Module Information

Cod y Modiwl
CY23220
Teitl y Modiwl
Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  2 Awr  60%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  2 Awr  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Deall a thrafod prif nodweddion gwaith y Cywyddwyr Cynnar o ran cefndir, crefft, a chyd-destun hanesyddol.

2. Darllen a gwerthfawrogi yn annibynnol, yn ddeallus ac yn fanwl gywyddau o’r bedwaredd ganrif ar ddeg.

3. Deall a gwerthfawrogi y math o ddylanwadau a fu ar farddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar ddeg.

4. Deall a thrafod yn ddeallus brif themâu barddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar ddeg yn gyffredinol, gan ymgydnabod â nodweddion crefft ac arddull y cywydd deuair hirion, ac ambell nodwedd dechnegol fel crefft dyfalu.

5. Deall a dangos ymwybyddiaeth o’r ysgolheictod diweddaraf ym maes gwaith Dafydd ap Gwilym yn benodol gan eu cymhwyso at ymdriniaethau beirniadol â barddoniaeth Gymraeg o gyfnodau diweddarach.

Disgrifiad cryno

Er mai ar waith Dafydd ap Gwilym y canolbwyntir yn bennaf, ceir astudiaeth o ddetholiad o gywyddau’r Cywyddwyr Cynnar gan sylwi ar nodweddion crefft ac arddull. Yn ogystal â darllen a dehongli cywyddau penodol, bydd hefyd gyfle i ymdrin yn feirniadol â rhai themâu o fewn y cyd-destun hanesyddol.

Cynnwys

Dyma’r fwydlen sylfaenol:

Darlithoedd 1-8:

Cyflwyniad i farddoniaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg o safbwynt hanes y gyfundrefn farddol a hanes cymdeithasol Cymru.

Cyflwyniad i’r canu serch cyfandirol a’i ddylanwad ar farddoniaeth Gymraeg. Ystyried yr agweddau at ferched yn yr Oesau Canol diweddar.

Manylion bywgraffyddol am Ddafydd ap Gwilym a chyflwyniad i’r prif ymdriniaethau â’i waith.

Ymdriniaeth â phwnc awduraeth cerddi’r bedwaredd ganrif ar ddeg.

Darlithoedd 9-20

Darllen yn fanwl a thrafod yn y dosbarth ddetholiad o gywyddau gan Ddafydd ap Gwilym, Iolo Goch, Madog Benfras, Llywelyn Goch Amheurig Hen a Gruffudd ab Adda ap Dafydd. Cymerir mwy o amser gydag ambell gerdd er mwyn ei dadansoddi a’i dehongli ymhellach gan ei chymharu a’i chyferbynnu â cherdd arall.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae cyfle mewn trafodwersi gyfraniadau llafar wrth ymateb i destun, ac i ddatblygu gallu ysgrifenedig i drafod a dehongli cerddi.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir medrau trefnu amser a rheoli llif gwaith yn ogystal â medrau dehongli beirniadol.
Datrys Problemau Dan gyfarwyddyd mewn dosbarth datblygir gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau’n ymwneud â darllen testunau barddoniaeth o’r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Gwaith Tim Bydd cyfle mewn trafodwers i drafod ar lefel grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Drwy dderbyn adborth gan y darlithydd a thrwy ddysgu’n wythnosol fedru darllen testun yn fanwl.
Rhifedd Mae gwybod am ddyddiadau cywir a chronoleg gywir yn hollbwysig.
Sgiliau pwnc penodol Darllen testunau o gerddi’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn ddeallus.
Sgiliau ymchwil Datblygir y gallu i ymchwilio’n annibynnol ac i bwyso a mesur testunau a gwybodaeth feirniadol gynradd.
Technoleg Gwybodaeth Bydd rhaid defnyddio’r We i ganfod nodiadau ac aralleiriadau o gerddi Dafydd ap Gwilym ar www.dafyddapgwilym.net, a rhai gwefannau perthnasol eraill.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5