Bro a Bywyd: Dehongli Treftadaeth Lenyddol y Cymry

Module Identifier
CY35800
Module Title
Bro a Bywyd: Dehongli Treftadaeth Lenyddol y Cymry
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 1 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Rhianedd Jewell
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
CY12720
Other Staff
Dr Bleddyn Huws
Dr Cathryn Charnell-White
Dr Rhianedd Jewell

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Assessment length

Proportion

Semester Assessment Adroddiad: byr yn Semester Un yn trafod y teithiau maes. 500 o eiriau 10%
Semester Assessment Cyflwyniad: yn Semester Dau 20 Munud 20%
Semester Assessment Prosiect: 3000 o eiriau 70%
Supplementary Assessment Adroddiad: Bydd gofyn i fyfyrwyr syn methur modiwl gyflenwi unrhyw elfennau asesedig sydd yn eisiau, ac/neu ailgyflwyno unrhyw aseiniadau gwaith cwrs a fethwyd (gan ysgrifennu ar bwnc newydd), a/neu sefyll y papur arholiad atodol. Os methwyd elfen 2, bydd gofyn am gyflwyniad ysgrifenedig. 500 o eiriau 10%
Supplementary Assessment Cyflwyniad: 20 Munud 20%
Supplementary Assessment Prosiect: 3000 o eiriau 70%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Meddu ar adnabyddiaeth briodol a dwfn o froydd Cymru a'u cysylltiadau llenyddol.
  2. Dangos ystod o sgiliau ymchwilio datblygedig a'r gallu i ddod o hyd i ddeunyddiau perthnasol.
  3. Dangos dealltwriaeth soffistigedig o gydberthynas agweddau theoretig ac ymarferol wrth gynllunio sut i hybu ymwneud y cyhoedd ag etifeddiaeth ddiwylliannol y Cymry.
  4. Gwneud defnydd pwrpasol o amrywiaeth o dechnegau wrth gynllunio a chynhyrchu deunyddiau o'u dewis eu hunain, ac wrth gyflwyno dehongliad beirniadol i gynulleidfa fyw.

Brief description

Modiwl yw hwn sy'n dysgu myfyrwyr am y gwahanol ffyrdd o ddehongli etifeddiaeth lenyddol y Cymry ac elfennau eraill o'r diwylliant ehangach, a'u hyfforddi i gyfuno gwybodaeth, creadigrwydd a dyfeisgarwch i hybu diddordeb y cyhoedd.

Aims

Datblygir sgiliau beirniadol wrth ddysgu sut i ddehongli a throsglwyddo gwybodaeth am lên a llenorion Cymru i eraill, a gwneud hynny o fewn fframwaith theoretig sy'n holi am natur 'etifeddiaeth' a 'threftadaeth'. Datblygir medrau cyfathrebu mewn nifer o gyfryngau, a sgiliau ysgrifennu a golygu i safon uchel. Datblygir sgiliau ymchwil a medrau cynllunio a marchnata mewn meysydd diwylliannol.

Content

Dysgir ar draws Semester Un a Dau.
Yn Semester Un ceir 9 darlith yn cwmpasu'r elfennau hyn:
1. Cysyniadau (5 darlith): etifeddiaeth, treftadaeth; dyletswydd yr Academi i'r cyhoedd; hybu gweithgareddau llenyddol; adloniant v. addysg; swyddogaeth y cyfryngau a'r sefydliadau; amgueddfeydd, orielau; archifau ffilm a llun; llyfrgelloedd; CADW; Comisiwn Henebion; fframwaith y gyfraith; polisi cyhoeddus; asiantaethau; twristiaeth fewnol a thwristiaeth ddiwylliannol.
2. Hunaniaeth broydd Cymru (3 darlith): astudiaethau ar bedwar prosiect enghreifftiol yn cynnig ac yn trafod esiamplau o dechnegau y gellid eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth, ac i danio diddordeb yn llên a llenorion y prosiectau hynny.
3. Hefyd yn Semester Un bydd dwy daith maes leol.
Yn Semester Dau, bydd y myfyrwyr yn gweithio dan hyfforddiant (3 awr o ymgynghori unigol) ar brosiect sylweddol a fydd yn esgor ar ddarn gorffenedig o waith addas i'w gyhoeddi (e.e. llyfryn; teithlyfr manwl; testun ar gyfer podcast neu raglen radio; deunydd ar gyfer gwefan; ffilm fer).
Hefyd cynhelir cyfres o weithdai (4 awr) y bydd gofyn i'r myfyrwyr gyfrannu cyflwyniadau iddynt.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Mân elfennau achlysurol gydag ystadegau etc.
Communication Ar bapur ac ar lafar a hefyd drwy orfod cynllunio deunydd amlgyfrwng ar gyfer y cyhoedd (prosiect, cyflwyniad).
Improving own Learning and Performance Drwy gael adborth gan y darlithwyr, a thrwy drafod gwaith cyflwyno eraill mewn sefyllfa gweithdy.
Information Technology Disgwylir i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we, rhaglen PowerPoint, offer digidol, technolegau mapio a dylunio yn ogystal â geirbrosesu
Personal Development and Career planning Drwy ddysgu am faes sydd o'r pwys mwyaf i economi'r wlad; datblygu'r gallu i chwilio am gydweithrediad gan bobl eraill (e.e. mewn sefydliadau), i ddeall gofynion y gynulleidfa, ac i weithio'n hyderus ac i safon uchel o fewn cyfnod penodedig o amser.
Problem solving Drwy ddethol deunydd a'i ddehongli'n effeithiol gan ddatblygu strategaethau priodol at y dasg
Research skills Drwy orfod cyrchu amrywiaeth helaeth o ffynonellau ac ymgynefino ag ystod o ddeunyddiau mewn sawl cyfrwng.
Team work Elfennau o waith tîm yn cael eu cynnwys yn y gweithdai

Notes

This module is at CQFW Level 6