Cenedlaetholdeb a chymdeithas

Module Identifier
DA32220
Module Title
Cenedlaetholdeb a chymdeithas
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Professor Rhys Jones
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Hywel Griffiths
Professor Rhys Jones

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Semester Assessment Briff polisi: Briff polisi sy'n gwerthuso ymyrraeth polisi mewn astudiaeth achos yn feirniadol. 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Briff polisi: (5 munud) 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Gwerthuso'n feirniadol y syniad o gendlaetholdeb a dealltwriaethau daearyddol ohono.
  2. Trafod yn feirniadol ddehongliadau perthynol o genedlaetholdeb.
  3. Dadansoddi gwerth cysyniadau ar gyfer deall arwyddocad cenedlaetholdeb ym maes polisi.
  4. Gwerthuso ymyrraethau polisi sy'n ymwneud â chenedlaetholdeb yn feirniadol

Brief description

Amcan y modiwl yw i gyflwyno syniadau mwyaf blaengar ynghylch daearyddiaethau cenedlaetholdeb i fyfyrwyr. Yn y pum darlith cyntaf, cyflwynir myfyrwyr i'r syniad o'r genedlaetholdeb a dealltwriaethau daearyddol ohono yn benodol. Pwysleisir yn y rhan yma yr angen i feddwl am y genedl fel endid cymdeithasol a gofodol sydd wedi ei greu ar sail rhwydweithiau o bobl a phethau amrywiol. Yn ail hanner y modiwl, trafodir goblygiadau'r syniadaeth hon ar gyfer pum pwnc trafod o bwys academaidd a pholisi ym maes cenedlaetholdeb: y broses o greu neu adeiladu cenhedloedd; y cysylltiad rhwng cenedlaetholdeb a dinasyddiaeth; amlddiwylliannedd a hawliau lleiafrifol; y ffordd yr eir ati i frandio a gwerthu'r genedl; celfyddyd a'r genedl.

Content

Rhan 1: Cysyniadu'r genedl
Themâu: damcaniaethau cenedlaetholdeb, cenhedloedd a thiriogaethdeb, cenhedloedd a rhwydweithiau, perthynoldeb.

Rhan 2: Y genedl mewn polisi ac ar waith
Themâu: poblyddiaeth, cenedlaetholdeb a globaleiddio, amlddiwyllianedd a hawliau lleiafrifol, dinasyddiaeth, affaeth ac estheteg.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Ni ddatbygir y sgil hwn yn benodol
Communication Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig drwy'r traethawd, y poster a'r blog. Ysgogir y myfyrwyr i drin a thrafod syniadau yn y darlithoedd ond ni asesir hyn.
Improving own Learning and Performance Bydd gofyn i'r myfyrwyr i drefnu eu hamser eu hunain ac i ymchwilio ac ysgrifennu'n gyson ar gyfer y blog yn benodol
Information Technology Bydd gofyn i'r myfyrwyr feistroli technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio ar gyfer yr aseiniadau ac, yn benodol, wrth baratoi'r poster a'r blog
Personal Development and Career planning Golyga'r pwyslais ar astudio cenedlaetholdeb yn y byd 'go iawn' bod anogaeth ar i'r myfyrwyr i feddwl am y cysylltiadau rhwng syniadau academaidd a byd gwaith
Problem solving Bydd raid i'r myfyrwyr i ddatrys problemau academaidd a pholisi wrth lunio'r traethawd, y poster a'r blog.
Research skills Bydd raid i'r myfyrwyr i wneud ymchwil academaidd a pholisi wrth lunio'r traethawd, y poster a'r blog.
Team work Ni ddatblygir hyn fel rhan o'r modiwl

Notes

This module is at CQFW Level 6