Cyfieithu ar Waith
- Module Identifier
- CYM5520
- Module Title
- Cyfieithu ar Waith
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Ms Elizabeth Morse
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Adroddiad/dyddiadur: | 40% |
| Semester Assessment | Portffolio o waith cyfieithu: | 60% |
| Supplementary Assessment | Adroddiad/dyddiadur: | 40% |
| Supplementary Assessment | Portffolio o waith cyfieithu: | 60% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dangos dealltwriaeth lawn/ddofn o fyd gwaith y cyfieithydd proffesiynol: dyletswyddau sylfaenol, rheoli amser yn effeithiol, sicrhau ansawdd, gweithio fel rhan o dîm.
- Dadansoddi’n feirniadol rôl y cyfieithydd yn y gweithle penodol.
- Dadansoddi’n feirniadol ei (d)datblygiad ei hun yn ystod cyfnod y profiad gwaith.
Brief description
Yn y modiwl hwn, cynhelir sesiynau a fydd yn rhoi cyflwyniad i’r modiwl ac i waith y cyfieithydd yng Nghymru, cyn i’r myfyrwyr fynd allan i’r gweithle.
Aims
Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi profiad ymarferol a phroffesiynol i fyfyrwyr mewn amrywiol weithleoeddsydd yn cyflogi cyfieithwyr. Bydd y modiwl yn darparu cyfle i fyfyrwyr roi eu sgiliau a’u gwybodaeth ar waith, gan ddatblygu ac adeiladu arnynt mewn cyd-destun proffesiynol.
Content
i. Bydd 3 sesiwn 2 awr o hyd yn rhoi cyflwyniad i’r modiwl ac i waith y cyfieithydd.
ii. Lleoliad gwaith o 100 o oriau
iii. Sesiwn 1 awr gyda’r cydlynydd yn ystod y cyfnod yn y gweithle
iv. Sesiwn 1 awr o gyd-drafod wedi i gyfnod y profiad gwaith ddod i ben.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Communication | Trwy’r portffolio cyfieithu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel. Bydd y cyfnod estynedig yn y gweithle yn gofyn am gyfathrebu’n effeithiol â chyfieithwyr proffesiynol a dysgu oddi wrthynt, er na fydd y gwaith hwn yn cael ei asesu’n ffurfiol. |
| Improving own Learning and Performance | Bydd myfyrwyr yn paratoi portffolio o gyfieithiadau yn y gweithle; byddant yn derbyn adborth ar eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella eu perfformiad. Byddant hefyd yn cael profiad o gyfieithu mewn gweithle proffesiynol. |
| Information Technology | Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac adnoddau electronig/digidol wrth baratoi’r cyfieithiadau. |
| Personal Development and Career planning | Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn rhoi cyfle iddynt ystyried datblygiad eu gyrfa ond ni fydd hyn yn cael ei asesu. |
| Problem solving | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ddewis a dethol pa derminoleg i’w defnyddio a sut i gyfieithu testunau o un iaith i’r llall yn ogystal â gwneud penderfyniadau yn y gweithle. |
| Research skills | Cyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch yr eirfa i’w defnyddio yn y tasgau bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau), i darddiad geiriau ac i ddefnydd amrywiol o eirfa. |
| Subject Specific Skills | Datblygir sgiliau cyfieithu drwy gwblhau portffolio o gyfieithiadau yn y gweithle. |
| Team work | Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai. Byddant hefyd yn cael y cyfle i weithio mewn tîm yn y gweithle, ond ni fydd yr elfen hon yn cael eu hasesu’n ffurfiol. |
Notes
This module is at CQFW Level 7
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
