Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500

Module Identifier
CY20720
Module Title
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Eurig Salisbury
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
CY30720
Other Staff
Dr Eurig Salisbury
Dr Yi Li
Dr Rhun Emlyn

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Assessment length

Proportion

Semester Assessment Traethawd: 1000 o eiriau 30%
Semester Assessment Traethawd: 2500 o eiriau 70%
Supplementary Assessment Traethawd: 1000 o eiriau 30%
Supplementary Assessment Traethawd: 2500 o eiriau 70%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Gwerthfawrogi pwysigrwydd barddoniaeth fel testun llenyddol a hanesyddol wrth roi golwg ar gyfnod o hanes;
  2. Dadansoddi cysyniadau haniaethol er mwyn dangos ymwybyddiaeth o hanesyddiaeth barddoniaeth Cymru’r oesoedd canol a’r modd y mae haneswyr wedi defnyddio’r farddoniaeth honno;
  3. Dadansoddi a gwerthuso ffynonellau gwreiddiol yn ddeallus;
  4. Aadeiladu deongliadau llenyddol a dadansoddiadau hanesyddol, yn llafar ac yn ysgrifenedig, drwy ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol yn ogystal â ffynonellau eilaidd.

Brief description

Mae corff mawr ac amrywiol o farddoniaeth wedi goroesi o Gymru’r oesoedd canol: o’r doniol i’r difrifol, o’r rhywiol i’r crefyddol, o ganmol i wawdio. Dyma destunau cyfoethog a gwerthfawr, ac eto maent yn ein dysgu am fywyd y cyfnod ac yn taflu goleuni ar agweddau gwahanol ar y gymdeithas: cyfoeth, eiddo, rhyfel, gwleidyddiaeth, diwylliant, hunaniaeth, cred, emosiynau a dioddefaint. Sut mae clywed lleisiau’r oesoedd canol? A oes posibl cael syniad cywir o sut roedd pobl yn teimlo a sut roeddent yn meddwl? Pa mor ‘ffeithiol’ yw’r ffynonellau hyn? Bydd y modiwl hwn yn trafod pa mor agos y mae barddoniaeth Cymru’r cyfnod yn dod â ni at adnabod y bobl a’r gymdeithas a’u cynhyrchodd. Wrth astudio’r ffynonellau, yn eu ffurf wreiddiol ac ar ffurf diweddariadau, daw myfyrwyr i werthfawrogi pwysigwydd barddoniaeth a’r modd y gellir ei defnyddio i ddeall hanes a chael golwg ar deimladau, ar syniadau ac ar ffeithiau’r gorffennol.


Dysgir myfyrwyr Rhan 2 a Rhan 3 gyda’i gilydd yn y modiwl hwn.

Content

Ymhob un o’r seminarau ceir cyfle i astudio cyfres o gerddi Cymraeg o’r oesoedd canol diweddar a’u deall fel testunau llenyddol ac fel ffynonellau hanesyddol.

Seminar 1: Cyflwyniad i farddoniaeth a hanes Cymru’r oesoedd canol diweddar

Seminar 2: Astudio’r testunau gwreiddiol mewn llawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol

Mae’r gwaith yn Seminarau 3–9, prif sylwedd y modiwl, yn canolbwyntio ar genres gwahanol, gyda’r nod o’u dadansoddi fel testunau llenyddol ac fel ffynonellau hanesyddol. Canolbwyntir ar genres sylfaenol bwysig – mawl/marwnad, serch a natur a chrefydd – a rhoir sylw penodol hefyd i is-genres: gofyn a diolch, cerddi iacháu a cherddi i adeiladau ac i drefi. Ceir cyfle i ddadansoddi’r hyn gallant ein dysgu am themâu megis hunaniaeth, diwylliant materol, ffydd, rhyfel a gwleidyddiaeth.

Seminar 10: Casgliad

Module skills

Skills type

Skills details

Communication Cyfathrebu’n effeithiol wrth wneud gwaith grŵp, yn benodol wrth drafod gwendidau a rhagoriaethau gwahanol ffynonellau hanesyddol a llenyddol
Improving own Learning and Performance Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitro cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu yn ôl y galw, er mwyn gwella perfformiad cyffredinol
Information Technology Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio’r we yn briodol ac yn effeithiol.
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol, o safbwyntiau ac o nodweddion personol, yng nghyd-destun dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Problem solving Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd greadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Research skills Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Subject Specific Skills Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Team work Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.

Notes

This module is at CQFW Level 5