Gloywi Iaith

Module Identifier
CY20120
Module Title
Gloywi Iaith
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 2 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Bleddyn Huws
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Bleddyn Huws
Dr Eurig Salisbury
Professor Mererid Hopwood
Dr Llewelyn Hopwood

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Prawf llafar: 10 Munud 15%
Semester Assessment Ymarferion Wythnosol (8 Semester 1; 8 Semester 2): 1500 o eiriau 45%
Semester Exam Arholiad: 2 Hours 2 Awr 40%
Supplementary Assessment Tasg Ysgrifenedig Estynedig: 1500 o eiriau 45%
Supplementary Assessment Prawf Llafar: 10 Munud 15%
Supplementary Exam Arholiad Atodol: 2 Hours 2 Awr 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. O fanteisio i'r eithaf ar y modiwl hwn byddwch yn meddu ar ymwybyddiaeth o deithi'r Gymraeg ac yn medru ei defnyddio'n raenus ac yn gywir yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  2. Bydd myfyrwyr a fydd yn rhagori yn medru arddangos meistrolaeth o nodweddion megis orgraff yr iaith, ffurfiau ac amserau berfau, cenedl enwau, y treigladau, llunio cymalau ac adnabod gwahanol fathau o frawddegau.

Brief description

Modiwl yw hwn a fwriadwyd i feithrin gallu myfyrwyr i ysgrifennu'r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru'n raenus. Fe'i dysgir ar sail grwpiau dan ofal tiwtor, a gosodir tasg ysgrifenedig yn wythnosol. Yn ogystal â thrafod cynhyrchion yr wythnos flaenorol, bydd elfen o hyfforddiant ieithyddol a fydd yn annibynnol ar hynny yn wedd ar bob dosbarth hefyd. Bydd prif bwyslais y dosbarthiadau ar yr iaith ysgrifenedig, ond rhoddir peth sylw hefyd i feithrin ymwybyddiaeth o iaith raenus fel paratoad ar gyfer y Prawf Llafar a fydd yn rhan o asesiad y modiwl.

Content

Dysgir y modiwl ar ffurf grŵp neu weithdy iaith wythnosol o dan ofal tiwtor. Trafodir y gwallau cyffredin sy’n ymddangos yng ngwaith y myfyrwyr o wythnos i wythnos, a chyfeirir y myfyrwyr at yr adran berthnasol yn y Gramadeg. Gosodir ymarferion iaith yn y dosbarth o bryd i’w gilydd er mwyn hyfforddi dan gyfarwyddyd.

Bydd y pynciau gramadegol penodol hyn yn cael eu trafod:

Orgraff

Cenedl Enwau

Treigladau

Cyweiriau’r iaith

Gwahaniaethu rhwng defnydd safonol ac ansafonol o’r iaith

Cystrawennau

Cymalau

Priod-ddulliau

Diarhebion Cymraeg

Cyfieithu

Yn ogystal â hyn, cynhelir gweithdy a fydd yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer sefyll y Prawf Llafar.

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Bydd mireinio eu Cymraeg ysgrifenedig a llafar yn fanteisiol i fyfyrwyr yn ystod eu gyrfa yn y brifysgol, ac wrth fynd i’r gweithle proffesiynol Cymraeg ei iaith.
Co-ordinating with others Bydd cyfle i gydweithio wrth wneud rhai ymarferion yn y dosbarth.
Creative Problem Solving Bydd myfyrwyr yn gallu cywiro gwallau gramadeg a’u hesbonio.
Critical and analytical thinking Bydd gofyn i’r myfyrwyr allu chwilio am esboniadau gramadegol a defnyddio adnodd electronig megis Geiriadur Prifysgol Cymru Ar-lein
Digital capability Bydd cyfle i ddefnyddio rhai adnoddau electronig perthnasol.
Professional communication Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu cyfathrebu yn gywir ac yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Reflection Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu gweld pa wallau rheolaidd y maent yn eu gwneud a sut i’w cywiro
Subject Specific Skills Trin y Gymraeg yn unol â rheolau gramadegol.

Notes

This module is at CQFW Level 5