Prosiect Annibynnol

Module Identifier
CY35900
Module Title
Prosiect Annibynnol
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 1 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Cathryn Charnell-White
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite

Mae'r modiwl hwn yn greiddiol i fyfyrwyr Q5P0 ac yn ddewisol i fyfyrwyr ar gynlluniau eraill yr Adran
Other Staff
Dr Bleddyn Huws
Dr Cathryn Charnell-White
Ms Elizabeth Morse

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cynllun ymchwil manwl: 1500 o eiriau 20%
Semester Assessment Prosiect Annibynnol: 8,500 o eiriau yn achos traethawd neu swmp o waith cyfatebol yn achos prosiect arall 80%
Supplementary Assessment Prosiect Annibynnol: 8500 o eiriau 80%
Supplementary Assessment Cynllun ymchwil manwl: 1500 o eiriau 20%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. trefnu a chydlynu prosiect seiliedig ar ymchwil bersonol.
  2. datblygu eu gallu i reoli amser a gweithio'n annibynnol ac yn effeithiol o fewn terfynau amser penodol.
  3. arddangos dealltwriaeth feirniadol o'r ffynonellau cynradd ac eilradd perthnasol.
  4. cynhyrchu prosiect y mae ei ddiwyg yn cyd-fynd gyda chonfensiynau cyfeirnodi a safonau academaidd addas.

Brief description

Cynigia rhan gyntaf y modiwl ragbaratoad i fyfyrwyr er mwyn cynllunio ac ymchwilio ar gyfer prosiect hir ar lefel israddedig. Seilir y proseict ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o'r modiwl. Yn ystod y semester cyntaf bydd myfyrwyr yn diffinio'u testun gan ymgynghori gyda goruchwyliwr cymwys o blith staff yr Adran ac yn cyflwyno cynllun o'r prosiect arfaethedig. Darperir darlithoedd a gweithdai yn Semester 1 yn trafod sut i ddewis a diffinio testun prosiect hir a sut i gynllunio'r ymchwil a'r ysgrifennu. Cynigir hyfforddiant i ddod o hyd i ffynonellau ac i lunio llyfryddiaeth. Erbyn diwedd Semester 1 bydd y myfyrwyr yn cyflwyno cynllun manwl (tua 1,500 o eiriau). Yn Semester 2 bydd myfyrwyr yn cyfarfod a^'u goruchwylwyr mewn cyfarfodydd unigol wrth iddynt fwrw ymlaen gydag ymchwilio a chyflawni'r prosiect hir.

Aims

Galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol, gan adeiladu ar eu profiad dysgu blaenorol o fewn yr Adran. Bydd y modiwl hwn yn arwain myfyrwyr drwy'r broses o baratoi, cynllunio ac ysgrifennu darn estynedig yn y Gymraeg (neu waith prosiect cyfatebol yn y Gymraeg) ar bwnc perthnasol i'w cynllun gradd.

Content

Semester Un: 6 sesiwn (12 awr):
Sesiwn 1: Cyflwyniad Cyffredinol (2 awr)
Sesiwn 2: Cyfarfod unigol gyda'r goruchwylwyr (2 awr)
Sesiwn 3: TG a Sgiliau Gwybodaeth (2 awr)
Sesiwn 4: Ffynonellau ac Ymchwil (2 awr)
Sesiwn 5: Gweithdy I, i fyfyrwyr gyflwyno a thrafod eu syniadau (2 awr)
Sesiwn 6: Gweithdy II, i fyfyrwyr gyflwyno a thrafod eu syniadau (2 awr)
Semester Dau: Cyfarfodydd unigol gyda’r cyfarwyddwr yn ôl y galw (hyd at 5 awr).

Module skills

Skills type

Skills details

Communication Datblygir medru cyfathrebu drwy gyfrwng y gweithdai a'r sesiynau tiwtorial lle mae gofyn i fyfyrwyr drafod eu ffynonellau, eu methodoleg au cynnydd, ynghyd â thrwy'r broses o lunio'r prosiect hir.
Improving own Learning and Performance Disgwylir i fyfyrwyr fedru trefnu'u gwaith ac adrodd yn ôl i'w goruchwyliwr ar eu cynnydd. Drwy'r broses hon, disgwylir iddynt ddatblygu'r gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith.
Information Technology Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-ROM, ac i'w ddefnyddio mewn ffordd addas er mwyn darganfod ffynonellau addas ar gyfer eu testun ymchwil. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth ysgrifennu
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau, safbwyntiau a nodweddion personol; profiad uniongyrchol o gynllunio a chyflwyno gwaith estynedig a all fod o ddefnydd ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Problem solving Rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr i'w cynorthwyo i adnabod y problemau posibl a all godi wrth gynllunio ac ymchwilio i brosiect ymchwil a byddant yn trafod problemau ac atebion posibl yn y gweithdai a chyda'r goruchwylwyr.
Research skills Seilir y proseict ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o'r modiwl.

Notes

This module is at CQFW Level 6