.
Datrys Problemau Yn ystod y Profiad Gwaith bydd yn rhaid i’r myfyrwyr ddatrys llawer o broblemau ymarferol a all godi a fydd yn cynyddu eu sgiliau datrys problemau ymarferol a beirniadol.
Gwaith Tim Fel rheol, mae sefydliadau’n dibynnu ar weithio fel tîm felly bydd y modiwl, wrth reswm, yn cynyddu sgiliau gweithio mewn tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd derbyn asesiad fel canlyniad i’r adroddiad terfynol a’r cyflwyniad llafar yn cynyddu hunan- ymwybyddiaeth a’r gallu i hunan- fyfyrio yn feirniadaol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd datblygu sgiliau pwnc-benodol yn agwedd ar gyfer pob myfyriwr ond bydd cynnwys ac ehangder y sgiliau yma’n dibynnu ar y lleoliad profiad gwaith.
Sgiliau ymchwil Bydd sgiliau ymchwil myfyrwyr yn cael eu datblygu trwy eu defnydd o lenyddiaeth ymchwil ar agweddau o’r profiad gwaith.
Technoleg Gwybodaeth Ceir trwy weithgareddau yn ystod y profiad gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6