Dynameg, Tonnau a Gwres

Module Identifier
FG10020
Module Title
Dynameg, Tonnau a Gwres
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Dr Balazs Pinter
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite

Safon Uwch Ffiseg a Mathemateg neu gyfatebol
Exclusive (Any Acad Year)
PH10020
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Gwaith Cwrs: 30%
Semester Exam Arholiad: 3 Hours 3 Awr 70%
Supplementary Assessment Gwaith Cwrs: 30%
Supplementary Exam Arholiad: 3 Hours 3 Awr 70%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dwyn i gof a datgan egwyddorion sylfaenol dynameg, tonnau a ffiseg thermol.
  2. Deillio a chymhwyso theori mudiant trawsfudol, cylchdroi ac osgiliadu, lledaeniad tonnau a chymwysiadau, a ffiseg thermol.
  3. Llunio hafaliadau mathemategol wedi'u diffinio'n dda i fynegi problemau ar destunau dynameg, tonnau a ffiseg thermol, ac egluro cymwysiadau yr hafaliadau yn y cyd-destunau neilltuol.
  4. Cymhwyso technegau mathemategol i ddatrys problemau rhifiadol wedi'u diffinio dda ar ddynameg, tonnau a ffiseg thermol.
  5. Dehongli ac egluro atebion i broblemau yng nghyd-destun y gwyddorau ffisegol.

Brief description

Mae'r modiwl yn cyflwyno testunau craidd mewn cynlluniau gradd Gwyddorau Ffisegol a'u cymwysiadau. Mae ganddo dair prif ran. Mae'r rhan gyntaf yn cyflwyno mudiant trawsfudol, cylchdroi ac osgiliadu. Mae'r ail ran yn cyflwyno tonnau ac ymddygiad golau. Ystyrir ffiseg thermol ar raddfeydd macrosgopig ac atomig yn y rhan olaf.

Aims

Nod y modiwl yw i ddatblygu dealltwriaeth y myfyriwr o'r egwyddorion a thechnegau sydd wrth wraidd dynameg, tonnau a gwres a'u cymwysiadau. Rhoir pwyslais ar gymhwyso'r egwyddorion i ddatrys problemau gydag enghreifftiau rhifiadol yn cael eu darparu ar gyfer y myfyriwr i ymarfer. Mae'r modiwl yn ymdrin â thestunau craidd mewn cynlluniau gradd yn y gwyddorau ffisegol ac yn paratoi'r myfyriwr i ddefnyddio'r testunau ym modiwlau uwch Rhan 2.

Content

DYNAMEG
Rhagarweiniad i fectorau: mesurau fector a sgalar; cydrannu fectorau; lluoswm sgalar a lluoswm fector
Mudiant trawsfudol a mudiant cylchol: cinemateg; deddfau mudiant Newton; gwaith, egni a phŵer; gwrthdrawiadau
Mudiant cylchdroi solid: moment inertia; cyffelybiaethau gyda mudiant trawsfudol
Osgiliadu: mudiant harmonig syml; osgiliadu gorfod wedi'u gwanychu

TONNAU
Tonnau teithiol
Ffenomenau ton: arosodiad tonnau; effaith Doppler
Natur golau: opteg geometregol a natur tonnau
Gwasgariad; ymyriant; diffreithiant
Cymwysiadau a therfannau ar gyfer offer optegol

FFISEG THERMOL
Deddf serofed thermodynameg; graddfeydd tymheredd
Ehangiad thermol solidau
Cynhwysedd gwres a gwres cudd
Nwy delfrydol; newidynnau cyflwr
Deddf gyntaf thermodynameg: cydbwysedd thermol; egni mewnol; gwres; gwaith
Theori ginetig nwyon: dosraniad Maxwell-Boltzmann

Module skills

Skills type

Skills details

Creative Problem Solving Datblygir sgiliau datrys problemau gydol y modiwl a chânt eu hasesu mewn aseiniadau ac arholiad semester.
Digital capability Disgwylir i fyfyrwyr i ymchwilio testunau yn y modiwl trwy'r rhyngrwyd.
Professional communication Mae cyflwyniad clir o waith gan y myfyrwyr mewn gwaith cwrs ac arholiad semester yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Subject Specific Skills Mae dynameg, tonnau a ffiseg thermol yn destunau craidd mewn cynlluniau gradd Ffiseg. Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth o'r testunau hyn.

Notes

This module is at CQFW Level 4