Byw mewn Byd Peryglus
- Module Identifier
- DA10000
- Module Title
- Byw mewn Byd Peryglus
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Cerys Jones
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Adroddiad: 1500 o eiriau | 50% |
| Semester Assessment | Cyflwyniad grŵp: 15 Munud | 50% |
| Supplementary Assessment | Sgript ar gyfer Cyflwyniad grŵp: 15 Munud | 50% |
| Supplementary Assessment | Adroddiad: 1500 o eiriau | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dangos ymwybyddiaeth o safonau, disgwyliadau ac arferion ar lefel prifysgol.
- Nodi ffynonellau data ac adnoddau priodol ar gyfer gwaith academaidd, gan gynnwys llyfrau, cyfnodolion a gwefannau, a dangos gwerthfawrogiad o'r materion sy'n ymwneud â'u defnyddio.
- Dadansoddi tueddiadau hanesyddol mewn digwyddiadau peryglus, a dangos dealltwriaeth o senarios y dyfodol.
- Asesu risg yn feirniadol mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau perygl.
- Cynnig strategaethau lliniaru effeithiol ar gyfer amrywiaeth eang o fygythiadau cymdeithasol.
Brief description
Mae’r modiwl hwn yn eich cyflwyno i’r prif beryglon sy’n wynebu cymdeithas a’r ffyrdd yr eir i’r afael â hwy a’u rheoli trwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Byddwch yn archwilio’r prosesau ffisegol, effeithiau cymdeithasol a strategaethau lliniaru ar gyfer peryglon o’r fath ac yn ystyried tueddiadau hanesyddol ac amcanestyniadau ar gyfer y dyfodol mewn hinsawdd sy’n newid.
Mae’r modiwl yn cynnig cyfle i chi ymwneud yn uniongyrchol â’ch dysgu, i gyfrannu at drafodaeth a rhoi cyflwyniadau ar eich gwaith mewn lleoliad grŵp bach.
Content
Bydd y darlithoedd yn trafod amrywiaeth o themâu, a all gynnwys tywydd eithafol, llifogydd afonol, peryglon seismig a folcanig, a diogelwch bwyd a dŵr.
Bydd seminarau cynllun-benodol yn eich annog i archwilio themâu darlithoedd yn fwy manwl a datblygu sgiliau astudio craidd sy'n ganolog i lwyddiant mewn Addysg Uwch.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Adaptability and resilience | Anogir myfyrwyr i ymateb i adborth. |
| Co-ordinating with others | Myfyrwyr i weithio fel tîm i gyflwyno'r cyflwyniad grŵp. |
| Creative Problem Solving | Bydd myfyrwyr yn nodi ffactorau a allai ddylanwadu ar atebion lliniaru posibl, ac yn gwerthuso manteision ac anfanteision datrysiadau o'r fath. |
| Critical and analytical thinking | Bydd gofyn i fyfyrwyr ymchwilio, gwerthuso a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer y cyflwyniad. Bydd myfyrwyr yn cynnal dadansoddiad o ffynonellau academaidd ac anacademaidd ac yn cynhyrchu adroddiad academaidd briodol. |
| Digital capability | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio technoleg prosesu geiriau ar gyfer yr adroddiad, a meddalwedd cyflwyno ar gyfer y cyflwyniad. |
| Professional communication | Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig mewn cywair academaidd priodol, a chyflwyno ar lafar mewn modd clir a phroffesiynol. |
| Real world sense | Bydd myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o'u sgiliau, credoau a rhinweddau personol. |
| Subject Specific Skills | Mae’r darlithoedd, seminarau ac aseiniadau yn mynd i’r afael â dadleuon a themâu allweddol ym maes pwnc y myfyriwr.Bydd myfyrwyr yn mynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â rhif, gan gynnwys dadansoddiad ystadegol o dueddiadau. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Geography and Earth Sciences,Aberystwyth University, Llandinam Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622606 : +44 : +44 (0)1970 622021
dgostaff@aber.ac.uk: dgostaff@aber.ac.uk
