Cyflwyniad i Ffiseg Labordy ar gyfer Ffisegwyr a Pheirianwyr
- Module Identifier
- FG05700
- Module Title
- Cyflwyniad i Ffiseg Labordy ar gyfer Ffisegwyr a Pheirianwyr
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Anita Brady-Boyd
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
TGAU Mathemateg a Gwyddoniaeth neu gyfatebol - Exclusive (Any Acad Year)
-
PH05720
Ddim ar gael i fyfyrwyr ar gynllun gradd Baglor 3 blynedd neu ar gynllun gradd Meistr Integredig. - Other Staff
- Dr Rachel Cross
- Professor Huw Morgan
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Adroddiad ffurfiol ysgrifenedig: | 20% |
| Semester Assessment | Cyflwyniad llafar: | 20% |
| Semester Assessment | Dyddiadur labordy ysgrifenedig: | 60% |
| Supplementary Assessment | Fel bennir gan y bwrdd arholi adrannol: | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- 1. Cyflawni arbrofion syml yn y gwyddorau ffisegol
- 2. Cyflawni dadansoddiad syml o gyfeiliornadau mewn mesuriadau
- 3. Llunio casgliadau priodol o ganlyniadau
- 4. Cyflwyno a dadansoddi gwaith mewn dyddiadur labordy
- 5. Disgrifio gwaith mewn adroddiad ffurfiol
- 6. Trafod gwaith mewn cyflwyniad llafar
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i waith arbrofol yn y gwyddorau ffisegol. Rhoddir pwyslais ar hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio offerynnau sylfaenol, gwneud cyfrifiadau cyfeiliornadau syml ac asesu'r canlyniadau yn feirniadol er mwyn dod i gasgliadau dibynadwy. Mae'r arbrofion wedi'u cynllunio i adlewyrchu testunau damcaniaethol a gyflwynir mewn modiwlau eraill – felly mae'r arbrofion yn cwmpasu priodweddau mater, grymoedd, mecaneg, trydan, magneteg ac electroneg. Datblygir sgiliau cyflwyno yng nghyd-destun yr arbrofion.
Content
Mae'r modiwl yn cynnwys set o arbrofion o wahanol feysydd o Ffiseg sy'n cynnwys: osgiliadau, tonnau, ffiseg thermol, trydan, magneteg ac electroneg. Bydd y myfyrwyr yn cyflawni'r rhain mewn cylchdro.
Ar gyfer cyflwyniad y gwaith disgwylir i bob myfyriwr gadw Dyddiadur Labordy gan nodi cynnydd manwl pob arbrawf, ysgrifennu adroddiad ffurfiol ar arbrawf neilltuol a rhoi cyflwyniad llafar.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Mae sgiliau mathemategol yn ganolog i ddeall a chymhwyso'r theori sylfaenol. Cofnodi data wrth gynnal arbrofion. Cymhwyso dadansoddiad cyfeiliornad sylfaenol i fesuriadau. Asesir drwy ddyddiaduron labordy ac adroddiad ffurfiol. |
| Communication | Cofnodi arbrofion yn y dyddiadur labordy. Cyd-weithio mewn grwpiau bychain i gyflawni arbrofion. Cyfathrebu canlyniadau drwy adroddiad ffurfiol a chyflwyniad llafar. |
| Improving own Learning and Performance | Ystyried y gwaith yn feirniadol ac adlewyrchu i asesu'r modd y cyflawnwyd arbrawf a sut y gellid ei wella. |
| Information Technology | Defnyddir prosesydd geiriau i baratoi'r adroddiad ffurfiol. Defnyddir PowerPoint neu becyn cyfatebol yn y cyflwyniad llafar. Defnyddio offer arbrofol sylfaenol. |
| Problem solving | Caiff myfyrwyr eu hannog i gyflawni'r arbrofion a chynnig dulliau a datrysiadau. |
| Research skills | Mae angen ymchwil cefndirol a sgiliau cyfeirio elfennol ar gyfer adroddiad ffurfiol. |
| Subject Specific Skills | Cymhwyso theori sylfaenol yn y gwyddorau ffisegol i ddulliau arbrofol. |
| Team work | Mae'r myfyrywr yn gweithio mewn grwpiau bychain ar bob arbrawf ymarferol. |
Notes
This module is at CQFW Level 3
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
