Technegau Labordy ar gyfer Ffisegwyr Arbrofol a Pheirianwyr (20 Credyd)

Module Identifier
FG15700
Module Title
Technegau Labordy ar gyfer Ffisegwyr Arbrofol a Pheirianwyr (20 Credyd)
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 1 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Rachel Cross
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite

Safon Uwch Ffiseg a Mathemateg neu gyfatebol
Exclusive (Any Acad Year)
PH15510
Exclusive (Any Acad Year)
FG15510
Exclusive (Any Acad Year)
PH15720
Other Staff
Dr Rachel Cross

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Adroddiadau Labordy Ysgrifenedig: (2 x 1000 gair) 30%
Semester Assessment Dyddiaduron Labordy Ysgrifenedig.: Caiff y myfyrwyr eu hasesu ar ansawdd eu nodiadau yn ystod arbrofion. Mae pob arbrawf yn unigryw ac mae hyd yr ysgrif sydd ei hangen yn wahanol. Y gofyniad lleiaf yw 200 gair yr arbrawf. 70%
Supplementary Assessment Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol: 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos cymhwysedd ymarferol a chywirdeb wrth gynnal gweithdrefnau arbrofol, gan gynnwys mesur, defnyddio offer gwyddonol a chofnodi canlyniadau.
  2. Ysgrifennu adroddiad gwyddonol clir gan gynnwys y cefndir damcaniaethol, disgrifiad arbrofol, cyflwyniad a dadansoddiad o ganlyniadau, a dehongli a gwerthuso.
  3. Adnabod mathau o ansicrwydd mewn arbrawf a phenderfynu ar ledaeniad y cyfeiliornadau.
  4. Dangos y gallu i weithio gydag eraill mewn modd ystyriol a chydweithredol.
  5. Parchu a chydnabod eiddo deallusol eraill.

Brief description

Mae arbrofi yn ran sylfaenol o'r gwyddorau ffisegol. Mae'n ein galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas, i ddatblygu damcaniaethau ac i brofi'r damcaniaethau hynny. Yn y modiwl yma byddwch yn dysgu'r technegau sylfaenol o gynnal arbrofion, gwneud mesuriadau, rhoi sylw i ansicrwydd yn eich mesuriadau, dadansoddi canlyniadau a'u cymharu gyda theori.

Mae modiwlau arbrofol y cynlluniau gradd wedi eu llunio fel bo myfyrwyr yn datblygu o ddilyn set o gyfarwyddiadau manwl i gyflawni arbrofion syml ar y dechrau, i ymchwilio testun a datblygu eu harbrofion a'u hymchwilio eu hunain yn eu prosiectau blwyddyn olaf.

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion i waith labordy mewn meysydd allweddol o'r gwyddorau ffisegol, sy'n gallu cael eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i'r israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal â'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i'r myfyrwyr ysgrifennu am ddau o'r arbrofion mewn adroddiadau ffurfiol, gan gynnwys ymchwilio i gefndir y testunau. Yn ychwanegol at hyn, yn yr ail semester bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ffyrdd o recordio a chyflwyno data gan ddefnyddio dyfeisiau electronig a phecynnau cyfrifiadurol.

Content

• Dadansoddi cyfeiliornadau sylfaenol.
• Cadw dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiadau.
• Mae'r arbrofion yn seiliedig ar bynciau craidd yn y gwyddorau ffisegol, yn cwmpasu meysydd allweddol drwy ymchwilio ymarferol.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Yn ei hanfod, mae'r gwyddorau ffisegol yn seiliedig ar ddefnyddio mathemateg a mesuriadau arbrofol. Mae defnyddio rhifau yn ran ganolog o'r modiwl yma.
Communication Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiadur labordy ac yn ysgrifennu adroddiadau ar yr arbrofion. Bydd yr myfyrwyr yn gweithio mewn parau a grwpiau bychain, gan drafod eu darganfyddiadau arbrofol.
Improving own Learning and Performance Bob wythnos bydd yr adborth a roddir ar y dyddiaduron labordy yn annog y myfyrywr i ddatblygu eu sgiliau o ysgrfennu nodiadau.
Information Technology Mae dadansoddi data modern yn ddibynnol ar ddefnyddio cyfrifiaduron. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadurol i ddadansoddi data mewn rhai o'r arbrofion, a disgwylir iddynt ddefnyddio prosesydd geiriau ar gyfer eu hadroddiadau labordy.
Problem solving Bydd y myfyrwyr yn defnyddio technegau datrys problemau yn ystod yr arbrofi ac wrth drin data o'r arbrofion.
Research skills Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion.
Subject Specific Skills Defnyddio offer gwyddonol. Cynnal arbrofion. Ysgrifennu mewn dull gwyddonol. Dadansoddi cyfeiliornadau arbrofol.
Team work Yn gyffredinol bydd y myfyrwyr yn gwneud yr arbrofion mewn grwpiau o ddau a byddwn yn annog cydweithio wrth ddatrys problemau modelu.

Notes

This module is at CQFW Level 4