Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc
- Module Identifier
- DA34200
- Module Title
- Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Cerys Jones
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
Cofrestru ar gyfer gradd gyfun neu brif bwnc mewn Daearyddiaeth, Physical Geography neu Human Geography. - Other Staff
- Professor Rhys Jones
- Dr Cerys Jones
- Professor Stephen Tooth
- Dr Tristram Irvine-Fynn
- Dr Gareth Hoskins
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Adroddiad prosiect terfynol o 6,000 o eiriau. | 100% |
| Supplementary Assessment | Ail-gyflwynor adroddiad a fethwyd (<40%). Ni fydd modd ail-gyflwynor adroddiad os na chyflwynwyd yr adroddiad gwreiddiol oherwydd rheswm annilys | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- 1. Cynllunio, dylunio a chyflawni darn o ymchwil neu ymholiad daearyddol trwyadl. 2. Cyflawni ymchwil empiraidd effeithiol ac addas, gan gynnwys casglu data cynradd. 3. Dadansoddi data'n drwyadl, gan ddefnyddio technegau addas a dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli. 4. Cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig sylweddol ar yr ymchwil mewn dull academaidd addas. 5. Dangos hunangymhelliad, gallu i gynllunio a blaengarwch wrth weithio'n annibynnol.
Brief description
Modiwl yw hwn ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol sy'n cael ei arwain gan fyfyriwr Daearyddiaeth gradd gyfun a phrif bwnc. Bydd pwnc addas sy'n berthnasol i'r byd daearyddiaeth yn cael ei gynnig gan y myfyriwr a'i gymeradwyo gan gyd-gysylltydd y modiwl. Ceir pedair rhan i'r prosiect: (i) dynodi pwnc ymchwil a datblygu cynllun ymchwil addas; (ii) ymchwil empiraidd i gasglu gwybodaeth o ffynonellau eilaidd, a chasglu data cynradd os oes angen, fel bo'n briodol ar gyfer y gwaith ymchwil; (iii) dadansoddi data a gwybodaeth, gan gynnwys dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli; (iv) creu adroddiad terfynol 6,000 o eiriau, i'w gyflwyno ar ddiwedd semester 1.
Content
Modiwl yw hwn ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol sy'n cael ei arwain gan fyfyriwr Daearyddiaeth gradd gyfrun a phrif bwnc. Penodir ymgynghorydd ar gyfer pob myfyriwr a fydd yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar ddatblygiad y prosiect, yn ogystal a'r ffordd y bydd yn cael ei adrodd. Derbynia myfyrwyr gefnogaeth ar gyfer eu hastudiaethau annibynnol mewn sawl cyd-destun:
(i) pedwar cyfarfod fel unigolyn gyda'u harolygydd. Galluoga'r cyfarfodydd hyn i'r arolygydd i roi adborth a chyfarwyddyd a fydd wedi ei dargedu'n benodol ar astudiaeth y myfyriwr. Bydd y cyfarfodydd hyn yn sylfaen ar gyfer y system Tiwtor Personol ar Lefel 3;
(ii) tri cyfarfod grw^p yn ystod semester 1, a fynychir gan holl fyfyrwyr gradd gyfun/prif bwnc aelod o staff. Bydd cyfle yn y cyfarfodydd hyn i drafod erthyglau a fydd yn help i'r holl fyfyrwyr hyn i gwblhau eu prosiect;
(iii) tair darlith sgiliau cyffredinol (a fydd yn cynnwys elfennau APPR arwyddocaol) ar gyfer y cwrs gradd neu ar gyfer y flwyddyn yn gyffredinol, fel y bo'n briodol. Bydd rhai o'r rhain yn sesiynau a fydd yn cefnogi'r Prosiect Gradd Gyfun/Prif Bwnc, e.e. strwythuro eich prosiect terfynol, tra bydd rhai eraill yn canolbwyntio ar faterion CPD, e.g. amgyffred sgiliau a chaffael swyddi.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Os yn addas i'r pwnc ymchwil a ddewisir, gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau rhifyddol trwy gasglu, dadansoddi a chyflwyno data meintiol. |
| Communication | Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy greu adroddiad ysgrifenedig. Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar trwy: drafod yr ymchwil - fesul unigolyn ac mewn grwpiau; ac o bosib, gellir eu datblygu trwy ymchwil empiraidd lle defnyddir dulliau ymchwil geiriol (e.e. cyfweliadau a holiaduron). |
| Improving own Learning and Performance | Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu profiad o gynllunio ac ymgymryd ag ymchwil yn y trafodaethau unigol a grw^p. |
| Information Technology | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG priodol wrth ddynodi ffynonellau data a chasglu data (e.e. y rhyngrwyd, adnoddau gwybodaeth electronig), wrth ddadansoddi data (e.e. pecynnau ystadegol) ac wrth wneud adroddiad ar y prosiect (e.e. prosesu geiriau, pecynnau GIS a mapio). |
| Problem solving | Datblygir sgiliau datrys problemau trwy nodi cwestiynau ymchwil, methodoleg addas a chynllun ymchwil, a thrwy ymatebion i anawsterau a brofir yn ystod casglu'r data. |
| Research skills | Datblygir sgiliau ymchwil trwy gasglu a dadansoddi data sy'n briodol ar gyfer ymchwilio i'r cwestiynau ymchwil. |
| Subject Specific Skills | Datblygir sgiliau datblygiad personol fel rhan o'r darlithoedd APPR a'r cyfarfodydd Tiwtor Personol sy'n rhan o'r modiwl. Yn ogystal, bydd llawer o'r sgiliau generig a ddatblygir trwy'r prosiect ymchwil yn hynod drosglwyddadwy i ystod eang o yrfaoedd. |
| Team work | Datblygir medrau gwaith tim yn y cyfarfodydd grw^p, e.e. ar ffurf trafodaeth a gwaith grw^p. Ni fydd y medrau hyn yn cael eu hasesu'n ffurfiol. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Geography and Earth Sciences,Aberystwyth University, Llandinam Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622606 : +44 : +44 (0)1970 622021
dgostaff@aber.ac.uk: dgostaff@aber.ac.uk
