Module Information

Cod y Modiwl
CY35220
Teitl y Modiwl
Barddoniaeth Gymraeg Ddiweddar (1979-)
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad atodol  2 Awr  60%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  2 Awr  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Trafod yn feirniadol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, weithiau llenyddol o'r cyfnod dan sylw, gan ystyried elfennau megis eu syniadaeth/ideoleg, eu crefft a'u strwythur, a'u perthynas a'r traddodiad llenyddol Cymraeg ac a mudiadau llenyddol rhyngwladol lle bo'r rheiny'n berthnasol.

Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r gweithiau llenyddol a astudir yng nghyd-destun hanesyddol a chymdeithasol y cyfnod diweddar.

Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r gweithiau llenyddol a astudir mewn perthynas a safonau beirniadaeth lenyddol berthnasol.

Disgrifiad cryno

Modiwl yw hwn a fydd yn archwilio datblygiad barddoniaeth Gymraeg o'r flwyddyn 1979 (blwyddyn y Refferendwm cyntaf ar Ddatganoli) ymlaen. Bydd y cwrs yn asesu cyfraniad beirdd diweddar i'r llen ac yn dadansoddi adlewyrchiad digwyddiadau hanesyddol yn eu gwaith. Ymhlith y beirdd yr edrychir ar eu gwaith bydd Alan Llwyd, Gerallt Lloyd Owen, Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafydd, Twm Morys, Emyr Lewis, a Gwyneth Lewis; edrychir hefyd ar ambell gerdd hir eisteddfodol nodedig. Ystyrir yr elfennau ceidwadol yn ogystal a'r rhai blaengar yn ein barddoniaeth ddiweddar.

Cynnwys

.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Bydd cyfle i fyfyrwyr gyd-drafod a rhannu syniadau wrth drafod testunau penodol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dadansoddi testunau o safbwynt generig ac adnabod confensiynau llenyddol penodol.
Sgiliau Pwnc-benodol Dadansoddir testunau Cymraeg o safbwynt ieithyddol, diwylliannol a llenyddol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6