Trafod y Byd Cyfoes drwy'r Gymraeg
- Module Identifier
- CY10920
- Module Title
- Trafod y Byd Cyfoes drwy'r Gymraeg
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Eurig Salisbury
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Eurig Salisbury
- Professor Mererid Hopwood
- Dr Rhianedd Jewell
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Cyflwyniad llafar: 5 Munud | 20% |
| Semester Assessment | Asesu parhaus: Cyfrannu at ddosbarthiadau llafar ac ymarferol | 10% |
| Semester Assessment | Arwain trafodaeth mewn seminar: (un pwnc seminar fesul myfyriwr) | 10% |
| Semester Assessment | Asesiad gwrando a deall: 20 Munud | 20% |
| Semester Exam | Arholiad llafar: 10 Munud | 40% |
| Supplementary Assessment | Cyflwyniad llafar: 5 Munud | 20% |
| Supplementary Assessment | Cyflwyniad llafar ar bwnc arall: 5 Munud | 20% |
| Supplementary Assessment | Asesiad gwrando a deall: 20 Munud | 20% |
| Supplementary Exam | Arholiad llafar: 10 Munud | 40% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Trafod newyddion, materion cyfoes a diwylliannol yn ymwneud â Chymru a’r byd yn hyderus yn y Gymraeg.
- Deall a defnyddio ystod eang o eirfa briodol ac addas ar gyfer gwahanol feysydd cyfoes a diwylliannol, wrth siarad ac wrth wrando.
- Dangos dealltwriaeth o gyweiriau’r Gymraeg a’r modd y mae’r iaith yn gweithio mewn gwahanol gyfryngau print a digidol.
- Defnyddio cywair iaith priodol wrth gyfathrebu ar lafar.
Brief description
Modiwl ymarferol yw hwn a fydd yn cadarnhau ac yn atgyfnerthu sgiliau llafar myfyrwyr Ail Iaith er mwyn eu paratoi ar gyfer trafod ystod eang o bynciau ffurfiol ac anffurfiol yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. Dysgir y derminoleg a’r eirfa gysyniadol sy’n angenrheidiol wrth astudio’r Dyniaethau yn y Brifysgol ac yn y gweithle Cymraeg ei iaith.
Rhoddir sylw i’r iaith lafar safonol a chanolbwyntir ar faterion cyfoes sy’n ymwneud â Chymru a’r byd cyfoes yn gyffredinol.
Content
Trafodir pynciau amrywiol ac iddynt ffocws ar ddiwylliant a’r dyniaethau mewn gweithdy wythnosol, e.e. tafodieithoedd Cymru; cyweiriau’r Gymraeg; nodweddion yr iaith lafar a’r iaith lenyddol; yr Eisteddfod; diwylliant poblogaidd a cherddorol Cymru; Llywodraeth Cymru a datganoli; byd natur a bywyd gwyllt; beirniadu llenyddiaeth.
Bydd Seminar wythnosol yn gyfle i ganolbwyntio ar drafod pynciau llosg a newyddion y dydd. Defnyddir adnoddau print ac electronig, e.e. erthyglau ar Golwg, Golwg360, Barn, Cymru Fyw, ac ati.
Cynhelir dau Weithdy wythnosol ychwanegol i ganolbwyntio ar sgiliau gwrando a chyflwyno.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Communication | Rhesymeg y modiwl yw galluogi myfyrwyr i’w mynegi eu hunain yn hyderus ar lafar mewn Cymraeg cyfoes. |
| Improving own Learning and Performance | Trwy dderbyn ac ymateb i adborth gan staff dysgu mewn gweithdai a seminarau. |
| Information Technology | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio geirfa a straeon am ddigwyddiadau cyfoes ar-lein, e.e. Golwg360, Cymru Fyw, Twitter. |
| Personal Development and Career planning | Trwy ymgyfarwyddo â materion cyfoes a newyddion, a dysgu sut i addasu deunydd i’w gyflwyno i eraill ar lafar. Trwy fagu hyder i gyfathrebu ar lafar yn y Gymraeg. |
| Problem solving | Rhesymeg y modiwl yw trin a thrafod nodweddion llafar Cymraeg cyfoes. Bydd myfyrwyr yn wynebu heriau o safbwynt geirfa, cystrawen a mynegiant. |
| Research skills | Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell ac adnoddau arlein wrth fynd i’r afael â’r modiwl hwn. |
| Subject Specific Skills | Dysgir am gyweiriau’r Gymraeg a chanolbwyntir yn y modiwl hwn ar deithi Cymraeg llafar safonol a’r modd y defnyddir hi. |
| Team work | Bydd myfyrwyr yn cydweithio ag eraill yn y gweithdai a’r seminiarau, wrth baratoi cyflwyniad llafar, ac wrth arwain trafodaeth. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
